Un o gantorion opera fwya'r byd.
"Mae yna gynulleidfa i opera ymhlith bob oed o naw i naw deg a tasa rhywun mond yn medru agor y drws iddyn nhw i'r byd o gyfoeth a gefais i, bryd hynny, fe fyddwn i'n gwybod ei fod o werth e" Geiriau Geraint Evans Wyddech chi? : Ganwyd Syr Geraint Evans yn yr un stryd fach â chyn bennaeth Coleg y Brifysgol Cymru, Aberystwyth, Gareth Owen, y cyn Ysgrifennydd Gwladol Merlyn Rees a'r tenor Stuart Burrows. Ganwyd ei wraig yno hefyd!
Ganwyd Geraint Evans yn Stryd William, Cilfynydd ger Pontypridd yn 1922 ac er iddo deithio'r byd yn canu, roedd ganddo dŷ yn Aberaeron yng Ngheredigion am dros ddeng mlynedd ar hugain.
Roedd cerddoriaeth i'w chlywed yn y cartref gan mai ei dad oedd yn gyfrifol am Gôr Meibion Pontypridd ac roedd ei fam, a fu farw pan oedd Geraint yn hogyn ifanc, yn gantores hefyd. Roedd y Geraint ifanc yn canu'r piano a'r ffidl yn dda ac yn canu mewn cynyrchiadau lleol.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a chael swydd yn trefnu ffenestr siop mewn siop ddillad merched ym Mhontypridd. Canwr amatur oedd Geraint tan dechrau'r Ail Ryfel Byd.
Ymuno â'r RAF wnaeth o'n wreiddiol ond yn ddiweddarach fe fu'n gweithio i adran gerdd y British Forces Network a chael cyfle i berfformio'n gyson ar y radio. Fe glywodd yr unawdydd bâs o Awstria Theo Hermann Geraint yn canu a rhoddodd wersi iddo.
Trwy ei gysylltiad â Hermann, fe gafodd Geraint Evans gyfweliad i'r Tŷ Opera Brehinol, yn Covent Garden ar ddiwedd y rhyfel.
Ymunodd â'r cwmni yn 1947 gan ddechrau canu rhannau bychain ond yn fuan fe'i gwahoddwyd i ganu rhan Figaro ac yntau ond yn 26 oed. Cafodd gyfle wedyn i chwarae rhai o gymeriadau mawr opera wrth i eraill glywed amdano. Ond efallai mai ei ran mwyaf oedd fel Falstaff Verdi ac fe ganodd y rhan hwn ar draws y byd gan wisgo dros 30 pwys o sbwng ar adegau.
Ymhlith y ffefrynnau eraill mae Don Pasquale, Figaro, Beckmesser, Leporello a Dulcamara.
La Scala ym MilanUchafbwynt arall yn ei yrfa oedd y gwahoddiad yn 1960 i ganu Figaro yn La Scala Milan dan arweiniad y cawr Herbert von Karajan. Ef oedd y canwr cyntaf o Brydain i ganu yn La Scala mewn 35 o flynyddoedd.
Ym Mawrth 1964, fe deithiodd i Efrog Newydd i ddebut arall ond y tro hwn yn y Met mewn cynhyrchiad o Falstaff wedi'i gyfarwyddo gan Zeffirelli. Yr arweinydd y tro hwn oedd Leonard Bernstein ac roedd ymateb y gynulleidfa yn anhygoel.
Roedd Geraint Evans bellach yn derbyn gwahoddiadau i ganu yn Vienna a Salzburg, San Francisco a Buenos Aires a doedd teithio ar awyren ddim mor gyffredin bryd hynny. Gellid dweud mai Syr Geraint Evans oedd un o'r jet-setters opera cyntaf.
Fe briododd Brenda, athrawes a anwyd hefyd yn Stryd William, Cilfynydd. Er bod y ddau yn byw yn Llundain yn 1960au fe brynon nhw dŷ yn Aberaeron ac yno fe gâi Syr Geraint ddigon o amser i hwylio ei ddileit mawr.
Ei hafan yn Aberaeron
Dechreuodd Geraint Evans ymddeol yn 1982 ac yn ystod ei gyfnod ffarwel hir, cafodd wybod ei fod yn dioddef o glefyd siwgr. Gorfu felly iddo newid ei ffordd o fyw yn go sylweddol er iddo berfformio'n achlysurol tan tua 1984 pan wnaeth ei ymddangosiad olaf yn Covent Garden L'Elisir D'Amore gan Donizetti.
Symudodd Geraint a'i wraig Brenda yn barhaol i Aberaeron ar ôl ymddeol ond roedd o dal yn brysur iawn. Cyhoeddodd ei hunangofiant A Knight at the Opera yn 1984 ac roedd o'n un o gyfarwyddwr gwreiddiol HTV Cymru, cwmni y bu'n gysylltiedig ag ef o'r cychwyn cyntaf.
Roedd ef hefyd yn dysgu dosbarthiadau meistr ac yn hwylio'i gwch Y Marchog. Apwyntiwyd ef yn Uchel Siryf Aberteifi - rôl seremoniol gyda gwisg digon tebyg i'r rhai hynny a wisgodd mewn tai opera ar draws y byd!
Bu farw Geraint yn 1992 ac ar ddiwrnod ei angladd, fe dalodd cannoedd o alarwyr y gymwynas olaf iddo ar hyd strydoedd Aberaeron a hynny i un o gantorion opera mwya'r byd.