Cyfansoddwr rhai o alawon mwyaf adnabyddus a phoblogaidd Cymru megis 'Myfanwy' ac 'Aberystwyth'
"Roedd o'n hunanfodlon a balch, heb arlliw o hunanfeirniadaeth, yn naïf a phlentynaidd ond roedd hefyd yn athrylith, ac fe gafodd ei ddynwared a'i garu gan ei gydgenedl.Gareth Williams, awdur Valleys of Song, Music and Society in Wales.Ganwyd Joseph Parry mewn tŷ teras bychan ym Merthyr yn Ne Cymru ym mis Mai 1841. Fe dreuliodd ei blentyndod yno ond yn dair ar ddeg oed, symudodd efo'i rieni i'r Unol Daleithiau.
Ymsefydlodd y teulu yn Danville, Pennsylvania ac yma y dechreuodd Joseph Parry ysgrifennu cerddoriaeth. Yn fuan iawn, roedd ganddo lu o edmygwyr yn yr Amerig a nhw gyfrannodd mor hael i'w alluogi i astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain rhwng 1868 ac 1871.
Yn 1872, fe symudodd i Aberystwyth ac ef oedd Athro Cerdd cynta'r Coleg yno. Fe fu'n byw'n gyntaf mewn tŷ ar waelod Allt Constitution a gosodwyd cofeb las yno yn ddiweddarach er cof amdano.
Fe arhosodd yn Aberystwyth o 1873 i 1877 ac fe enwyd y fan lle y gweithiai, sef neuadd gerddoriaeth y Brifysgol, ar ei ôl.
Ar ôl gadael Aberystwyth, fe dderbyniodd ddoethuriaeth gerdd o Gaergrawnt yn 1878. Bu'n dysgu hefyd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1888 tan 1903.
Ei waith
Yn gyfansoddwr toreithiog, mae ei waith yn cynnwys operâu, oratorios, cantatas, darnau i'r piano ac emyn donau ond y ffefrynnau yn bendant ydy 'Aberystwyth' a 'Myfanwy'.
Bu farw ar 17 Chwefror, 1903 ym Mhenarth ger Caerdydd ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Awstin Sant yno.