Canwr, cyn aelod o'r grŵp Jess a chyflwynydd teledu
Ganed yn 1970 yn fab i'r Prifardd Dic Jones, a mynychodd Ysgol Gynradd Blaenporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi. Aeth ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Caerfyrddin. Ffurfiodd y band Jess gyda ffrindiau ysgol yn 1987. Daeth Jess i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 80au, gan chwarae gigs cyffrous ledled Cymru, a Brychan yn hudo'r merched gyda'i bersona Jim Morrison-aidd, hanner noeth (o'r canol i fyny!)
Rhyddhaodd Jess eu halbym gyntaf "Jess" (1988) ar label Fflach, ac fe'i dilynwyd gan "Y Gath" (1989), a ddangosai aeddfedrwydd anarferol a chyd chwarae tynn ac arbrofol. Cydnabyddir mai eu halbym nesaf, "Hyfryd i Fod yn Fyw" (1990) yw eu campwaith. Mae'n un o albyms gorau y 1990au (mewn unrhyw iaith), ac yn dal yn swnio'n ffres heddiw, gyda chlasuron megis "Julia Gitar" a "Shiglidi Bot" yn dangos band yn llithro'n ymddangosiadol ddiymdrech o un arddull i'r llall - seicadelia, gwerin, ffync, roc a phop.
Roedd ffiniau'r band roc gitâr traddodiadol yn cael eu gwthio i'r eithaf. Ar ôl rhyddhau 'Paris Hotel' (1992), yn ôl tueddiad y cyfnod, trodd Jess i ganu'n Saesneg, a rhyddhawyd 'Sextravaganja' (1993) a oedd yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon 'Paris Hotel'. Recordiwyd rhywfaint o ddeunydd ar gyfer albym bellach, o'r enw "Pink", ond nid yw wedi gweld golau dydd hyd yma, er bod y chwedlau o'i chwmpas yn awgrymu y gallai fod eu halbym gorau oll.
Wedi hynny, ar ôl perfformio'n fyw ar deledu cenedlaethol yr Eidal, tawelwch fu o ran Jess, ond nid oedd hynny i ddweud bod taw ar egni cerddorol aflonydd Brychan Llŷr.
Yr oedd yr albym 'U4Ria' (1997) yn dipyn o ymadawiad cerddorol, gyda Brychan yn rhydd i arbrofi efo'i lais dros wahanol fathau o arddulliau dawns (jyngl, hip-hop garage), a theg dweud y bu'n ormod o bwdin i lawer o ffans traddodiadol Jess i'w llyncu. Serch hynny, roedd yn albym o flaen ei hamser, ac yn gam dewr ymlaen gan artist oedd â'i fryd ar ddilyn llwybr cerddorol bendant ei hun.
Mabwysiadodd ymagwedd uniongyrchol, foel ar gyfer ei albym unigol gyntaf, 'Veleno Rumoroso' (1998), gyda 10 cân acwstig a recordiodd yn ei stiwdio gartref, ond roedd gwreiddioldeb y caneuon dwyieithog a llais anhygoel, aml-haenog Brychan yn nodweddion amlwg.
Mae ei ail albym unigol 'Vexed Fanatica' (2000) yn llawer mwy sylweddol-dros 48 munud o hyd, ond roedd yn dangos eto fod byd cerddorol Brychan yn fythol symudol, ac nad oedd diben ei gategoreiddio o dan bennawd unrhyw arddull arbennig.
Roedd 'Bad Pink Vibe' (2001) yn albym fwy hwyliog, a hanner y caneuon wedi eu recordio fel perfformiadau byw, ac roedd yn cynnwys cyfraniad a ffrwyth cydweithio gyda Randy Bernsen, sydd wedi cydweithio gyda rai o enwau mwyaf y sîn jazz gyfoes.
Ei albym ddiweddaraf yw 'Reel in Between', sy'n cynnwys cyfraniadau gan ei hen bartner o ddyddiau Jess, Chris Lewis, ac amryw o gerddorion Eidalaidd.
Er mai cymharol ychydig o sylw a gafodd ei recordiau unigol yng Nghymru, gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun yn yr Eidal, lle y mae'n ymwelydd cyson, ac fe'i gwelir ambell waith yn cyflwyno'r rhaglen cylchgrawn Wedi 3 ar S4C Digidol.
Mae hefyd yn rhedeg gwersyll tîpis ar fferm ei deulu ym Mlaenannerch. Sir Benfro, a bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf cyn bo hir fel joci yn rasio ceffylau dros glwydi. Mae'r enaid aflonydd yn parhau!