BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bywyd Cyhoeddus
Llywelyn Ein Llyw Olaf
Llywelyn ein Llyw Olaf

Ganwyd: 13eg ganrif

Magwyd: Gwynedd


Arweinydd olaf y Gymry rydd, annibynnol

Cydnabyddir Llywelyn ap Gruffydd neu Llywelyn Ein Llyw Olaf fel un o arweinwyr ola'r Gymru unedig.

Roedd ei daid Llywelyn Fawr hefyd yn arweinydd cadarn a lwyddodd i uno'r gwahanol ardaloedd yng Nghymru dan ei arweiniad. Ond yn dilyn ei farwolaeth yn 1246, fe chwalodd yr undod hwnnw ac fe aeth ardaloedd eto dan ddylanwad y Sais.

Yn 1255, cyhoeddwyd Llywelyn ap Gruffydd yn dywysog Gwynedd ac erbyn 1258 daeth nifer o arweinwyr eraill Cymru ynghŷd i wneud llw o ffyddlondeb iddo fel Tywysog Cymru. Sefydlodd wasanaeth sifil digon syml a strwythur codi arian i dalu am ei fyddin.

Llwyddodd i sicrhau hyn i gyd yn ddiwrthwynebiad ac yn ôl Cytundeb Trefaldwyn cydnabyddodd Henry III, Brenin Lloegr ei hawl i alw ei hun yn arweinydd y Cymry. Newidiodd y sefyllfa'n llwyr pan ddaeth Edward I i'r orsedd. Doedd y brenin newydd ddim yn hapus gydag amharodrwydd Llywelyn i dalu gwrogaeth i lys Lloegr.

Her Dolforwyn
Gwynedd oedd calon teyrnas Llywelyn ond roedd ganddo ganolfannau yn Mhowys hefyd ac yn arbennig yn Nolforwyn ger Trefaldwyn, a dechreuodd godi castell yno yn 1273. Gwelodd Edward I hyn fel ymdrech bendant i danseilio'i awdurdod ef.

Yn 1276-77 casglodd y brenin newydd fyddin enfawr ynghŷd yng Nghaer. Doedd gan Llywelyn ddim dewis y tro hwn ond ildio'r tir a enillwyd ganddo a chwilio am loches yn ôl yng Ngwynedd, ar sail Cytundeb Aberconwy. Ond nid dyna ddiwedd yr hanes.

Ym Mawrth 1282 ymosododd brawd Llywelyn, Dafydd, ar Gastell Penarlâg ac yn dilyn hyn fe ymunodd Llywelyn â'i frawd ac arwain gwrthryfel Cymreig yn erbyn Edward a bu brwydro ffyrnig rhwng y ddwy ochr.

Ar 11 Rhagfyr 1282, arweiniodd Llywelyn fyddin o 7,000 i ardal ger Llanfair-ym-Muallt. Yno rhywsut, ymddengys i Llywelyn a chriw bychan o'i ddynion wahanu oddi wrth gweddill y fyddin.

Ym mhentref bach Cilmeri, ymosodwyd arnyn nhw gan rai o filwyr Edward a lladdwyd Llywelyn. Dim ond ar ôl ei ladd y sylweddolwyd yn iawn pwy oedd Llywelyn.

Anfonwyd pen Llywelyn yn anrheg i'r Brenin yn Llundain ac fe'i cludwyd drwy strydoedd y ddinas i'w arddangos cyn ei adael i bydru ar bostyn haearn ger Tŵr Llundain.

Credir i'w gorff gael ei gladdu yn Abaty Cwm Hir ger Rhaeadr. Ychydig sy'n weddill o'r Abaty erbyn heddiw ond mae Cadw yn diogelu'r safle a gosodwyd cofeb i nodi'r fan y bu farw Tywysog Olaf y Cymry.


Cyfrannwch

Huwcun Fishlock o Llanelli
Ffabiwlas!Rydw i wedi dechrau'r "ffan clyb" os esgusodwch chi'r saesneg, ac mae hi'n mynd yn wych! rydw i yno, a nawr mae fy ffrind i wedi ymuno, a rydym yn siarad am ei fywyd a faint mor grwfi ydy e fod llywelyn ein llyw olaf yn fodern a secsi. cadwch lan y gwaith!!
Wed Nov 4 18:17:12 2009

Enfys ab Owena Griffiths o Ynys Mon
Tudalen diddorol a deallus sy'n denu sylw y darllenwr. Mwynheuais ei ddarllen yn fawr, gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn hanes Cymru.
Mon Sep 7 18:29:38 2009

vikki bowen merthyr tudfyl ysgol rhydywaun
diolch yn fawr maer tudalen hon wedi helpu fi yn fy gwaeth ymchwyl hanes diolch yn fawr xx
Wed Jun 10 19:12:10 2009

brian
fin cael gwaith cartref helpwch!!!!!!!!!!dim ond yn jocan mae yn (really) ddaArdderchog
Tue May 19 21:21:59 2009

Lydia richards Dinas powys
mae llywelyn yn swnon neis ond dwi yn estidio llywelyn yn hane!!!!!
Sun May 10 18:59:14 2009

Angharad
Mae'r tudalen hon yn ardderchog
Tue Jan 6 19:44:11 2009

Huwcun Fishlock o Llanelli
maer wefan yma yn ysblennydd...diolch o galon am `y wefan yma a rydw i yn mynd i ddechrau clwb ffan am y dyn mywaf hip yn hanes cymru llywelyn "luvsyalots" ap gruffudd!!!!!!
Fri Sep 19 10:12:56 2008

Tom Newton Ysgol Plasmawr
Yn dda iawn am taflen o wybodaeth i waith ysgol ! Defnyddiwch hyn !!!
Fri Sep 12 18:06:00 2008

Holly o Gaerdydd
Mae'r tudalen yma yn help enfawr gyda fy ngwaeth cartref ar hanes Llywelyn ein llyw olaf !!ag mae'n synidda i rhoid 'COMMENT' box lawr ar y gaelod da iawn !!
Thu Sep 11 16:18:53 2008

ysgol cwmtawe x
Mae'r tudalen yma'n ardderchog, maen wedi helpu i llawer gyda fy ngwaith ymchwil ar gyfer fy wersi cymraeg. Bu'n gymorth mawr. diolch yn fawr iawn ...x ysgol cwmtawe ...x :P =D x x x
Wed Sep 3 14:10:13 2008

Angela Fowler o Trebannws
ffindais i y tudalen hon yn galed i deall ond roedd hi'n diddorol i darllen! ydych chi gallu wneud ef yn saesneg ac cymraeg?
Wed Sep 3 13:53:00 2008

Ffion
Mae'r tudalen hon wedi helpu yn fawr gyda fy ngwaith ymchwil ar gyfer fy wersi cymraeg. wedi cael A*:p diolch yn fawr iawn...x :D
Wed Sep 3 13:51:51 2008

Ysgol Dyffryn Conwy
Diolch yn fawr am yr wybodaeth am hanes Llywelyn. Bu'n gymorth mawr.
Wed Sep 26 14:15:47 2007

Jordan o Ysgol Gyfun Gwynllyw
sut bu farw llywelyn?
Mon Feb 12 20:41:22 2007

Caron o Mon
Wedi helpu gyda gwaith ysgol!
Fri Jan 26 18:24:19 2007

Emily a Stena o ysgol y Creuddyn
Mae'r tudalen hon wedi bod yn dda iawn am cael gwybodaeth i gwneud gwaith cymraeg. Cofiwch Llywelyn ein llyw olaf!
Thu Nov 30 11:16:02 2006

Angharad o Lanymddyfri
Gwych ar gyfer cywaith hanes.
Tue Feb 28 21:20:18 2006

Llinos a Sioni
Da ni yn archwylio hanes Cymru yn ysgol. Mae o yn hwyl. Rydym wedi darganfod llawer o bethau nad oeddem yn gwybod oedd yn bodoli. A ma athrawes Cymraeg ni yn cool. Hia Mrs Roberts.
Fri Jan 27 12:27:30 2006

Gerwyn o Bethesda
Mae'r tudalen yma'n ardderchog, maent wedi helpu i llawer gyda fy ngwaith.
Thu Jan 12 11:54:21 2006

Dafydd Llyr, Cymru
Braf gweld bod y Cymry dal â diddordeb yn ein tywysogion. Fel disgynydd i Llywelyn ein Llyw Olaf teimlaf yn falch iawn o'ch diddordeb a gobeithio, rhyw ddydd y cawn ryddid ac anibyniaeth oddi wrth Loegr eto yn y dyfodol agos!
Mon Jan 9 10:53:48 2006

Llelo o Pwllheli
Tudalen ardderchog, a fy mhod wedi cael fy enwi ar ei ol!!
Sat Dec 10 22:11:19 2005

Nia o Gricieth
Cofiwch Llywelyn - ein Llyw, ein llew, ein lloer.
Thu Sep 22 19:03:13 2005

Lucy o Porthmadog
Mae'r wefan yn ardderchog!
Tue Jun 28 17:41:50 2005

Sarah o Pontarddulais
Yn ddeallus iawn, wedi helpu fi i ddeall yr hyn a ddigwyddodd, help mawr gyda fy ngwaith Cymraeg. Ardderchog!
Sun Jun 5 22:39:52 2005

Ellen o Arberth
Digon o wybodaeth ac yn ddeallus!
Mon May 2 17:47:08 2005

Hedd Jones o Gaerdydd.
Mae'r tudalen hon wedi helpu yn fawr gyda fy ngwaith ymchwil ar gyfer fy wersi cymraeg. Diolch yn fawr!!!
Sun May 1 17:45:28 2005

Eleri Williams o Gaerfyrddin
Mae'r tudalen hon yn ardderchog am wybodaeth am Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n ardderchog i cael gwybodaeth am broject hanesyddol!
Sun Feb 6 18:12:43 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy