128fed Esgob Tyddewi
Bywgraffiad:
Etholwyd Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, y Tra Pharchedig John Wyn Evans, yn 128fed esgob yr esgobaeth gan Goleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru, a gyhaliwyd 'dan glo' yn yr Eglwys Gadeiriol.
Bu'r Tra Pharchedig John Wyn Evans (sy'n cael ei adnabod fel Wyn), 61, yn gwasanaethu fel Deon am 14 o flynyddoedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, ef a fu'n gyrru'r prosiect adnewyddu £10 yn ei flaen. Roedd y gwaith cymeradwy hwn yn cynnwys ailadeiladu ac ymestyn ardal hanesyddol y cloestrau ac, yn ei sgil, mae dyfodol yr adeilad yn ddiogel am genedlaethau i ddod.
Magwyd Wyn Evans, 61, yn Aberystwyth fel mab i ficer Aberystwyth, Eifion Evans. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth ac astudiodd archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Bu'n hyfforddi am yr offeiriadaeth yng Ngholeg Mihangel, Llandaf, rhwyng 1968-71 a threuliodd y cyfan o'i weinidogaeth yn Esgobaeth Tyddewi.
Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1972 ac fe fu Wyn yn gwasanaethu fel is ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi rhwng 1972-75.
Yn dilyn cyfnod o ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen, dychwelodd i Sir Benfro, er mwyn gwasanaethu fel Rheithor Llanfallteg gyda Chlunderwen a Henllan Amgoed gyda Llangan, 1977-82. Bu'n Gyfarwyddwr yr Ymgeiswyr i'r Offeiriadaeth yn yr esgobaeth rhwng 1978-83, yn gaplan Coleg y Drindod Caerfyrddin rhwng 1982-90 ac yn gyfarwyddwr addysg esgobaethol rhwng 1982-1992. Penodwyd ef yn ganon mygedol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1988 ac fe fu'n ganon yno rhwng 1990 a 1994. Penodwyd ef yn Ddeon y Capel yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin 1990-94, ac fe fu'n bennaeth yr adran astudiaethau crefyddol rhwng 1991 - 94. Penodwyd ef yn Ddeon a Chantor yn Eglwys Gadeiriol yn 1994. Bu'n ficer Tyddewi 1994-2001, bywoliaeth a ddaeth yn Blwyf Rheithorol ac a'i ailenwyd yn Dewisland yn 2001 lle y bu ef yn gwasanaethu fel Rheithor.
Fel hanesydd brwd, mae'r Deon y gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ac yn arbenigwr ar fucheddau seintaiu cynnar Cymru ac a hanes Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Yn ddiweddar, golygodd gyfrol yn dwyn y teitl, ' St David of Wales - Cult, Church and Nation'.
Mae'n briod â Diane, crochenydd proffesiynol.