BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Nia Roberts
Nia Roberts

Ganwyd: 5 Gorffennaf 1972

Magwyd: Aberhonddu


Actores deledu a sinema ac yn enwog am ei rhan yn y ffilm a enwebwyd am Oscar Solomon a Gaenor.

"Mae gan Roberts y cyfuniad iawn o urddas a chryfder a harddwch hen ffasiwn sy'n brin ymhlith merched cyfoes". O'r 'Ffilm Journal International ar Solomon a Gaenor, Awst 2000.

Wyddech chi: Fe aeth Nia Roberts i gyfweliad am Solomon a Gaenor mewn hen sgidiau cerdded a hen siwmper at ei phen gliniau. Roedd hi newydd ddychwelyd o daith ddeufis i Dde America.

Yr ieuengaf o dair o ferched, ganwyd a magwyd Nia Roberts yn Aberhonddu ym Mhowys. Roedd ei theulu yn amlwg mewn theatr amatur yn Theatr Fach Aberhonddu ac mae'n siwr mai yma y sbardunwyd cariad Nia at actio.

Dim ond saith oed oedd hi pan ddechreuodd actio. Pedair blynedd yn ddiweddarach, fe enillodd ei rhan gyntaf sef prif ran mewn ffilm Jackanory The Farm ar gyfer BBC1.

Y Gymraeg ydy iaith gyntaf Nia ac fe aeth i Ysgol Gymraeg Aberhonddu, Ysgol-y-Bannau, o 1975 i 1983 cyn mynd i'r ysgol uwchradd ac ennill 10 TGAU a thair lefel A yno. Fe ymunodd hefyd â Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru ac fe'i derbyniwyd wedyn i astudio Perfformio ym Mhrifysgol Birmingham ac ennill clod yno.

Ar ôl gadael y Coleg, fe aeth Nia i actio'n broffesiynol yn 1996 pan gafodd gynnig rhan yn y gyfres Halen yn y Gwaed.

Enwebu am Oscar
Fe gafodd ei chyfle mawr yn 1998 pan gynigiwyd rhan iddi hi yn ei ffilm fawr gyntaf. Cyfarwyddwyd Solomon a Gaenor gan Paul Morrison a hanes dau gariad ydy hi. Nia sy'n chwarae Gaenor, y Gymraes o deulu anghydffurfiol sy'n syrthio mewn cariad efo'r Iddew Solomon (Ioan Gruffudd).

Defnyddir tair iaith yn y ffilm sef Cymraeg, Saesneg a Yiddish ac fe'i henwebwyd am Oscar yn yr adran Ffilm Dramor Orau. Enillwyd mo'r Oscar yn anffodus ond fe gafodd Nia gydnabyddiaeth rhyngwladol am ei gwaith. Fe enillodd Solomon a Gaenor nifer o wobrau am y ffilm orau yn Verona 2000 ac am y cyfarwyddo gorau yn Cannes yn 1999.

Am ei rhan yn y ffilm Lois, enillodd Nia wobr BAFTA yn 1999 a chydnabyddodd fod ennill y BAFTA wedi rhoi mwynhad arbennig iddi hi gan ei bod yn wobr gan fy ngwlad fy hun.

Mae Nia wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu teledu gan gynnwys Fondue, Rhyw a Deinosors, Dr Terribles House of Horrible, Border Café, Newes of the Weeke, Y Palmant Aur, Glan Hafren, Pobol y Cwm, ac yn fwy diweddar yn ffilm Nadolig 2003 S4C, Siôn a Siân.Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres Holby City.

Ar ddiwedd 2003, yn y flwyddyn i nodi hanner can mlynedd ers marwolaeth y dramodydd Dylan Thomas, chwaraeodd Nia Roberts ran yr Ail Lais yng nghynyrchiad Wales Theatr Company o Under Milk Wood gan y dramodydd enwog. Roedd y cynhyrchiad ar daith o gwmpas Cymru tan ddiwedd Ebrill 2004.


Cyfrannwch

Sion Jones
Dw i'n siwr i fi weld Nia Roberts ar y rhaglen deledu Holby City ar y BBC. Dw i'n meddwl ei bod hi'n actores dda iawn - naturiol iawn hefyd.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy