Un o gynhyrchwyr comedi mwyaf poblogaidd Prydain
"Dw i wedi credu ers amser bod na lawer o dalent heb ei defnyddio yng Nghymru, ac mae'n ddirgelwch imi pam nad yw'n teithio dros y ffin. Os medrwn ni gynhyrchu cantorion a cherddorion, pam ddim comedi?Yn ogystal â chynhyrchu'r rhaglen, fe ymddangosodd Gareth Gwenlan mewn rhifyn Nadolig arbennig o Only Fools and Horses fel yr heddwas ar ben ceffyl sy'n chwalu'r dyrfa er mwyn galluogi Del, Raquel a Damien fynd heibio.
Actor oedd Gareth Gwenlan yn wreiddiol ond bellach mae'n gynhyrchydd a chyfarwyddydd. Mae ei CV yn cynnwys y clasuron megis Perrin, Butterflies, To the Manor Born heb sôn am Only Fools and Horses.
Ganwyd Gareth Gwenlan yn Aberhonddu yn 1937 ac fe ddechreuodd fel actor yn y Theatre Royal yn Efrog yn 1960 cyn derbyn swydd fel actor/gynhyrchydd yn y Derby Playhouse rhwng 1962 ac 1964. Yn ystod y cyfnod hwn, fe gyfarwyddodd dros 40 o gynyrchiadau yn gomedïau, sioeau cerdd a phanto, o Ibsen i Strindberg.
Yn 1964, apwyntiwyd ef yn Brif Ddarlithydd Drama ac Opera yn Ngholeg Cerdd y Gogledd ym Manceinion ac yno fe gyfarwyddodd operâu megis Otello a Madame Butterfly.
Flwyddyn yn ddiweddarach, fe ymunodd ag Adran Ddrama y BBC cyn symud i'r Adran Gomedi yn 1967. Treuliodd y ddwy flynedd ganlynol ym Mhacistan fel ymgynghorydd ar ran y BBC i gwmni teledu canolog y wlad.
Wedi dychwelyd i Brydain, fe gyfarwyddodd a chynhyrchodd nifer o'r comediau gorau gan gynnwys Playhouse efo John Alderton, The Fall and Rise of Reginald Perrin efo Leonard Rossiter, Butterflies efo Wendy Craig, Solo efo Felicity Kendal, To the Manor Born efo Penlope Keith, Double First efo Michael Williams, On the Top efo Dennis Waterman, Only Fools and Horses David Jason a Nicholas Lyndhurst, Waiting for God efo Graham Crowden a Stephanie Cole, The Legacy of Reginald Perrin a thair cyfres o Next of Kin efo Penlope Keith.
Fel pennaeth comedi y BBC o 1983 tan 1990, Gareth Gwenlan oedd yn gyfrifol am gomisiynu nifer o glasuron comedi gan gynnwysYes Prime Minister, Bread, Blackadder, Allo Allo, One Foot in the Grave, Birds of a Feather a Keeping Up Appearances. Yn ystod y cyfnod fe enillodd y BBC y wobr am y comedi gorau ym mhob seremoni BAFTA heb sôn am ennill tri Emmy, sef Oscar y byd teledu.
Fel cynhyrchydd/gyfarwyddwr, mae Gareth Gwenlan hefyd wedi casglu gwobrau lu gan gynnwys 12 enwebiad BAFTA a dwy wobr Academy. Gwnaethpwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Teledu yn 1997 yn ogystal ag ennill chwe gwobr arall y flwyddyn honno. Yn 1998 etholwyd ef yn Gymrawd Coleg Cerdd a Drama Cymru hefyd. Yn fwy diweddar, fe gynhyrchodd rifyn Nadoligaidd Only Fools and Horses a sicrhaodd gynulleidfa o 21 miliwn o bobl.
Yn 2002 apwyntiwyd ef yn bennaeth Adran Gomedi newydd BBC Cymru yn arwain tîm o awduron newydd i hyrwyddo a hybu talent newydd o Gymru. Ei gyfres gyntaf oedd High Hopes sef cynhyrchiad ar y cyd efo Boyd Clack o Satellite City.
Ei funud fawr: Rhifyn olaf trioleg Nadoligaidd Only Fools and Horses yn 1996 yn denu cynulleidfa o dros 21 miliwn, sef y record am raglen a recordiwyd ymlaen llaw.