BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Aled Haydn Jones
"BB Aled"

Ganwyd: 9 Awst 1976

Magwyd: Aberystwyth

Addysg: Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig


Partner i gyflwynydd Radio 1, Chris Moyles ac un o gyflwynwyr C2 ar Radio Cymru.

Wyddech chi?: Enillodd Aled y wobr gyntaf yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd pan oedd rhwng 12 a 15 oed, yn y gystadleuaeth Dawnsio Disgo, yn dynwared Michael Jackson!

Cafodd ei eni a'i fagu yn Aberystwyth yn ystod haf chwilboeth 1976. Roedd yn byw uwchben caffi ei rieni - sef 'Caffi Morgan' un o gaffis mwya' poblogaidd Aber.

Mynychodd Aled Ysgol Gymraeg Aberystwyth a chafodd ei addysg Uwchradd yn Ysgol Gyfun Penweddig.

Gweithiodd yng nghaffi ei rieni ar ddyddiau Sadwrn a gwyliau ysgol, a phan oedd yn ifancach, chwaraeodd â'r syniad o fod yn yrrwr bws pan oedd yn hŷn. Ond ei brif freuddwyd oedd efelychu Phillip Schofield, un o brif gyflwynwyr rhaglenni plant y BBC yn y 1980au.

Wedi gadael yr ysgol uwchradd ym 1992 dechreuodd gwrs Rhaglenni Cyfrifiaduron yng Ngholeg Addysg Bellach Ceredigion, ond sylweddolodd yn fuan nad cyfrifiadureg oedd y proffesiwn iddo ef. Gadawodd Goleg Ceredigion a mynd i Goleg Abertawe i astudio Astudiaethau'r Cyfryngau.

Daeth ei gyfle mawr ar ddiwedd y 1990au, pan oedd Sioeau 'roadshows' enwog Radio 1 yn dod i ben. Cynhaliwyd y Sioe olaf ym 1999, ychydig wedi i Aled ymuno â thîm cynhyrchu Radio 1.

Yn y cyfnod hwnnw y dechreuodd yr hyn a elwid yn One Big Sunday lle roedd Radio 1 yn darlledu'n fyw o gyngerdd awyr agored, mewn trefi gwahanol ar draws y Deyrnas Unedig, bob Sul trwy'r haf. Roedd Aled yn gweithio'n agos gyda'r cyflwynydd enwog Chris Moyles yn y cyfnod hwn.

Tua'r un cyfnod, dechreuodd y sioe realiti poblogaidd Big Brother ar y teledu, ac Aled yn ddilynwr brwd llwyddodd i ennyn yr un diddordeb yn Chris Moyles.

Pan ddechreuodd yr ail gyfres o BB, roedd Aled yn gweithio fel Cynorthwydd Cynhyrchu ar raglen Dave Pearce ar Radio 1 ac estynnodd Chris Moyles wahoddiad i Aled ddod ar ei raglen yn y prynhawn i adolygu'r rhaglen gyntaf o Big Brother. Arweiniodd hyn at slot parhaol i Aled ar y rhaglen bob prynhawn, yn dilyn ac yn trafod holl droeon trwstan y gyfres realiti poblogaidd. Cafodd yr enw "BB Aled" - enw sydd wedi aros gydag ef hyd heddiw.

Dychwelodd 'BB Aled' i'r donfedd yn 2003 pan welwyd cyfres 3 o Big Brother ar ein sgrin fach.

A phan adawodd Lizzie - un o dîm Chris Moyles ei raglen radio, cafodd Aled gynnig slot parhaol bob prynhawn ar y rhaglen oedd yn cael ei darlledu rhwng 3pm a 5pm.

Ym mis Mawrth 2003, ymddeolodd rhieni Aled o Gaffi Morgan, a chlywyd amdano ar Radio 1, wrth i Chris Moyles eu cyfweld ar ei raglen.

Ers Ionawr 2004 mae Aled yn cyd-gyflwyno gyda Chris Moyles ar ei slot frecwast bob bore ar Radio 1.

Uchafbwyntiau eraill gyrfa Aled hyd yn hyn ydy cyfarfod rhai o selebs enwoca'r byd o Madonna, i Kylie a Robbie Williams.

Yn ogystal â gweithio ar Radio 1, mae Aled hefyd yn cyfrannu i raglenni C2 ar Radio Cymru bob nos Iau, ac roedd yn un o'r beirniaid ar y rhaglen deledu i bobol ifanc, Waw Ffactor ar S4C ddiwedd 2003.


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy