Lleidr chwedlonol, ond dyn go-iawn parchus
Ceir dau Dwm Siôn Cati o fewn yr un bersonoliaeth, a'r ddau mor
wahanol i'w gilydd â Jekyll a Hyde. Yn y llyfrau hanes cydnabyddedig
mae'r naill, Thomas Jones, yn fonheddwr dysgedig, tra bod cof cenedl
yn ein cyflwyno i Twm Siôn Cati, herwr lliwgar a dyfeisgar a blediai
achos y tlawd a'r gwan yn erbyn yr ariannog a'r pwerus.
O ran y ffeithiau a wyddom amdano, ganed Thomas Jones tua
1530, a hynny ym Mhorth y Ffynnon neu Fountain Gate ar y ffordd
allan o Dregaron ar hyd ffordd y mynydd am Gwm Berwyn.
Credir
ei fod yn blentyn siawns i ŵr o uchel dras. Cawn gan rai mai ei dad
oedd Syr John Wynn o Wydir, ond dywed eraill ei fod yn fab i Siôn
Dafydd ap Madog ap Hywel Moethen ac mai ei dad-cu ar ochr ei fam,
Catherine (neu Cati), oedd Maredydd ap Ieuan ap Robert, aelod o
deulu bonheddig.
Adeg y Sêl Fawr yn 1559 credir fod Thomas Jones ymhlith y rhai
a dderbyniodd bardwn gan y Frenhines, ond pardwn am beth, tybed?
A oedd yna sail, wedi'r cyfan, i'r hanesion am Twm yr herwr?
Ei yrfa barchus
Un peth sy'n sicr yw bod Thomas Jones yn herodr, yn achyddwr ac yn arwyddfardd o fri.
Ceir tystiolaeth iddo gynorthwyo
swyddogion y Coleg Arfbeisiau; mae nifer o enghreifftiau o'i waith
yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn y Llyfrgell
Brydeinig ar ffurf rholiau achau herodrol ar femrwn a llawysgrifau.
Cyfeiriwyd at ei ddawn gan arbenigwyr cyfoes fel Lewis Dwnn a
George Owen, a bu gohebu rhyngddynt.
Credir hefyd fod Thomas yn fardd a cheir nifer o englynion a rhai
cywyddau a briodolir iddo; yn wir, tybir iddo fod yn bresennol fel bardd
ordeiniedig mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llandaf yn 1564.
Yn 1601 daeth yn Ddistain dros Garon a chredir iddo, yn ystod y
cyfnod hwn, droi at y gyfraith a chael ei ethol yn Ynad - stori
wahanol iawn i'r hanesion sy'n adrodd amdano'n torri'r gyfraith
byth a hefyd.
Er, o ran tegwch i'r straeon hynny, dywedir iddo newid
ei ffyrdd yn hwyrach yn ei fywyd.
Does dim sôn am bwy oedd gwraig gyntaf Thomas, ond priododd
am yr eildro â merch i Syr John Pryce, Aberhonddu.
Dywedir ei bod
hi'n gyn-wraig i un a fu'n Siryf Caerfyrddin, swydd a etifeddwyd gan
Thomas. Bu farw Thomas ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1609 a
phrofwyd ei ewyllys yng Nghaerfyrddin.
Y dirgelwch
Ond beth am alter ego Thomas Jones, sef Twm Siôn Cati? Yn ei
gyfrol A Topographical Dictionary of Wales yn 1833, mynnodd
Samuel Lewis fod Twm yn enwog am ddwyn oddi ar ei gymdogion
a'i fod yn lleidr deheuig a medrus.
Hwyrach fod y disgrifiadau hyn
ohono yn wir gan iddo ddatblygu mewn chwedlau eraill i fod yn
dwyllwr a allai gael y gorau ar ffermwyr ac arglwyddi fel ei gilydd
ond iddo lwyddo i osgoi brifo neb yn gorfforol. Twm oedd yr
ysbeiliwr craff â chalon feddal.
Mae'r chwedlau amdano'n stôr dihysbydd. Un o'r rhai mwyaf
poblogaidd yw honno amdano yn galw gyda siopwr yn Llanymddyfri er
mwyn prynu crochan uwd.
Dangosodd y siopwr sawl un iddo a chododd
Twm un ohonynt i fyny yn erbyn y golau a syllu i mewn iddo. Mynnai y
gallai weld twll yn ei waelod.
Wrth i'r siopwr afael yn y crochan a chael
golwg ei hun ar ei du mewn, gwthiodd Twm y crochan dros ben y siopwr
druan, ac yna prysurodd i ddwyn gweddill y crochanau.
Ardal Twm oedd y mynydd-dir garw ac unig rhwng Tregaron a
Llanymddyfri, yn cynnwys Llanwrtyd a Rhandirmwyn ym
mynyddoedd Cambria.
Ger Bryn Dinas, lle mae afon Tywi yn llifo,
ceir ogof a gaiff ei hadnabod o hyd fel Ogof Twm Siôn Cati.
Erbyn
hyn mae'r fangre'n hafan i adar gyda llwybr swyddogol yn arwain o
gwmpas y bryn ac at yr ogof.
Y Robin Hood Cymreig
Aiff cofnodion ysgrifenedig o hanesion am Twm yn ôl i 1810 o leiaf,
pan gafodd sylw gan y teithiwr a'r hanesydd Samuel Meyrick yn ei
gyfrol bwysig ar hanes Ceredigion.
Dilynwyd hyn gan sgets gan W. F.
Deacon, Twm John Catty, the Welsh Robin Hood, mewn cyfrol o'r enw
The Innkeeper's Album yn 1823 ac mewn drama gan yr un awdur, The
Welsh Rob Roy.
Cyfrol arall sy'n rhamantu am Twm yw The Adventures
and Vagaries of Twm Shon Cati gan T. J. Llewelyn yn 1828, cyfrol a
ddisgrifiwyd fel y nofel Gymreig gyntaf yn Saesneg.
Yn nes at ein dyddiau ni, cyhoeddodd y Western Mail gartwnau o
anturiaethau Twm ar ddiwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau.
Yna, ar ddechrau'r saithdegau cynhyrchodd y BBC ddrama deledu
uchelgeisiol o'r enw Hawkmoor yn cynnwys sêr fel Jane Asher a
Tom Owen. Yn anffodus ni fu'n llwyddiannus iawn.
Y chwedl yn tyfu
Ceir pob math o hanesion ffansïol am Twm.
Dywedir iddo, er
enghraifft, ffoi i Genefa ddwy flynedd cyn iddo dderbyn ei bardwn
brenhinol ar 15 Ionawr 1559.
Does dim amheuaeth i'r hanesion
chwedlonol amdano ddod i ben wedi iddo dderbyn y pardwn hwnnw.
Does dim amheuaeth ychwaith am ei allu fel herodr, achyddwr a
bardd.
Fe'i cyflogwyd gan fonedd Sir Aberteifi i lunio'u hachyddiaeth.
Roedd achyddiaeth a llinach yn rhywbeth poblogaidd iawn yn y cyfnod
gydag amryw o wflr mawr yn awyddus i brofi eu bod yn rhan o
olyniaeth y Tywysogion.
Gadawai hyn y grefft yn agored i dwyll gan
achyddion diegwyddor a fyddai'n ddigon bodlon creu cysylltiadau ffug,
ond does dim tystiolaeth i Twm fod ymhlith y rhain.
Mae'n amhosibl bellach i ni gael darlun clir o hanes bywyd
Thomas Jones, neu Twm Siôn Cati.
Yn sicr, does dim dadl nad oedd
yn ddyn go-iawn, ond mae'n siŵr iddo fod yn fwy o ysgolhaig nag o
gnaf, ac yn fwy o achyddwr nag o walch.
Yn hytrach na llyncu'r holl
hanesion ffansïol a rhamantus amdano, gwell fyddai rhoi coel ar farn
un o'i gydoeswyr, Dr John Davies Rhys, yn ei gyfrol Welsh Grammar
yn 1592. Ei ddisgrifiad ef o Thomas, neu Twm, oedd 'arwyddfardd
mwyaf enwog, medrus a chywir ei gyfnod'.
Lyn Ebenezer
Mwy o hanes Twm Siôn Cati