Cymro a ddaeth yn Brif Elyn Cyhoeddus America
Pa Gymro ddaeth agosaf at fod yn brif ddyn yn y Tŷ Gwyn yn
Washington? Byddai rhai haneswyr yn enwi Charles Evans Hughes a
ddaeth o fewn trwch blewyn i guro Woodrow Wilson yn 1916, ond
byddai eraill yn enwi rhywun gwahanol, Murray Humphreys, gan
mai ef fu'n bennaf cyfrifol am sicrhau gorseddiad Dwight D.
Eisenhower yn Arlywydd yn 1953.
Gangster, nid gwleidydd, oedd Murray Humphreys.
Nid ef oedd y
gangster diwethaf - ac nid ef fydd yr olaf ychwaith - i ddylanwadu ar
wleidyddiaeth.
Humphreys, neu Murray the Hump, oedd olynydd Al
Capone fel prif gangster Chicago.
Mab i Brian ac Ann Humphreys, Cymry Cymraeg o Garno a
ymfudodd i Chicago, oedd Llywelyn Morris Humphreys.
Fel bachgen
papur newydd dysgodd am fywyd y stryd yn gynnar.
Fe'i ganwyd yn
North Clark Street, yr union stryd lle digwyddodd Cyflafan Dydd Sant
Ffolant, a drefnwyd yn 1929 gan Humphreys ei hun.
Magwraeth Gymraeg yn America
Teimlai'r teulu mor falch o'u gwreiddiau Cymreig fel iddynt
wrthod y cyfle i fod yn ddinasyddion Americanaidd.
Dysgodd y mab
Gymraeg yn y wlad bell, a gwelwyd arwyddion cynnar o'r hyn oedd
i ddod wrth iddo ennill rheolaeth lwyr dros werthu papurau yn ei
stryd.
Trodd at dorcyfraith a daeth o dan ddylanwad y Barnwr Jack
Murray gan fabwysiadu ei gyfenw ef fel enw cyntaf.
Erbyn y Gwaharddiad, sef y Ddeddf Gwahardd Alcohol yn ugeiniau'r
ganrif ddiwethaf, roedd Humphreys yn un o ddienyddwyr personol Al
Capone - tipyn o gamp i Gymro mewn cyfundrefn a oedd bron gant y
cant yn Eidalaidd.
Talodd Capone deyrnged gynnes iddo. 'Gall unrhyw
un ddefnyddio gwn,' meddai, 'ond mae'r Hump yn defnyddio'i ben.'
O ran ei ymddangosiad roedd Murray the Hump, neu'r Camel, yn
ddyn trwsiadus a golygus, ond y tu ôl i'r g˘r bonheddig yr olwg
llechai gangster didrugaredd.
Dywedir iddo nid yn unig drefnu
Cyflafan Dydd Sant Ffolant ond iddo hefyd gymryd rhan bersonol yn
y dienyddio pan saethwyd chwech o aelodau gang Bugs Moran yn
farw gan ddynion yn gwisgo lifrai plismyn.
Prif elyn cyhoeddus
Datblygodd Humphreys i fod yn drefnydd personol i Capone.
Petai
un o ddynion y Capo yn wynebu cyhuddiad mewn llys barn, gallai
Capone ddibynnu ar y Camel i drefnu'r amddiffyn ac i lwgrwobrwyo
aelodau o'r rheithgor a hyd yn oed ambell farnwr.
Ef berffeithiodd y
Pumed Gwelliant, sef gwrthod ateb cwestiwn ar y sail y medrai
hynny ei argyhuddo ef.
Erbyn 1930 roedd y Cymro'n gyfrifol am 70 y cant o lwgrfasnachu
Chicago, busnes a oedd yn gyfrifol am greu incwm o 80 miliwn doler
y flwyddyn.
Pan garcharwyd Capone fe'i olynwyd fel y 'Godfather'
gan Humphreys.
Olynodd Capone hefyd fel y prif elyn cyhoeddus.
Methodd holl ymdrechion yr Arlywydd Hoover â rhwydo'r Camel, a
phan fu farw Al roedd Humphreys yn un o ddim ond deg o alarwyr a
gafodd y fraint amheus o fod ar lan y bedd.
Pan ddiddymwyd y Gwaharddiad yn 1933, gan ganiatáu i alcohol
lifo'n gyfreithlon eto, trodd Humphreys at ddulliau eraill o greu arian
- llwgrfasnachu, hapchwarae a phuteinio yn ogystal â chreu busnesau
eraill cyfreithlon.
Rheoli byd y fflimiau
Llwyddodd i ennill grym dros holl undebau
Hollywood fel mai ef, i bob pwrpas, oedd yn rheoli'r diwydiant ffilm
yno.
Adroddodd Llywela, merch Humphreys, stori amdani hi a'i mam
yn ymweld â'r set yn Hollywood lle'r oedd Joan Crawford yn ffilmio.
Gwrthododd y seren honno fynd ymlaen â'r ffilmio nes i'r ddwy adael.
Ymateb pennaeth y stiwdio oedd rhybuddio Joan Crawford, 'Naill ai
mae'r rhain yn aros - neu rwyt ti'n mynd, a dyna ddiwedd ar dy yrfa
di fel actores.' Yn naturiol, aeth y seren ymlaen â'r ffilmio.
Llwyddwyd o'r diwedd i ddod ag achos llwyddiannus yn erbyn
Humphreys yn 1934, a charcharwyd ef.
Daeth allan yn gryfach nag
ydoedd cynt drwy iddo ledaenu ei ddylanwad i Las Vegas, Nevada a
hyd yn oed i Ciwba.
Yn 1959 profodd Humphreys ei glyfrwch pan gafodd ei wysio i
ymddangos mewn llys i ateb cwestiynau am dorcyfraith
cyfundrefnol.
Ymddangosodd wedi'i wisgo fel cardotyn gyda chlwt
dros un llygad ac yn anadlu'n drwm.
Cafodd ei esgusodi rhag
tystiolaethu.
Unwaith y gadawodd y llys, diosgodd ei ddillad ffug ac
aeth ef a'i ddynion i ddathlu mewn tafarn gyfagos.
Dylanwad ym myd gwleidyddiaeth
Pan addunedodd Robert F. Kennedy fel Prif Gwnsel y Pwyllgor
Torcyfraith Seneddol y byddai'n difetha'r Maffia fe'i perswadiwyd i
newid ei feddwl gan Murray drwy iddo roi ei gefnogaeth i John
Kennedy, brawd Robert, yn yr ymgyrch arlywyddol.
Y tro hwn, fodd
bynnag, cefnogodd y ceffyl anghywir gan i John Kennedy fethu â
chael gwared â Castro o Ciwba, a fyddai wedi agor y drws i'r Mob.
Ar ben hynny, dewiswyd Robert Kennedy fel Twrnai Cyffredinol.
Ysgarodd Humphreys â'i wraig yn 1959 a phriododd ferch oedd 25
mlynedd yn iau nag ef.
Roedd ei wraig newydd wedi bod yn briod â
chyfrifydd yn y Mob.
Llofruddiwyd hwnnw gan Humphreys pan
drywanodd ef â phicas rew.
Parhaodd i fyw ar lan y llyn ym Marina
City Tows, un o'r mannau mwyaf ffasiynol yn Chicago, gan dreulio'i
wyliau'n rheolaidd yn Florida.
Marwolaeth 'annaturiol' o dawel
Bu farw yn 1965 o drawiad ar y galon yn dilyn ymgais i'w arestio,
tynged wahanol iawn i'r rhelyw o benaethiaid y Mob.
Bu farw'r
mwyafrif ohonynt trwy gael eu saethu neu eu chwythu'n yfflon gan
ffrwydron.
Trengodd y Camel mewn dull mor annisgwyl fel i
bennawd un o'r papurau newydd gyhoeddi, 'Bu farw Humphreys o
achosion annaturiol'.
Dywedir i Humphreys dalu ymweliad â Charno a hen gartref ei
rieni yn 1963.
Teithiodd, yn ôl yr hanes, o dan enw ffug a dywedodd
ei ferch wedyn fod ganddi ffilm a dynnwyd o'r ardal gan ei thad, yn
cynnwys ei ymweliad â gwasanaeth yn y capel lleol.
A beth am yr honiad mai Humphreys fu'n gyfrifol am orseddu
Dwight D. Eisenhower fel Arlywydd?
Cafwyd y dystiolaeth gan
Llywela, a newidiodd ffurf ei henw i Louella. Adroddodd yr hanes am
ddyn dieithr yn galw i weld ei thad a chriw o'i ffrindiau.
Fe fu trafodaeth
hir a dwys ac wedi i'r dyn dieithr adael, gofynnodd Humphreys i'w
ferch am ei barn amdano.
Atebodd Llywela ei fod yn ddyn ffeind iawn.
'Rwy'n falch dy fod ti yn ei hoffi,' meddai Humphreys, 'gan mai
ef fydd Arlywydd nesaf America.' A gwir a ddywedodd.
Lyn Ebenezer