Prifathro Aberystwyth, cyfaill i ysbïwyr
Mae gan blant y Mans anfantais ddeublyg mewn bywyd. Mae
unrhyw lwyddiant a ddaw i'w rhan yn dueddol o arwain at wfftio, a
phriodolir y llwyddiant hwnnw i ddylanwad afiach y tad ar rai sydd
mewn awdurdod.
Os cwymp a ddaw i'w rhan, priodolir hynny wedyn
i fethiant y tad druan, am iddo fethu â chadw'i blant dan reolaeth.
Un a wyddai ond yn rhy dda am y ddeuoliaeth hon oedd Goronwy
Rees, a orfodwyd i adael ei swydd fel Prifathro Coleg Prifysgol
Cymru, Aberystwyth, yn 1957.
Tueddir i briodoli ei ymddiswyddiad
i sgandal yn ymwneud â'i gyfeillgarwch â chylch o ysbïwyr, ond y
gwir amdani yw, hyd yn oed petai Goronwy Rees wedi byw bywyd
cwbl ddilychwin, byddai wedi gorfod ildio'i swydd beth bynnag.
Pechod mawr mab y Mans yn yr achos hwn oedd gwrthwynebu'r
sanhedrin academaidd a chenedlaethol Cymreig.
Magwraeth yn y mans
Ganwyd Goronwy Rees yn y Rhos, neu Ben-y-Geulan erbyn hyn,
yn Heol y Gogledd, Aberystwyth.
Y Rhos oedd Mans Capel y
Tabernacl, Stryd Powell, capel Methodistiaid Calfinaidd nes iddo gau
ym mis Hydref 2002.
Ei dad oedd y Parchedig Richard Jenkin Rees.
Roedd amaethyddiaeth yn y teulu, gyda thaid Goronwy, John Rees,
wedi gadael y tir i werthu llaeth yn Llundain.
Yn ei gartref yn
Stepney Green byddai'n gweithio hefyd fel saer maen ac yn tendio'i
wartheg allan ar Wernydd Stepney.
Yno ym mherfeddion Llundain
creodd y teulu, fel llawer o'u cyd-Gardis, gornel fach o Gymru ym
mhrifddinas Lloegr.
Gyda'i fryd ar arbenigo mewn meddygaeth, methodd Richard
Jenkin Rees yn ei gwrs cemeg a phenderfynodd fynd i'r
weinidogaeth.
Priododd yn 1894 ag Apphia Mary James, merch
fferm o'r Bow Street.
Yn y cyfamser penodwyd ef yn weinidog ar
gapel Heol Ala, Pwllheli, ac yna symudodd i gapel Presbyteraidd
Clifton Street yng Nghaerdydd.
Erbyn iddo symud i weinidogaethu yn y Tabernacl yn Aberystwyth
yn 1903 roedd ganddo ef ac Appiah ddwy ferch eisoes, a ganwyd
iddynt ddau fab yn Aberystwyth, Richard Geraint a Morgan
Goronwy.
Y tad yn tynnu'n groes
Fel y byddai ei fab ieuengaf ar ei ôl, doedd y tad ddim yn dangos
rhyw barch mawr tuag at wleidyddiaeth leol.
Disgrifiodd Gyngor y
Dref unwaith fel 'Siambr i gnafon a ffyliaid'.
Buan y dysgodd
Goronwy un o fanteision bod yn fab y Mans: 'Fe'm codwyd yn
Galfin, a'm dysgu os byddai rhywun wedi'i eni o blith yr etholedig
rai, na wnâi byth beidio â pherthyn - dysgeidiaeth a gafodd effaith
ryfedd arnaf.'
Ar ddechrau ugeiniau'r ganrif ddiwethaf, symudodd y teulu'n ôl i
Gaerdydd, a theimlai Goronwy iddo gael 'ei daflu allan o baradwys'.
Ymddengys iddo adael yr iaith Gymraeg ar ei ôl yn Aber, ac fe'i
cawn yn ysgrifennu'n uniaith Saesneg yng nghylchgronau Ysgol
Uwchradd Caerdydd.
Yn 1928, fe'i derbyniwyd gan Goleg Newydd
Rhydychen, ond fel Cymro teimlai fel petai'n ymyrrwr yno.
Teimlai,
meddai, fel dieithryn mewn meithrinfa lle câi cynnyrch yr ysgolion
bonedd eu pesgi fel ffesantod.
Yn Rhydychen teimlai'n euog oherwydd ei fanteision ef o'u
cymharu â sefyllfa'r glowyr yn ne Cymru.
Iddo ef, y glowyr oedd y
rhai a ddangosent wir genedligrwydd.
Yn wir, ofnai y byddai
Rhydychen yn ei droi'n greadur mor foneddigaidd â'i gyd-fyfyrwyr.
Cyfnod yn Rwsia
Penderfynodd ganolbwyntio ar ysgrifennu, ac ar ôl gadael y coleg
cafodd waith fel newyddiadurwr gan y Manchester Guardian a'r
Spectator. Dechreuodd deithio i'r Almaen, Rwsia, Sbaen a gwlad
Tsiec.
Roedd yn feddyliwr radical, ac ni allai gredu sut medrai pobl
ymddangosiadol gall gael eu twyllo gan ffŵl fel Hitler.
Yn ei erthyglau pregethai ei wrthwynebiad i'r syniad o ehangu
prifysgolion i gyfeiriad mwy cymdeithasol, a gwrthwynebai sefydlu
neuaddau preswyl, campfeydd ac undebau myfyrwyr.
Iddo ef, syniad
Seisnig oedd hwnnw. Teimlai fod llyfrgelloedd yn bwysicach i
brifysgolion nag ydoedd pyllau nofio.
Beirniadu cenedlaetholwyr
Er yn genedlaetholwr o ran y syniad o hunanlywodraeth, doedd
ganddo ddim amynedd o gwbl gyda sefydliadau hunanhyrwyddol
Gymraeg a Chymreig fel yr Eisteddfod, ac er y cefnogai gael Senedd
i Gymru, roedd yn feirniadol iawn o genedlaetholwyr.
Yna, ymunodd Goronwy â'r Royal Artillery gan gael ei
ddyrchafu'n Ail Lefftenant yn y Ffiwsilwyr Cymreig.
Yn 1940
priododd â Margaret Morris o Lerpwl, merch i warantydd arian.
Ar
ddiwedd ei dymor yn y fyddin ailgydiodd yn ei waith gyda'r
Spectator. Yna, cytunodd i gael ei enwebu fel darpar ymgeisydd
Rhyddfrydol dros Gaernarfon.
Cymerodd dro arall yn ei fywyd
wedyn drwy ymuno â chwmni metel Pontifex fel gweinyddwr.
Dyma
pryd, yn ôl rhai, y dechreuodd Goronwy Rees wneud gwaith
cyfrinachol i MI6.
Trodd wedyn yn ôl at y byd addysg a chael ei benodi'n fwrsar yn
All Souls yn Rhydychen.
Yna, ym mis Mai 1953, cymerodd, yn ôl ei
dystiolaeth ei hun, y cam gwacaf iddo'i gymryd erioed drwy dderbyn
swydd Prifathro yn Aberystwyth.
Nid Aberystwyth ei blentyndod
oedd y dref bellach.
Pechu'r parchusion
Roedd cyfeillgarwch cymdeithasol Goronwy
Rees â'r myfyrwyr yn rhywbeth na ellid ei dderbyn.
Pechod mawr
arall oedd ei gyfeillgarwch â ffrindiau hoyw, ac ar ben y cyfan
cychwynnodd storïau gylchredeg yn y People am ei gyfeillgarwch ag
ysbïwyr fel Guy Burgess a Donald Maclean a'i adnabyddiaeth o
Anthony Blunt.
Fel petai hyn oll ddim yn ddigon, llwyddodd hyd yn
oed i bechu rhai am iddo wisgo sanau gwyn!
Priodolir penderfyniad Goronwy Rees i ymddiswyddo yn 1967 fel
ymateb i'r sgandal ysbïo, ond y gwir amdani yw bod academyddion
cenedlaethol a thraddodiadol Cymru am ei waed o'r dechrau.
Mynnai
Goronwy Rees mai sefydliad i hybu addysg ddylai Prifysgol Cymru
fod, yn hytrach na sefydliad i hybu Cymreictod.
O dan ddylanwad
Syr David Hughes Parry a Syr Ifan ab Owen Edwards doedd gan y
Prifathro ddim dewis.
Trefnwyd ymchwiliad i'w ymddygiad, ac er
i'w waith o ran gweinyddu'r Coleg brofi'n foddhaol iawn,
penderfynodd Adroddiad Willink ei ddamnio yn dilyn yr adroddiadau
amdano yn y People.
Ar ôl gadael Aberystwyth, bu bywyd Goronwy Rees - gyda
gwraig a phedwar o blant i'w cynnal ac un arall ar y ffordd - yn un
llwm.
Trodd at waith radio ac ysgrifennu gan gyhoeddi un o'i
gyfrolau hunangofiannol, A Bundle of Sensations. Dioddefodd ergyd
drom pan fu farw ei wraig yn 1976.
Dair blynedd yn ddiweddarach,
ar 12 Rhagfyr 1979, bu yntau farw o gancr yn Ysbyty Charing Cross,
Llundain.
Olynwyd Goronwy Rees fel Prifathro gan Thomas Parry, un a
oedd yn y mowld cywir fel Cymro a chenedlaetholwr da, ond tybed
- petai'r Marcsydd Goronwy Rees yn dal yn Brifathro yn 1969 - a
fyddai wedi derbyn mab y Frenhines yn fyfyriwr?
gan Lyn Ebenezer