Dafad ddu teulu bonedd Plas Nanteos
Ar y muriau y tu mewn i eglwys hynafol Llanbadarn Fawr, lle bu Sulien
yn cynnal ysgol dros fil o flynyddoedd yn ôl, ceir meini coffa i aelodau
un o deuluoedd bonedd mwyaf nodedig yr ardal, sef Powelliaid
Nanteos. Fe barhaodd eu cysylltiad â Nanteos am 250 o flynyddoedd, ac
wrth ddarllen y beddargraffiadau ar y meini mae modd eu holrhain o'r
uniad priodas a arweiniodd at ddyfodiad y Powell cyntaf i'r plas hyd
ganol y ganrif ddiwethaf, pan fu farw'r olaf o'r llinach.
Dim ond un aelod o'r teulu a gladdwyd y tu allan i furiau'r eglwys.
George Powell oedd hwnnw, un a fu'n sgweier Nanteos am bedair
blynedd.
Claddwyd George mewn bedd cyffredin a di-nod wrth
ystlys yr eglwys sy'n wynebu'r ffordd fawr. Heddiw mae drain ac
ysgall yn cuddio bedd dafad ddu'r teulu Powell.
Roedd George yn enigma. Yn ddisgynnydd i linach o filwyr
nodedig, roedd yn casáu rhyfel.
Yn ddisgynnydd i linach o helwyr
amlwg, roedd yn casáu hela.
Yn ddisgynnydd i linach a fu'n amlwg
mewn gwleidyddiaeth leol a Phrydeinig, roedd yn casáu unrhyw beth
yn ymwneud â gwleidyddiaeth.
Yn ddisgynnydd i deulu a roddai
bwyslais ar olyniaeth, roedd George yn wrywgydiwr.
Celfyddyd a'r gansen
Roedd George yn hoff iawn o'r celfyddydau cain. Roedd yn
gyfarwydd â Wagner ac Offenbach, Liszt a Clara Schumann.
Ysgrifennai'n rheolaidd at Longfellow. Roedd yn ffrind personol i
Swinburne ac yn hanner-addoli'r Marquis de Sade.
Mae'n debyg i George a Swinburne gyfarfod yn Eton, lle
datblygodd y ddau, yn dilyn y defnydd o'r gansen fel cosb, hoffter at
fasochistiaeth.
Cadwai'r ddau dŷ yn Normandi lle byddai bob amser
griw dihysbydd o fechgyn ifanc yn tendio arnynt.
Cadwent fwncïod
hefyd, a hynny am resymau digon amheus, ac fe ddywedodd neb llai
na Guy de Maupassant fod Powell wedi gweini iddo fwnci wedi'i
rostio.
Mynnai hefyd fod ganddo law ddynol wedi'i phiclo, a
defnyddiai hi ar ei ddesg i gadw papurau yn eu lle.
Mae'n debyg yr
hoffai George sugno ar fysedd y llaw fferllyd!
Daeth arferion rhyfedd Powell mor amlwg fel i Ralph Waldo
Emerson ei gyhuddo'n gyhoeddus o fod yn sodomiad, cyhuddiad a
wadwyd yn llwyr ganddo.
Mae'n bosibl mai fel ymateb i'r cyhuddiad
hwn yr aeth Swinburne ati i geisio profi nad oedd ef o'r un tueddiad
drwy fynychu puteindy yn St John's Wood a gwahodd Powell i
ymuno ag ef yno.
Y chwedl a'r chwip
Am ryw reswm, daeth George o dan ddylanwad diwylliant a hanes
Gwlad yr Iâ. Cyhoeddodd gyfrolau o'i farddoniaeth ei hun o dan y
ffugenw Mjolnir, sef yr enw ar forthwyl y duw rhyfel, Thor.
Ond
erbyn hyn roedd ei arferion rhywiol a'i yfed trwm wedi ei wneud yn
esgymun gan y teulu.
Gwaharddwyd ef a Swinburne o Nanteos, ond
byddai Swinburne yn dal i ymweld â'r ardal gan aros gyda George yn
Aberystwyth.
Amlygodd George ei werthfawrogiad drwy gyflwyno
i'r bardd rai o lythyron de Sade, gwialen fedw a ddefnyddiwyd yn
Eton, a llun o'r dodrefnyn a ddefnyddid ar gyfer clymu disgyblion
arno i'w chwipio.
Erbyn hyn roedd chwedl Cwpan Nanteos wedi lledaenu'n eang.
Yr
hanes a grëwyd oedd mai hwn oedd y Greal Sanctaidd a gludwyd yn
wreiddiol i Glastonbury ac yna i Ystrad Fflur lle cafodd ei
ddefnyddio fel Cwpan Iacháu cyn i fynach ei achub rhag milwyr
Lloegr pan ddiddymwyd y fynachlog a'i ddwyn yn ddiogel i Nanteos.
Honnwyd ymhellach i Wagner ymweld â'r plas ac iddo wirioni
cymaint ar y chwedl fel iddo gyfansoddi'r opera Parsifal. Ffantasi
lwyr oedd hyn, er ei bod hi'n debygol i George gyfarfod â'r
cyfansoddwr.
Er gwaetha'i ffordd ryfedd o fyw, etifeddodd George blasty
Nanteos.
Dywedir i'w dad unwaith, er mwyn ceisio creu diddordeb
ynddo mewn hela, gyflwyno iddo ddryll hela a rhoi gorchymyn iddo
fynd allan i saethu rhywbeth.
Am unwaith, ufuddhaodd George i
orchymyn ei dad. Aeth allan a saethu eidion gorau stad Nanteos.
Nid yn unig y bu i George etifeddu Nanteos, ond fe fentrodd briodi
hefyd, er mai priodas wedi'i threfnu er mwyn taflu llen dros fywyd
rhywiol George oedd hi.
Dywedir mai morwyn fach a fu'n tendio ar
George tra oedd yn gwaelu yn ardal Wdig oedd ei wraig.
Yn fuan
wedi marwolaeth George, fe ailbriododd hi a symud i fyw i America.
Bu farw George yn 1882, a hynny, yn ôl papur lleol, o effeithiau
cramp eithafol.
Claddwyd y cyntaf - a'r olaf - o'r teulu Powell y tu
allan i furiau'r eglwys.
Y cymeriad rhyfeddaf
Er gwaethaf ei foesoldeb amheus, roedd i George lawer o
agweddau cadarnhaol.
Roedd yn gasglwr toreithiog o lyfrau,
dogfennau a lluniau a chyflwynodd y rhan fwyaf o'i gasgliadau i'r
Brifysgol yn Aberystwyth ac i sefydliadau lleol eraill.
Ceisiodd
sefydlu oriel gelf yn y dref, ac er gwaetha'i ddiffyg diddordeb mewn
gwleidyddiaeth, fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Ceredigion.
Saif Plas Nanteos o hyd, bron yn ddigyfnewid o ran ei ffurf o
ddyddiau George.
Erys ar ei ôl hefyd y Stafelloedd Ymgynnull a
godwyd ar gyfer dawnsfeydd a pherfformiadau cerddorol a
chwaraeon.
Erys cwpan enwog mewn banc yn ardal Amwythig, ac er
bod sôn am ysbrydion yn cyniwair yn Nanteos does neb, hyd yma,
wedi gweld ysbryd yr hen George.
O linach y teulu Powell, a fu'n ei lordio hi am ddwy ganrif a hanner
yn Nyffryn Paith ger Aberystwyth, does dim amheuaeth mai George
oedd y cymeriad rhyfeddaf o blith teulu rhyfeddol.
Gan Lyn Ebenezer