BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

JerseyJoio yn Jersey!
Jessica Daniels o Ysgol Gynradd Llangeitho yn rhoi darlun o ynys Jersey.
Mae Jersey yn rhan o grŵp o ynysoedd sydd yn cael eu galw yn 'Ynysoedd y Sianel'. Mae Jersey ond un awr o Ffrainc ond yn dal yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ynysoedd y Sianel oedd yr unig rhan o'r Deyrnas Unedig oedd o dan reolaeth yr Almaenwyr adeg yr Ail Ryfel Byd.

Gallwch chi hedfan o Jersey mewn llai ag awr neu os y'ch chi am deithio mewn cwch bydd hwn yn cymryd pedair awr.

Gallwch chi fwyta fel brenin yn Jersey. Mae digonedd o fwyd y môr neu de hufen wedi cael ei wneud allan o hufen melyn cyfoethog. Gan fod cymdeithas fawr o bobl o Portiwgal yn gweithio yn Jersey mae tai bwyta yn gwasanaethu bwyd blasus iawn efo llawer o garlleg!!

Mae yna draethau gwyn ardderchog am filltiroedd a syrffio ar y tonnau enfawr yn St. Annes yn boblogaidd iawn. Allwch hi ddim aros ar yr ynys heb ymweld â Sw Jersey ddaeth yn boblogaidd gan yr arbenigwr Gerald Durell fu farw sawl blwyddyn yn ôl. Mae ei waith yn gwarchod anifeiliaid wedi achub llawer ohonynt rhag diflannu.

Mae'n siŵr fod llawer ohonoch chi wedi clywed ar y newyddion ar ddechrau y 1990au, pryd cwympodd bachgen bach mewn i warchodfa y gorillas yn Sw Jersey. Y gwryw yn y grŵp oedd gorila cefn arian enfawr a'i enw oedd Jambo ac roedd e wedi amddiffyn y bachgen o'r gorilas arall. Pan ddaeth y paramedics roedd y bachgen yn fyw oherwydd Jambo.

Pob man ar yr ynys mae yna resi o datws brenhinol Jersey yn aros am adeg y cynhaeaf ac wedyn mae'n nhw'n dod i'r Deyrnas Unedig i'w gwerthu. Mae'r gwartheg o Jersey yn pori yn y caeau efo wal isel o amgylch. Byddwch hefyd, os ydych yn ffodus, yn gweld y wiwer goch yn neidio o goeden i goeden. Peidiwch edrych yn rhy galed am gadno oherwydd nid oes cadnoed yn Jersey!

Adeiladwyd twnel rhyfel yn Jersey sef `Jersey War Tunnel' gan garcharwyr rhyfel o dan reolaeth yr Almaenwyr yn ystod eu rheolaeth o'r ynysoedd. Heddiw mae'r twneli yn amgueddfa sydd yn dangos sut oedd bywyd ar yr ynysoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth yrru o amgylch yr ynys falle y byddwch yn adnabod ambell i le o'r rhaglen 'Bergerac' . Drama am heddlu ar yr ynys a ffilmiwyd yma yn yr wythdegau oedd hwn.

Os ydych chi am dreulio gwyliau yn Jersey byddwch yn saff o gael tywydd braf ac amser braf hefyd.

Gan: Jessica Daniels, disgybl 10 oed yn Ysgol Gynradd Llangeitho.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy