| Margaret Thomas yw Cadeirydd Canolfan Wirfoddol Ystradgynlais. Daeth ar fwrdd Bws BBC Cymru yn ystod mis Mai 2005 ac yma mae'n sôn am gyfraniad Canolfan Wirfoddol, Ystradgynlais i'r gymuned. "Sefydlwyd y ganolfan yn 1984 a thros y blynyddoedd mae wedi tyfu fwy, fwy. O ganlyniad i gymorth ariannol gan wahanol sefydliadau rydym wedi gallu prynu adeilad pwrpasol ein hunain. Mae gennym dros 100 o wirfoddolwyr yn ardal Ystradgynlais ac mae'r gwaith yn amrywio o gynorthwyo gyda chlybiau cymdeithasol i sesiynau iechyd. Y ganolfan sy'n gyfrifol am anfon gwirfoddolwyr mas i wahanol ganolfannau'n y dref. Y pwrpas mewn gwirionedd yw i dynnu pobl mas o'u tai a rhoi cyfle iddynt gwrdd â phobl. "Rwy'n gwirfoddoli er 2002 ac yn mwynhau y gwaith yn fawr iawn. Ers 2003 rwyf wedi trefnu cyngherddau er mwyn codi arian tuag at wahanol elusennau. Yn 2003 daeth Roy Noble i fod yn arweinydd noson o adloniant. Yr oedd Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams yn bresennol yng nghyngerdd 2004, ac yn 2005 codwyd £7200 tuag at Gronfa Argyfwng Tsumani. "Mae'r gwaith gwirfoddoli yn amrywio o helpu i dwtio gerddi trigolion yr ardal i gynorthwyo pobl i nôl eu siopa. Mae'r grŵp hefyd yn ailgylchu teclynnau'r ardd sy'n cael eu hanfon mas i wledydd y trydydd byd. Y peth gorau am weithio fel gwirfoddolwraig yn fy marn i, yw rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned y cefais fy magu ynddi." Margaret Thomas, Ystradgynlais
 |