BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pobl IfancSioe Owain
Owain Llŷr o Sanclêr ger Caerfyrddin fydd ein gohebydd ifanc o faes y sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Yma gellir darllen pytiau o'i ddyddiadur bob dydd - o'i waith fel rhedwr gyda chwmni teledu, o amgylch y maes a'r bywyd nos!

Helo, fy enw i ydy Owain Llŷr a rwy'n dod o Sanclêr yn Sir Gâr. Rwy' di bod yn ymwelydd cyson â'r sioe yn Llanelwedd ers blynydde' - ers pan o'n i tua pedair neu bump oed, a chael lot fawr o sbort.

Mae eleni yn mynd i fod yn eithaf' gwahanol i fi achos mi fyddai'n gweithio yno am y pedwar diwrnod fel rhedwr gyda chwmni teledu Telesgôp. Mae hyn yn golygu helpu'r criw camera, y tîm cynhyrchu a lot o redeg o gwmpas! Felly byddaf yn cael gwir flas ar fywyd o amgylch y cae.

Ond cyn hynny mae lot gen i ar fy mhlât! Dw i newydd orffen fy arholiadau Lefel A ac AS mewn Cymraeg, Drama, Hanes, Saesneg a Ffrangeg. Ond erbyn y byddwch chi'n darllen y pwt yma mi fydda i yn torheulio a joio yn Magaluf ar ôl yr arholiadau! Fydda i nôl yng Nghymru ddiwrnod cyn y sioe, ac yna'n mynd yn syth i Lanelwedd. Gobeithio fydd chydig bach o lais ar ôl gen i erbyn hynny!

Mae'r bywyd nos yn y sioe yn grêt. Fe wnes i aros lan yna llynnedd am y pedair noson, a joio ma's draw. Mae rhai o'n ffrindiau i yn dod lan eto eleni a byddwn yn barod am lot fawr o sbort.

Dewch nôl yma yn ystod wythnos y sioe, ac mi wna' i ddod â'r newyddion i gyd i chi - neu falle welaf i chi yna!



0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy