| Mae Dai Jones, Llanilar yn ffarmwr adnabyddus a chyflwynwr y rhaglenni teledu poblogaidd 'Cefn Gwlad' a 'Rasus'. Ac eleni mae wedi ennill gwobr Syr Bryner Jones,a gyflwynir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhionol Cymru i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i gangen arbennig o amaethyddiaeth. Eleni, i nodi canmlwyddiant y sioe frenhinol rhoddwyd y wobr i'r unigolyn a ddyfarnwyd i fod wedi gwneud cyfraniad arbennig i amaethyddiaeth gyfan. Dywedodd y beirniaid fod y gwaith o ddewis un allan o ddeg ymgeisydd ar draws y siroedd wedi bod yn dasg anodd gan bod yr ymgeiswyr i gyd wedi gwneud cyfraniad arbennig i amaethyddiaeth yng Nghymru mewn nifer o wahanol feysydd gan gynnwys addysg, technoleg a'r cyfryngau. Mae Dai Jones yn uchel ei barch ac wedi bod yn llwyddiannus yn arddangos mewn sioeau, ac yn magu gwartheg o dras Friesian, ac mae wedi cystadlu yn rhyngwladol mewn treialon cŵn defaid. Yn ogystal ag ennill gwobrau yn y byd amaethyddol, mae hefyd wedi ei wobrwyo am ei lais tenor arbennig gyda'r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gynharach eleni, fe enillodd Dai Jones wobr BAFTA Cymru hefyd am ei gyfraniad i'r byd teledu yng Nghymru. Mae Dai Jones yn gyflwynydd wythnosol ar Radio Cymru gyda'i sioe geisiadau 'Ar Eich Cais' bob nos Sul.
 |