Tuag at un bryd
Omid Behi yn sôn am hanfodion ffydd Bahá'í.
Y mae'r Ffydd Bahá'í yn un o'r prif grefyddau ieuengaf yn y byd. Fe'i sefydlwyd yn Iran ym 1863 gan Bahá'u'lláh (1817-1892).
Mae enw Bahá'u'lláh yn cyfieithu o'r Arabeg i Gogoniant Duw ac mae'r dilynwyr yn credu mai ef yw'r negeseuwr, neu'r amlygiad, diweddaraf o Dduw - ond ddim y negeseuwr terfynol.
Mae'r Ffydd Bahá'í yn derbyn Abraham, Krishna, Moses, Zoroaster, Buddha, Iesu, Muhammad a'r Pab fel negeseuwyr Duw cyn Bahá'u'lláh.
Dysgodd Bahá'u'lláh bod negeswyr Duw yn ymddangos ac yn datgelu o'r newydd ei ewyllys a'i bwrpas i ni pryd bynnag y mae dynoliaeth yn symud ymaith oddi wrth Dduw ac yn anghofio ei ddysgeidiaethau.
Byd newydd
Mae'r Bahá'í yn credu y bydd ddysgeidiaethau Bahá'u'lláh yn galluogi'r ddynoliaeth i lunio byd newydd a chyflawni ein pwrpas trwy sefydlu undod ar y ddaear.
Dysgodd Bahá'u'lláh mai dynoliaeth megis fel un genedl yw'r cyflwr terfynol o esblygiad dynioliaeth.
Credir fod yr amser wedi cyrraedd y mae rhaid i ddynoliaeth symud ymlaen i aeddfedrwydd byd-eang ar ffurf un teulu dynol.
Meddai Bahá'u'lláh: "Un wlad yw y byd a dynolryw yw ei dinasyddion."
Mae dysgeidiaethau'r Bahá'í yn sôn am bwysigrwydd cydraddoldeb gan ymwrthod ag unrhyw fath o ragfarn gan weithio yn y gwahanol wledydd i ddileu ffafriaeth ac anghytgord.
Credir ym mhwysigrwydd 'undod mewn amrywiaeth' i ddatblygiad dynoliaeth
Fel gardd
Mab Bahá'u'lláh yw 'Abdu'l-Bahá ac mae ef yn sôn am ardd enfawr lle mae blodau o bob lliw, llun ac arogl yn tyfu gyda'i gilydd ac yn amrywiaeth yr ardd hon y mae ei harddwch a'i phleser
Mae'r Bahá'i heddiw yn brysur mewn proses o ddysgedigaeth byd-eang gan annog pawb i weithio â'i gilydd i wella cydlyniad cymdeithasol trwy weithredoedd a fydd yn gwella cymunedau.
Mae yna chwe miliwn yn dilyn y ffydd mewn 235 o wahanol wledydd gyda rhyw 6,000 ym Mhrydain.






