| 
 | 
 Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu
Mae angen: - 225g o flawd plaen
- 1 llwy de o sbeis cymysg mâl
- 1 llwy de o sinsir mâl
- 1 llwy de o feicarb
- 75g o driog melyn
- 75g o driog du
- 75g o fargarîn caled
- 75g siwgr brown
- 2 wy
- 200ml o lefrith
- fferins crwn
Cam-wrth-gam:
1. Irwch y tun. Hidlwch y blawd, y sbeis y sinsir a'r beicarb ar wahân i mewn i bowlen ddigon mawr.
2. Rhowch y triog melyn, y triog du, y margarîn, a'r siwgr brown mewn sosban a'i dwymo nes iddo doddi. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres.
3.Ychwanegwch a chymysgwch 2 wy wedi eu curo, y llefrith, a'r gymysgfa sydd wedi toddi i mewn i'r blawd yn y fowlen. Yna, tywallt y gymysgfa i'r ddysgl wedi ei iro, a'i roi mewn popty/ffwrn boeth a'i goginio am 30 munud. 160°C, 325°F, Nwy rhif 3.
4. I wneud yr eisin, cymysgwch y siwgr eisin gyda ychydig o ddwr.
5. Defnyddiwch fferins gwahanol liw ar gyfer llygaid a thrwyn Beebie!
|  |
|