| 
 |   Sut i wneud Orbie lliwgar sy'n bownsio
Mae angen:- Papur newydd
- Blawd a dwr
- Balwn
- Pensiliau lliw neu baent
- Llawer o ddychymyg!
Cam-wrth-gam : 1. Yn gyntaf, rhwygwch y papur newydd yn ddarnau mân.
2. Yna, gofynnwch i rywun mewn oed eich helpu i gymysgu'r blawd a'r dwr i wneud past..
3. Gofynnwch am help i chwythu'r balwn ac wedyn, gludo'r papur dros hanner uchaf y balwn.
4. Disgwyliwch nes y bydd yn sych ac yn galed cyn paentio dros y papur newydd neu wneud patrymau lliw arno fel ei fod yn edrych fel Orbie.
5. Yn olaf, gofynnwch i rywun mewn oed ollwng y gwynt o'r balwn. Yn awr, mae gennych eich Orbie eich hunan.

 |  |
TM/BBC/Ben Prods.LLC © BBCWW/Ben Prods.LLC.2001 |