
 |  | Dau mewn trwbwl
Da a drwg ymhlith yr ifanc mewn drama o Awstralia
Dydd Iau, Tachwedd 15
| Tafliad Carreg Cynhyrchiad Theatr Arad Goch

Adolygiad gan Catrin Jones
Trosiad Cymraeg o ddrama o Awstralia gan Tom Lycos a Stefo Nantsou oedd dewis Cwmni Theatr Arad Goch y tro hwn.
Darlunir digwyddiad trasig ym Melbourne, Awstralia, ychydig flynyddoedd yn ôl.
Dangosir sut y mae drygioni dau fachgen - un yn bymtheg oed (Lly^r Edwards) a'r llall yn dair ar ddeg oed (Iwan Charles) - yn arwain at drychineb.
Ar ddechrau'r ddrama gwelwn y ddau'n torri i mewn i adeilad a cheisio dwyn car BMW.
Y gynulleidfa wrth ei bodd
Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd gyda'r elfen gomig o'r ddau yn ffraeo'n blentynnaidd â'i gilydd ond yr oedd hefyd ystyr ddyfnach i'r olygfa hon gan ei bod yn ein paratoi at yr hyn sy'n mynd i ddigwydd.
Pwysleisir fod yma ddireidi llawer gwaeth nag a ddisgwylir gan blant fel arfer .
Methu a wnânt yn yr orchwyl ond nid ydynt yn cael eu dal ac fe'u gwelir wedyn yn sefyll ar bont uwchben traffordd yn gwylio'r ceir yn mynd heibio.
Yno, maen nhw'n cael y syniad gwallgof o geisio taro'r ceir islaw â cherrig. Mae hyn eto yn creu tipyn o ddifyrrwch - nes i'r chwarae droi'n chwerw a gyrrwr yn cael ei ladd.
Dyma ddechrau hunllef y ddau a hwythau heb fod yn gwbl ymwybodol o ddifrifoldeb eu sefyllfa ar y dechrau.
Ond er hyn mae'r ieuengaf ohonynt yn teimlo i'r byw.
Cyfaddef y cwbl Yn methu â byw yn ei groen oherwydd y difrod achoswyd ganddynt mae'n cyfaddef y cwbl wrth ei fam sy'n ei orfodi wedyn i gyfaddef wrth yr heddlu.
Dyma lle gwelir y gwrthgyferbyniad rhwng y ddau gymeriad gan nad yw'r bachgen hynaf yn poeni gymaint.
Wedi i'w fam ddarganfod yr arian i'w ryddhau ar fechnïaeth mae'n ei orfodi i fynd i ysgol breswyl lle mae'n troi at ddrwgweithredu unwaith eto. Yn amlwg heb ddysgu ei wers.
Wrth gael ein tywys drwy'r achos llys teimlwn ein bod ni yn esgidiau'r rheithgor.
Mae'n ddrama sy'n ymdrin â chwestiynau pwysig. Cwestiynau sydd wedi eu gofyn ganwaith yn y wasg yn ddiweddar yn achos llofruddiaeth y bachgen dwyflwydd oed James Bulger: Pryd mae plant yn dod yn ddigon hen i fedru dweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg? A ddylid cosbi plant fel oedolion? A yw'r holl gyhoeddusrwydd a gofid wedi bod yn ddigon o gosb eu hunain?
Mae yma thema gyfoes ac addas gyda pherfformiad a fyddai'n apelio at y bobl ifanc y mae'r ddrama ar eu cyfer.
Nid ar lwyfan yr oedd y perfformiad ond ar lawr y neuadd gyda meinciau wedi eu gosod ar gyfer y gynulleidfa gan greu sgwâr yn y canol i'r actorion. Ar un ochr i'r sgwâr yr roedd drwm a gitâr fas gyda'r actorion yn perfformio ambell gân.
Dim pwrpas i'r gerddoriaeth Doeddwn i ddim yn gweld llawer o bwrpas i'r gerddoriaeth mewn gwirionedd. Nid oedd yn cyfrannu o gwbl at y ddrama ond gellid dadlau mai ei bwrpas oedd cynnal diddordeb y gynulleidfa ifanc ac oedden, yr oedden nhw wrth eu boddau.
Efallai mai'r ymdrech i apelio at gynulleidfa ifanc oedd hefyd yn gyfrifol am y ffaith na ddiffoddwyd y golau o gwbl yn y neuadd yn ystod y perfformiad gan gyfleu'r ffaith nad perfformiad confensiynol oedd hwn.
Ond i mi roedd hyn yn teimlo'n od, fel pe na byddem ni'n gwylio drama o gwbl. Byddai wedi bod yn well pe byddai'r gynulleidfa yn eistedd mewn tywyllwch er mwyn hoelio sylw pawb ar y llawr lle roedd popeth yn digwydd.
Dim defnydd o oleuo Gan na wnaethpwyd defnydd o oleuo ni lwyddwyd i greu'r awyrgylch briodol ac ni theimlaf inni fedru ymollwng yn llwyr i'r ddrama.
Ar y diwedd cafwyd trafodaeth - dyfais a ddefnyddiwyd hefyd ar ddiwedd y ddrama Dilema gan Arad Goch y llynedd.
Pwrpas y trafodaethau hyn yw rhoi cyfle i'r actorion egluro cefndir y ddrama a'n hannog ni'r gynulleidfa i ofyn cwestiynau neu i ddatgan ein barn.
Mae'n ddull effeithiol o gymell trafodaeth ymysg disgyblion ysgol a sicrhau iddyn nhw ddeall y ddrama.
Er hynny, dydw i ddim yn credu ei bod yn ddyfais sy'n addas ar gyfer oedolion ond yr oedd yn braf cael gwybod beth ysgogodd y ddrama ond gellid yr un mor hawdd fod wedi darllen hynny mewn rhaglen.
Perfformiadau egnïol
Rhaid canmol perfformiadau egnïol Lly^r Edwards ac Iwan Charles - yn ogystal â phortreadu'r ddau fachgen ifanc gwelwyd hwy'n chwarae dau heddwas gan newid eu cymeriadau'n gwbl rhwydd.
Doedd yma ddim set mewn gwirionedd dim ond ychydig o brops a'r pwysau, felly, ar y ddau actor i gyfleu popeth.
Cyflëwyd llawer o'r digwyddiadau yn llwyddiannus iawn drwy gyfrwng synau: synau ceir, drysau a larwm diogelwch.
Perfformiad digon difyr Rhaid imi ddweud i'r perfformiad fod yn un digon difyr, felly.
Ac er mai perfformiad byr o tua awr ydoedd teimlwn i'r ddrama ddatblygu tipyn o fewn yr amser hwnnw.
Er bod rhai diffygion mae'n rhaid cofio mai drama ar gyfer pobol ifanc oedd hon mewn gwirionedd. Roedd angen addasu tipyn ar y cyfrwng felly ac mae'n anochel na fyddai hynny'n apelio at bawb.
Hawdd anghofio am y gynulleidfa ifanc gan mai at y gynulleidfa draddodiadol y mae'r rhan fwyaf o gynhyrchiadau'r theatr Cymraeg wedi eu hanelu felly, hoffwn ganmol Arad Goch am ymdrechu i ddenu cynulleidfa newydd holl bwysig os am sicrhau dyfodol diogel.
Beth ydi'ch barn chi? Ebostiwch i ddweud |  | 
|