bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Teledu

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
C2
Theatr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


News imageY byd yn gwylio

Ond faint o bethau Cymru sydd i'w gweld dros Glawdd Offa

Dydd Mercher, Gorffennaf 23

Dylan Wyn yn trafod rhaglenni teledu

Bob tro yr af i ar wyliau tramor, bydda i wastad yn troi'r teledu ymlaen yn y gwesty i gael cip ar arferion gwylio'r trigolion lleol.

Er bod gan bob gwlad ei naws unigryw ei hun, rhyw gawl eildwym o raglenni cyfarwydd mewn ieithoedd eraill sydd ar gael yn anad dim.

Beth welais i ar y bocs bach mewn tafarn fach brysur yng nghanol dinas Prâg unwaith oedd fersiwn Tsieceg o Who Wants to be a Millionaire, ac roedd fersiwn Sbaenaidd o'r Big Brother felltith ar ei anterth tra'r oeddwn i'n mwynhau wythnos yn haul Lanzarote y llynedd.

Ar ôl diwrnod hir yng nghanol bwrlwm trymaidd dinas Milano yn ddiweddar, dyma ymlacio yn system dymheru bendithiol y gwesty a chael cip ar Ioan Gruffudd yn parablu fel melin bupur Eidaleg yn un o anturiaethau diweddaraf Hornblower.

Lle mae S4C?

A dyma feddwl wedyn - diawch - braf o beth fyddai gweld un o raglenni cyfarwydd Cymraeg S4C ar deledu tramor! Nid yw'n syniad mor ddieithr â hynny, chwaith.

Mae cartwnau'r sianel wedi ennill bri rhyngwladol, gyda Sali Mali yn diddanu gwylwyr ifanc sianel ABC Awstralia heb sôn am yr holl gyfresi animeiddio anghymreig ar y naw fel Shakespeare/Chwedlau Caergaint/Chaucer a'u tebyg.

Mae rhaglenni dogfen y sianel hefyd wedi'u darlledu ym mhedwar ban, gyda hanes Y Celtiaid yn cael derbyniad gwresog ar ôl eu trosleisio i'r Sbaeneg a Phortiwgaleg ar gyfer The History Channel Latin America i 12 miliwn o gartrefi posib, a chyd-gynhyrchiad The Mapmakers yn croniclo hanes cartograffeg ar fin cael ei ddarlledu ar sianel ZDF yr Almaen.

Diddorol iawn, dw i'n siwr. Ond a fydd yr Almaenwr fawr callach mai cynhyrchiad o Gymru yw hwn?

Beth am y ddrama?

Mae pawb yn gwybod y cafodd pobl yr Iseldiroedd gip ar gastiau trigolion Cwmderi am sbel yng nghanol y 1990au, er i'r gyfres bara cyn hired â sbliff-am-ddim yn un o gaffis unigryw Amsterdam.

Pobol y CwmUn o lwyddiannau mawr y cyfrwng yw cyfres dditectif dywyll Yr Heliwr/A Mind to Kill, gyda fersiwn yr iaith fain o anturiaethau'r Prif Arolygydd Noel Bain wedi'i darlledu i weddill Prydain ar Channel 5 a Sky 1; ynghyd ag mewn 60 o wledydd ledled y byd, yn ôl y broliant ar wefan cynhyrchwyr y gyfres, 'Fiction Factory'.

Er hynny, cyfres dditectif Scottish TV sydd fwyaf adnabyddus ymhlith gwylwyr gwledydd Prydain, sef Taggart.

Wfftio Cymru

Mae rhwydwaith y BBC ac ITV1 yn ganolog yn amlwg wedi hen wfftio'r syniad o roi lle amlwg i ddramâu o Gymru yn ystod yr oriau brig.

Tra bo cyfresi o stabal BBC yr Alban yn cael croeso mawr ar y rhwydwaith - o Hamish Macbeth i Tinseltown a'r lol Monarch of the Glen - mae cyfresi BBC Cymru mor amlwg ag arfau dinistriol Irac.

Bedair cyfres yn ddiweddarach, ac mae gwylwyr y tu draw i Glawdd Offa yn dal i golli'r cyfle i ddilyn hynt a helynt trigolion Bryncoed yn Belonging - cyfres heb ei hail, gyda chymeriadau a storïau credadwy yn cyfuno'r llon a'r lleddf, ac sy'n profi bod adran ddrama Saesneg BBC Cymru yn gallu cael hwyl arni o roi'r gynulleidfa gartref uwchlaw pen bandits y Bîb yn Llundain.

Roedd hi'n bleser treulio hanner awr bob nos Fercher yn chwerthin yn iach gyda chriw Bryncoed yn lle dioddef o'r felan deirgwaith yr wythnos yng nghanol diflastod diddiwedd Albert Square.

Yn y cyfamser, gallwn ni Gymry lwcus edrych ymlaen yn eiddgar am y bumed gyfres yng ngwanwyn 2004.

Tybed a fyddai pethau wedi bod yn wahanol petai Belonging wedi'i gosod yng nghyffiniau Caeredin yn hytrach nag yng Nghwm Rhymni…?

Comedi

Cafodd y comedïwr enwog o Bort Talbot, Rob Brydon, dalcen caled wrth geisio gwerthu'r syniad o gyfres gomedi i gynhyrchwyr di-glem, a fynnodd y byddai'n fwy o lwyddiant petai'n newid y prif gymeriad yn Albanwr.

Diolch i'r drefn, felly, iddo anwybyddu'r cyngor sarhaus hwnnw, gan fynd ati i ennill bri a gwobrau BAFTA fel Keith, y gyrrwr tacsi o Ciardiff, sy'n adrodd hanes ei fywyd doniol o drist ar ffurf monologau Marion & Geoff.

O ran rhaglenni teledu Cymru, mae'n amlwg felly nad 'teg edrych tua Llundain' yw hi.

Mae angen i BBC Cymru, HTV ac S4C gydweithio fwyfwy (neu sefydlu partneriaeth, gair mawr yr oes!) i werthu eu rhaglenni i wledydd tramor, a rhoi hys-bys go iawn i Gymru fel gwlad unigryw sy'n gallu cynhyrchu dramâu o safon yn y ddwy iaith.

Gyda rhaglenni wedi'u trosleisio yn gyffredin iawn ar sianeli teledu Ewrop, ni welaf unrhyw reswm pam na all gwylwyr o Roma i Rennes fwynhau clasuron fel Tair Chwaer a Belonging.

A dyna ddiwedd fy lith ar fy mocs sebon.
Dw i am roi'r cliciwr o'r neilltu nawr gan obeithio y gallaf ailafael pan fydd pethau amgenach na Sioe a Steddfod i'w gweld ar S4C.
Hwyl!
!
Bydd beirniad teledu newydd o flaen y teli cyn bo hir. Dychwelwch i'r wefan hon i weld . . .
Wythnosau Blaenorol:
News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy