
 |  | Cyhoeddi testun y Fedal Ryddiaith 2004
Trefn newydd yn rhoi mwy o amser i gystadleuwyr
Ebrill 2003 |
Testun cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch y flwyddyn nesaf fydd, "Newid".
Dan reolau newydd sy'n awr yn dod i rym mae'r testun yn cael ei gyhoeddi cyn cyhoeddi y Rhestr Testunau fis Gorffennaf nesaf.
Y mae hynny er mwyn i gystadleuwyr gael mwy o amser i wneud eu gwaith.
Dan anfantais Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod ychydig yn ôl yn dilyn cwynion fod y rhai sydd am ymgeisio ar y gystadleuaeth hon dan anfantais o gymharu a chystadleuwyr cystadlaethau eraill fel y Gadair a'r Goron sy'n cael tan Ebrill 1 i anfon eu gwaith i mewn.
Rhaid i ymgeision y Fedal Ryddiaith, fodd bynnag, fod mewn llaw erbyn Rhagfyr neu Ionawr er mwyn rhoi digon o amser i'r beirniaid ddyfarnu ac lywioi'r gyfrol fuddugol drwy'r wasg a bod yn barod erbyn wythnos yr Eisteddfod.
Yn barod y mae cystadleuwyr Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael dwy flynedd i baratoi eu gwaith hwy.
O hyn allan bydd testun y Fedal Ryddiaith hithau yn cael ei chyhoeddi yn syth wedi i'r Pwyllgor Lleol sy'n ei ddewis dderbyn sel bendith Panel Llenyddiaeth Cyngor yr Eisteddfod a'r beirniaid.
Mae hynny newydd ddigwydd yn achos Eisteddfod Casnewydd 2004 ac mewn cyd-ddigwyddiad y testun yw "Newid".
Ymhlith y rhai a fu'n ymgyrchu am newid yn y drefn y mae Cyfeillion Llen a ysgrifennodd at yr Eisteddfod fis Mai diwethaf yn dadlau fod y cwta bum mis rhwng cyhoeddi'r Rhestr Testunau ar gyfer seremoni cyhoeddi yr Eisteddfod berthnasol yng Ngorffennaf bob blwyddyn a'r dyddiad cau yn Rhagfyr yn "afresymol".
Ofnir hefyd mai un o ganlyniadau hyn yw fod hen gesig yn cael eu hanfon i'r gystadleuaeth yn hytrach na gwaith a luniwyd yn benodol fel ymateb i'r testun a osodwyd..
Cystadleuaeth Casnewydd Union ofynion y gystadleuaeth yng Nghasnewydd yw "cyfrol o ryddiaith heb fod dros 40,000 o eiriau" ar y testun Newid.
Yn ogystal a'r fedal y mae gwobr ariannol o £750 sy'n rhodd gan Marina ac Arthur Wyn Parry i gofio canmlwyddiant geni y diweddar John Gwilym Jones, un o feirniaid a dramodwyr mwyaf dylanwadol y cyfnod diweddar ac un a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1939 - trydedd flwyddyn y gystadleuaeth. Bu hefyd yn beirniadu'r gystadleuaeth sawl gwaith.
Y beirniaid yng Nghasnewydd fydd, Harri Parri, Hafina Clwyd a John Rowlands. |  | 
|