
 |  | Cym Bwyl
Beirdd Cymru yng Ngwlad Pwyl
Mawrth 2003
| 'Potrzebna zarówka', meddai bardd 'Golau yn y Gwyll' (Gwyl Gymraeg Lublin, Gwlad Pwyl: Mai 6 - 22, 2003)
"Dwi angen bylb golau!" - oedd geiriau cyntaf y prifardd Ifor ap Glyn wrth gyrraedd maes awyr Warszawa.
O hynny ymlaen, nid oedd dianc rhag y brawddegau hap-farddol a dynnwyd o fwydlen, arwydd ffordd neu graffiti, ac unwaith i Mei Mac ddysgu mai 'piers z kurczaka' yw 'brest cyw iâr' yn y Bwyleg, a bod modd creu cynghanedd Lusg wrth ddefnyddio ei enw ei hun, dechreuodd y ras i lunio'r englyn cyntaf mewn iaith Slafeg.
Blas o Gymru Roedd gan y prifeirdd waith difrifol i'w wneud, hefyd, sef darlithio ym Mhrifysgol Gatholig Lublin er mwyn dod â blas o Gymru a'i diwylliant i fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Celtaidd.
Gyda Mei ac Ifor 'roedd Arwyn Davies, y bardd carismatig â llais hudolus o Ddolanog, ac yn ystod dau ddiwrnod o ddarlithoedd, cyflwynwyd gan y tri rychwant eang iawn o destunau, syniadau, cerddi a chaneuon, yn eu dulliau ffraeth, unigryw eu hunain.
Doedd dim diffyg Cymraeg rhwng y beirdd a'u cynulleidfa ac roedd nifer fawr o'r myfyrwyr yn awyddus iawn i sgwrsio - yn iaith y Cymry.
Mil o filltiroedd Mynegwyd tipyn o syndod gan y teithwyr fod myfyrwyr ifainc o Lublin mor rhugl, ar ôl blwyddyn neu ddwy yn unig o gyrsiau iaith.
Roedd ymateb Mei Mac yn arwyddocaol: "Hyn oll ar ôl dwy flynedd o waith dysgu - a hynny fil o filltiroedd o Gymru! - mae rhai wedi bod yng Nghymru ei hun ers mil o flynyddoedd, ac yn methu creu dwy frawddeg!"
Nos Iau, y gyrchfan oedd yr hen ddinas ganoloesol i gynnal noson o gerdd a chân yn nhafarn 'U Szewca' (Tafarn y Crydd). Noson o wladwriaethu gwrthdroadol' oedd hi, a'r dafarn, fu unwaith yn 'British Pub' heno'n atseinio'n Gymraeg.
Go brin i unrhyw dafarn yng Nghymru weld gwell noson Gymraeg erioed: o'r braidd y gwelwyd pall ar berfformio'r beirdd, ac ar y caneuon Cymraeg a Gwyddeleg a ganwyd gan y Pwyliaid i gyfeiliant gitâr ac organ geg.
Peint yn ddiweddarach Erbyn hyn roedd y beirdd yn dechrau cael tipyn o hwyl ar yr iaith Bwyleg, a newidwyd teitl sawl cerdd a chân er mwyn medru ymarfer: 'Ja jestem facetem z brzuchem' wrth gwrs oedd 'Y fi yw'r boi efo'r bol', ond peint neu ddau yn ddiweddarach cafwyd 'Wiewórka jest w lodówce!', sef 'Mae gwiwer yn yr oergell!'
Hwn oedd y trydydd tro o fewn blwyddyn i feirdd o Gymru ymweld â'r Brifysgol yn Lublin a'r ail dro i Mei Mac ddiddanu'r dinasyddion - flwyddyn yn ôl fe'i gwahoddwyd ef a'r Prifardd Iwan Llwyd i'r ddinas ac i Kazimierz, tref hanesyddol gerllaw; ac ym mis Hydref cafwyd ymweliad gan Grahame Davies a David Greenslade, yn ogystal â'r Athro M. Wynn Thomas o Brifysgol Cymru, Abertawe, i gynnal amryw weithgareddau llenyddol a chelfyddydol.
Yng nghanol y gweithgareddau bob tro hefyd bu Sabine Heinz o Ferlin, yr academydd a'r cennad Cymreig syfrdanol o ymroddgar, a'r British Council yn cynorthwyo'n ariannol.
Dyfodol i'r heniaith yn Lublin A fydd yr heniaith yn parhau yn Lublin? Barn Aled Llion, darlithydd yn y Brifysgol a threfnydd y Gwyliau, yw y bydd.
"Gyda chymaint o waith arbennig o dda wedi ei wneud gan ein gwesteion, mae proffeil yr iaith yn uwch nag erioed, a does dim rheswm pam na ddylai'r Adran Astudiaethau Celtaidd hon, sy'n unigryw yng nghanolbarth Ewrop, fedru parhau i fod yn gyfrwng i hybu ymwybyddiaeth o Gymru, ei hiaith a'i diwylliant.
"Mae'r gwaith yma yn dangos fod pobl yn awyddus iawn i ddysgu am Gymru, ac yn hapus iawn i fanteisio ar gyfleon i wneud hynny. Mae'n ardderchog sylwi bod diwylliant Cymru yn dechrau dylanwadu ar lenorion ac artistiaid eraill yn yr ardal, ac felly'n ymgyfoethogi'r amrywiaeth sydd yma.
"Mae'r cyfnewidiadau yn fodd hefyd i gyfoethogi diwylliant Cymru hefyd - mae'n braf fod cerddi Pwylaidd eu naws eisoes wedi dechrau ymddangos gartref, yn dilyn teithiau cynharach.
"Er mai Iwerddon yw 'brawd mawr' y gwledydd Celtaidd o ran proffeil rhyngwladol, mae gan Gymru hithau lawn cymaint i'w rannu â diwylliannau eraill, ac mae gennym yr adnoddau celfyddydol a dynol i wneud hynny gystal â neb.
"Wrth i Wlad Pwyl baratoi i ymuno â'r Uneb Ewropeaidd, mae'n amser arbennig o dda i geisio ehangu'r cysylltiadau rhwng ein gwledydd. Hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn Lublin ar flaen y gad yn hynny o beth, a gobeithiaf y gallwn ddatblygu'r gweithgareddau a'r cysylltiadau yn y dyfodol."
Ffilmiau Cymraeg Yn dilyn llwyddiant yr w^yl farddol, cafwyd cyfle i fwynhau wythnos o ffilmiau Cymraeg yn sinema 'Chatka Zaka' yn y ddinas, ac 'roedd yr ymateb i honno'n fendigedig, meddai Aled: "O 'Hedd Wyn' i 'Solomon a Gaenor', ac o 'Un Nos Ola Leuad' i 'Oed yr Addewid', heb sôn am 'Gogs', cafodd y gynulleidfaoedd eu synnu gan y ffilmiau sydd wedi dod allan o Gymru, a sinema Cymru ymhlith y rhai lleiaf adnabyddus yn Ewrop.
"Mynegwyd syndod wrthyf sawl tro fod cymuned ieithyddol o hanner miliwn yn medru creu ffilmiau o'r fath safon. Mae'n bleser mawr gen i - gyda chydweithrediad S4C - fedru dangos y ffilmiau hynod hyn yn Lublin yn ogystal â mewn lleoliadau eraill yng Ngwlad Pwyl."
A do, mi lwyddodd Aled ac Ifor i lunio englyn yn y Bwyleg, heb fod ynddo sôn am na bylb golau na gwiwer:
Jak w Lublinie Jest Jak zar dla mnie, jak zurek - jak piwo, Jak powiem, jak wódek; Jak 'gyros', jak ogórek, Mój los to tutaj mój lek.
|  | 
|