
 |  | Adnabod Mihangel Morgan
| Adnabod yr awdur ...
Dyma ychydig o hanes Mihangel Morgan. Os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi wybod am ei fywyd neu ei waith e-bostiwcheich cwestiynau.
Adnabod yr awdur ... Daw Mihangel Morgan yn wreiddiol o Aberdâr, Morgannwg. Mae'n llenor, yn fardd ac yn ysgolhaig.
Mae'n byw yn Nhalybont, Ceredigion ac yn gweithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Wedi ei hyfforddi fel ceinlythrennydd bu'n dysgu'r grefft i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr am flynyddoedd cyn gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pwnc ei ddoethuriaeth oedd agweddau ar waith John Gwilym Jones.
Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg a'i ddiddordeb academaidd yw llenyddiaeth ddiweddar ac ysgrifennu creadigol.
Mae'n awdur sy'n mwynhau chwarae triciau a throi ei storïau wyneb i waered. Mae hiwmor a rhyw ddiniweidrwydd yn ei gymeriadau a'i storïau ond pynciau tywyll a dychrynllyd sydd dan yr wyneb yn aml.
Ymysg ei hoff awduron mae Jose Saramago, Italo Calvino, Kafka, Proust, Wiliam Owen Roberts ac Owen Martell.
Nofel newydd ar y gweill Mae nofel newydd ar y gweill ganddo, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa, Nadolig 2003. Hefyd, bydd cyfrol o gyfweliadau gydag awduron Cymreig, gan gynnwys Mihangel Morgan, wedi eu golygu gan Sioned Puw Rowland, yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn ystod 2003.
Awdur toreithiog Mae Mihangel Morgan wedi cyhoeddi pum nofel, pum cyfrol o straeon byrion a thair cyfrol o gerddi hyd yma:
Diflaniad Fy Fi (1988, Barddas) Beth yw Rhif Ffôn Duw? (1991, Barddas) Hen Lwybr a Storïau Eraill (1992, Gwasg Gomer) Dirgel Ddyn (1993, Gwasg Gomer) Saith Pechod Marwol (1993, Y Lolfa) Te gyda'r Frenhines (1994, Gwasg Gomer) Tair Ochr y Geiniog (1996, Gwasg Gomer) Melog (1997, Gwasg Gomer) Corff yn y Parc a Storïau Ffeithiol Eraill (1999, Gwasg Carreg Gwalch) Dan Gadarn Goncrit (1999, Y Lolfa) Cathod a Chãn (2000, Y Lolfa) Creision Hud (2001, Y Lolfa) Y Ddynes Ddirgel (2001, Y Lolfa) Pan Oeddwn Fachgen (2002, Y Lolfa)
Dyma rai pethau a ddywedwyd am waith Mihangel Morgan:
'Drylliwr delweddau yw Mihangel Morgan, fandal o lenor sy'n gwneud popeth y mae'r metanaratif cenedlaethol a llenyddol yn ei wahardd. Ef yw'r un sy'n tynnu llun mwstásh ar y Mona Lisa.' John Rowlands
'Pwysigrwydd Mihangel Morgan yw ei ymwybyddiaeth boenus o ddwy hunaniaeth leiafrifol ac ymylol: y dyn hoyw a Chymro Cymraeg o gefndir trefol. Mae'r lleiafrifaeth honno wedi peri iddo fod yn llenor moesegol eithriadol; y llenor mwyaf moesegol yn holl hanes y Gymraeg, efallai.' Simon Brooks
'Dyna pam dwi mor hoff o Dirgel Ddyn oherwydd fod y prif gymeriad yn ymwybodol o'r ffaith fod ei wir hunan yn bodoli y tu allan iddo fo ei hun.' Wiliam Owen Roberts
'Rhodd i'r iaith Gymraeg yw ieithwedd unigryw Mihangel Morgan.' Jane Aaron
Sgyrsiwch yn fyw gyda Mihangl Morgan fore Iau ar y safle http://www.bbc.co.uk/wales/talkwales/ neu trwy glicio yma.
Holi Mihangel Morgan
Adolygiad o Pan Oeddwn Fachgen
|  | 
|