
 |  | Llyfrau'r Brifysgol o fewn gafael y bobol
Cychwyn cynllun heb ei debyg
Ebrill 2003 |
Prifysgol Cymru, Bangor yw'r brifysgol gyntaf i agor ei hadnoddau llyfrgell i aelodau'r cyhoedd.
Dan gytundeb heb ei debyg gyda gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy, mae Linc y Gogledd yn caniatáu benthyca am ddim rhwng y Brifysgol a gwasanaethau llyfrgell yr awdurdodau lleol yn y tair sir.
Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y Deyrnas Gyfunol.
"Mewn gwirionedd, mae'n galluogi rhywun sydd angen llyfrau arbenigol i ddefnyddio catalog anferth y Brifysgol o 300,000 o deitlau heb orfod mynd ymhellach nag un o'r 40 o'r llyfrgelloedd cangen a geir yn y rhanbarth," meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.
Rhoddwyd cychwyn i'r Linc mewn cyfarfod gyda'r Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd Prifysgol Cymru a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Ymhell o fod yn dwr ifori, mae'r Brifysgol yn awyddus i drefnu bod ei chyfleusterau a'i hadnoddau ar gael i ddarllenwyr yn y gymuned. Mae Linc y Gogledd yn arwydd o ymrwymiad clir y Brifysgol i gefnogi agenda Gwlad Dysgu ar gyfer dysgu gydol oes.
"Mae'r Cynllun yn galluogi'r Brifysgol i gryfhau ei swyddogaeth gefnogol ar gyfer dysgwyr yn y gymuned.
"Gall rhywun sy'n astudio yn y gymuned ddefnyddio amrywiaeth eang o destunau sy'n gysylltiedig â phynciau, a mynd at ddefnyddiau astudio sydd ar gael yn llyfrgelloedd Cyfadran y Celfyddydau, Cyfadran y Gwyddorau, a Chyfadrannau eraill heb unrhyw gost ychwanegol," meddai Nigel Soane, Pennaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Hefyd, gall benthycwyr edrych ar gatalog y Brifysgol ar-lein a gofyn am unrhyw eitemau o stoc y Brifysgol.
Prifysgol Cymru Bangor
|  | 
|