
 |  | Bardd y Bae
Cymru newydd - gwerthoedd oesol
Mehefin 2003
|
Y Bae, gan John Emyr (Gwasg Gomer, £7.50. tt119). Adolygiad gan Grahame Davies
Tan yn ddiweddar iawn, tiriogaeth ddigon anghyfarwydd fyddai Bae Caerdydd i lenorion Cymraeg.
Ond gyda dyfodiad datganoli, dyma'r Bae a'i dirnodau - adeilad y Pier Head, yr Eglwys Norwyaidd, y Cynulliad ei hun - yn sydyn reit yn dod yn gymaint rhan o'n tirlun cenedlaethol ag yw Pont Hafren neu gopa'r Wyddfa.
Rhan o'r symudiad hwnnw yw'r gyfrol newydd hon o gerddi gan John Emyr, gyda'i theitl Y Bae, yn ei lleoli yn gadarn yng Nghymru newydd y flwyddyn 2003.
Mae'r clawr, gyda'r llun o adeilad y Pier Head, yn tanlinellu cyfoesedd y lleoliad, lleoliad sydd yn gyfarwydd iawn i John Emyr, ac yntau yn olygydd Y Cofnod, sef y record o weithgareddau ein fforwm democrataidd newydd.
Serch hynny, nifer gymharol fach - saith allan o ryw 80 o gerddi - sydd yn cael eu corlannu yn neilltuol i'r adran arbennig o'r llyfr sy'n rhannu teitl y gyfrol. Presenoldeb llawer mwy sylweddol yn y llyfr yw'r adrannau ar Gorthrwm, Teulu, Natur, Ffydd a Cherddi Eraill, er bod lleoliad y brifddinas yn amlwg yn rhai o'r rheiny hefyd.
Yr hyn sy'n taro rhywun yng ngherddi'r gyfrol hon yw bod yma feddwl a ffurfiwyd gan rai o brif ffrydiau y traddodiad Cymraeg - llengarwch, brogarwch a chrefydd efengylaidd - yn delio gydag amodau Cymru'r mileniwm newydd lle mae cyfoeth newydd ar un llaw yn bodoli ochr-yn-ochr â thlodi.
Ceir awgrym o hyn yn y gerdd 'Dewch Adre i'r Bae' lle dywedir:
Brysiwn i siarad â'n cyf-fforddolion Ar yr uwch-draffordd gwybodaeth, Ond ofnwn gymdogion y trothwy yn nieithrwch clos eu hen fyd.
Cyfeiriad yw hwnnw at y cymunedau o frodorion y Bae y mae eu hen gynefin bellach yn cyfochri gyda byd dipyn yn fwy llewyrchus pobl y Cynulliad.
Ceir cerdd hefyd yn nes ymlaen yn y gyfrol, 'Pobl y Stryd', lle mae cydwybod gymdeithasol y bardd yn cael ei phigo wrth iddo helpu i fwydo'r digartref mewn festri capel yng nghanol y ddinas. Hen reddf gymwynasgar yn delio â hen broblem sy'n bodoli yng nghanol newydd-deb "Prifddinas ieuengaf Ewrop".
O ran cywair, ni all rhywun ond cynhesu at y diffuantrwydd hoffus a'r didwylledd amlwg drwy'r gyfrol gyfan.
O ran arddull, y mae'r bardd yn codi i'r tir uchaf ym myd y canu caeth. Dyma berl o englyn, 'Mwyara:
Er mor dew yw'r mwyar duon - yn hedd, Eu llonyddwch ffrwythlon; O fewn tir y fynwent hon, Mwyara ni wna'r meirwon.
Ac mae eraill llawn cystal.
Peth braf yw gweld yn y gyfrol hon fod traddodiadau a chyneddfau cymdeithasol a chrefyddol yr hen Gymru yn dal yn ffrwythlon yn nhir y Gymru newydd.
|  | 
|