
 |  | Byw llyfrau
Gadael gwaith i gadw siop
Mawrth 2003
| Ar drothwy Dydd Rhyngwladol y Llyfr mae swyddog cysylltiadau cyhoeddus wedi rhoi gorau i'w swydd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn rhedeg ei siop lyfrau ei hun yng Nghaernarfon.
Eirian James o Llanrug yw perchennog Siop Lyfrau Palas Print yn Stryd y Palas yn y dref ers yr haf diwethaf.
Tan yr wythnos hon bu'n rhannu ei hamser rhwng y siop a'i gwaith yn Adran Addysg Gydol Oes y Brifysgol.
"Ond daeth hi'n bryd i mi roi fy sylw i gyd i fy menter ym myd y llyfrau," meddai Eirian, 31 oed sy'n dod o Landeilo yn Sir Gaerfyrddin.
"A gyda Dydd Rhyngwladol y Llyfr yn cael ei gynnal yfory pa amser gwell i droi at gadw siop lyfrau am fywoliaeth," ychwanegodd.
Mae Siop Palas Print (Twll yn y Wal gynt) yn arbenigo ar lyfrau a llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg un ogystal â chryno ddisgiau, fideos a chardiau cyfarch. Gall cwsmeriaid gysylltu â'r siop drwy'r e-bost, ac mae gwefan newydd yn cael ei datblygu fydd yn galluogi pobl i grwydro'r siop heb orfod gadael eu cartrefi.
Nid yw byd y llyfrwerthwr yn gwbl ddieithr i Eirian gan iddi fod yn gynrychiolaydd gwerthiant gyda Chngor Llyfrau Cymru.
"Bu gennyf uchelgais o gadw fy siop lyfrau fy hun erioed," meddai Eirian.
"Ac er bod gadael gwaith sefydlog yn y Brifysgol a chamu i fyd busnes yn
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|