
 |  | Llyfr, rhosyn a chusan
Dull heb ei ail o ddathlu diwrnod cenedlaethol
Mawrth 2003
| Ar eu diwrnod cenedlaethol hwy mae pobol Catalonia yn rhoi llyfr a rhosyn yn anrheg i'w hanwyliaid.
Tyfodd yr arferiad ylr fath raddau y mae 10% o werthiant blynyddol llyfrwerthwyr ar Ddydd San Siôr, Ebrill 23 gyda strydoedd Catalonia yn llawn stondinau llyfrau.
Y tu allan i'r siopau blodau mae stondianu rhosynnau.
Tri dathliad yn un Mae Iain Ó hAnnaidh yn gweithio yng Nghatalonia ers dros bymtheng mlynedd yn athro ieithoedd a chyfieithydd.
Mae ei deulu o dras Wyddelig ac Albanaidd ac fe fu yn byw yng Nghymru am gyfnod.
Mae'n rhugl yn y Gymraeg wedi graddio mewn ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Eglurodd ef mai peth lled ddiweddar yw'r traddodiad o'r lyfr a'r rhosyn er bod ei wreiddiau yn ymestyn yn bell yn ôl.
"Trwy gyd-ddigwyddiad daeth tri thraddodiad at ei gilydd dros y canrifoedd," meddai.
"Ar gyfer diwrnod Sant Siôr mae'n draddodiad llyfr, rhosyn a chusan."
Mae'n egluro fod y syniad o roi llyfr tua 75 oed ond yr arferiad o roi rhosyn yn llawer hynach.
Rhyw 25 mlynedd yn ôl yr unwyd y ddau arferiad.
"Mae sôn am ffair rosynnau ar Ebrill 23 mor bell â phum can mlynedd yn ôl."
Hyd at 1840 roedd y ffair yn cael ei chynnal ar sgwâr Sant Jaume yng nghanol Barselona.
Mae sôn amdani fel ffair y caridaon ac mae sôn hefyd am sut y byddai'r dynion yn prynu tusw o rosynnau i'w rhoi i'w cymar.
Y Llyfr yn rhan o'r wyl Yna yn y 1930au fe ddaeth y llyfr yn rhan o wyl Sant Sior.
Datblygodd hyn yn ôl Iain Ó hAnnaidh wedi i Vincent Clavel Andres, a sefydlodd wasg yn Falensia yn 1916, geisio perswadio dinas Barselona i sefydlu diwrnod yn deyrnged i'w hoff awdur.
Yn 1922 rhoddodd gynnig gerbron i sefydlu 'Fiesta del Libro Español' (Gwyl y Llyfr Sbaenaidd) ac yn 1926 datganwyd y byddai'r wyl yn cael ei dathlu ym mis hydref y flwyddyn honno.
"Nid oedd fawr o gefnogaeth o du'r Cataloniaid i'r syniad, am nad oeddynt yn gweld pam nad oedd hefyd yn bwysig i hybu darllen yn eu mamiaith hwythau."
Rhwng 1926 a 1930 fe gynhaliwyd y Diwrnod ar 7 Hydref ond doedd yr wyl ddim yn boblogaidd iawn yng Nghatalonia am ei bod yn Gastileg (Sbaeneg) ei naws).
Hefyd roedd y tywydd yn dueddol o fod yn stormus ar y diwrnod ac felly fe benderfynwyd cynnal yr wyl yn y gwanwyn.
Mae Iain Ó hAnnaidh yn egluro fod yr wyl wedi datblygu'n wahanol ym Madrid.
Yno, bu'n ddatblygiad academaidd ei naws ond ym Marselona daeth yn wyl gwir boblogaidd.
O 1931 ymlaen aeth Gwyl y Llyfr o nerth i nerth, yn bennaf am ei fod yn cyd fynd a diwrnod San Siôr.
Yn 1939 pan oresgynwyd Catalonia gan Franco gwaharddodd yr iaith Gatalaneg ond roedd yr wyl yn parhau i gael ei dathlu ac wedi marwolaeth Franco datblygodd traddodiad y rhosyn a'r llyfr.
Erbyn hyn mae pawb yn prynu llyfr a rhosyn i'w rhoi yn anrheg ar y diwrnod.
I ddechrau roedd y gwr yn rhoi rhosyn i'w gymar a hithau wedyn yn rhoi llyfr iddo ef ond erbyn hyn gall unrhyw un brynu llyfr i bwy bynnag.
Rhosyn coch a bob amser a hwnnw'n cael ei werthu fel arfer gyda choes o wenith a'r cwbl wedi eu clymu â rhuban â phatrwm baner Catalonia arni.
"Mae wedi bod cymaint o lwyddiant fel bod pawb yn rhwym o brynu'r ddeubeth erbyn hyn. Mae peidio â phrynu llyfr a rhosyn mor ddifrifol ag anghofio pen-blwydd."
Diwrnod y llyfr: Bydd cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd, stiwdios teledu a siopau llyfrau yn ogystal ag mewn siopau, swyddfeydd a gweithleoedd eraill i ddathlu Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 6.
Mae'n ddiwrnod sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd a'r llynedd ymunodd dros 30 o wledydd yn y dathliadau.
Y nod yw helpu pawb - o bob oed - i fwynhau llyfrau a darllen ac ymhlith y rhai sy'n hyrwyddo'r diwrnod yng Nghymru y mae Ryan Giggs, Aled Jones a Gaby Logan
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|