
 |  | Cofio digrifwr dawnus
Cyfrol yn cyffwrdd a holl ddoniau Ryan Davies
Chwefror 2003
| Cofiant Ryan gan Rhydderch Jones. Y Lolfa. £5.95.
Cofiant wedi ei ail-gyhoeddi ydi hwn - i gydfynd a chofio chwarter canrif marwolaeth y diddanwr a'r digrifwr tra ar wyliau yn yr Unol Daleithiau fis Ebrill 1977.
Ers cyhoeddi'r gyfrol y tro cyntaf yn 1979 bu farw ei hawdur, y dramodydd Rhydderch Jones, hefyd.
Y Lolfa sy'n cyhoeddi'r gyfrol y tro hwn ond o ran geiriad nid yw'n wahanol i'r argraffiad cyntaf ar wahân i ragair gan Bethan Davies, merch Ryan.
Cyfaill a chydweithiwr Teg dweud mai teyrnged yn hytrach na chofiant moel a gafwyd gan Rhydderch Jones a honno'n deyrnged gan gyfaill a chydweithiwr gyda'u cyfeillgarwch yn cael ei olrhain o gyfnod y ddau yn fyfyrwyr yn Y Coleg Normal ym Mangor.
Daeth Ryan i'r coleg yn dilyn cyfnod o wasanaeth milwrol gyda'r RAF.
Daw yn eglur yn fuan fod hwn yn gyfnod eithriadol o gyfoethog yn y coleg o safbwynt myfyrwyr â dawn i ddifyrru ac nid oes amheuaeth ychwaith mai Ryan Davies oedd y seren ddisgleiriaf yn eu plith.
Mwy na digrifwr Y mae tuedd - a pheryg - inni feddwl amdano fel digrifwr a chlown yn unig ond yr oedd wedi ei ddonio yn llawer helaethach na hynny.
Mae Rhydderch Jones yn dyfynnu geiriau y diweddar Alun Williams toc wedi marw Ryan: "Os y'ch chi'n mynd i feddwl amdano, a'i gofio fe yn ôl ei dalentau e, wel, dyma'r difyrrwr Cymraeg mwya erioed, heb os nac oni bai. Ma' dyn yn tueddu i feddwl, tase fe wedi bod yn ganwr mawr, fe fase fe wedi medru ennill bywoliaeth iddo fe'i hun - fel canwr, actor, ysgrifennwr, cynhyrchydd, pianydd neu delynor."
Dydi o ddim yn cynnwys y gair "actor" yn ei restr ond yr oedd Ryan yn actor deallus, yn yr ystyr traddodiadol, hefyd ond bod hynny'n cael ei anghofio oherwyddcymaint o argraff a wnaeth fel y Fe yn Fo a Fe ac fel hanner ddoniolaf y ddeuawd gomedi, Ryan a Ronnie.
Mae'r ffaith fod teledu hyd heddiw yn dal i ailddangos ei gyfraniadau yn arwydd eithaf sicr na ddaeth neb, mewn gwirionedd, i lenwi ei esgidiau.
Mae meddwl hynny yn gwneud hon yn gyfrol drist wrth inni sylweddoli gymaint y dalent a gollwyd.
Stori dda Ond dydi hi ddim yn gyfrol bruddglwyfus ac y mae Rhydderch Jones yn olrhain gyrfa Ryan yn ddeheuig a difyr iawn gydag ambell i stori wirioneddol werth chweil fel yr un am eu hymweliad â chartref y dramodydd Marghanita Laski pan oeddan nhw'n actio mewn cynhyrchiad Cymraeg o'i drama, The Offshore Island.
Mae'n ddarlun hoffus o Gymry digon gwladaidd mewn gwirionedd yng nghymdeithasfa gwraig yr oedd J. B. Priestly yn JB iddi a llenorion fel Racine a Voltaire yn fara beunyddiol iddi.
"Bu pedwar ohonom yn nodio am chwarter awr gyda deallusrwydd pedwar llwdwn," meddai Rhydderch Jones am eu sgwrs.
Nes i Ryan fedru troi'r sgwrs honno gyda'r frawddeg anhygoel: "Talking about cynghanedd (achos yr oeddan nhw wedi crwydro at Gerald Manley Hopkins erbyn hyn), is that a harpsichord?" meddai.
Daeth y seiat i ben gyda Ryan yn chwarae Cainc y Datgeiniaid ar yr offeryn.
"Ac fe ganodd Ryan a minnau Gywydd y Berwyn iddi! Roedd y ddynes annwyl honno wrth ei bodd. Ac roedd y croeso yn gynnes a diymhongar."
Marw ar wyliau Ar wyliau gyda'r teulu yn yr Unol Daleithiau y bu farw Ryan Davies yn 1977. Yr oedd yn un o'r digwyddiadau hynny a wnaeth i bobl gofio lle'r oeddan nhw pan glywsant y newyddion - neu o leiaf gofio'r ysgytwad a achosodd y newyddion.
Yr oedd yn daranfollt ac yntau mor ifanc ac ar anterth ei yrfa a chymaint ganddo i'w gyflawni eto.
I gyfleu'r syfrdandod mae Rhydderch Jones, yn dyfynnu yr hyn a ddywedodd un o benaethiaid y BBC wrtho.
"Rwy'n cofio," meddai, "Emyr Daniel yn dweud wrthyf y bore hwnnw fod yr Adran Newyddion sy'n delio â thrasiedïau, erchylltra a dioddefaint yn feunyddiol, wedi ei barlysu'n (sic) llwyr, pob un yno heb air, pob un a'i ddolur personol."
Ychwanega: "Hyd heddiw, pan fo amser wedi lleddfu y boen i raddau, mae unigolion yn dweud wrthyf beth oeddent yn ei wneud a lle yr oeddent pan glywsant am ei farwolaeth. Mae'n debyg fod gan bawb ei gof ei hun am Ryan, a phawb yn hawlio rhyw ddarn bach ohono."
Teyrngedau Mae'r gyfrol yn cloi gyda rhes o deyrngedau gyda D. G. Evans yn proffwydo mewn englyn
Bydd bwlch hir o golli'r gwr Dewin o gomediwr
ac y mae yn arwyddocaol ei bod bron a bod yn ystrydeb ymhlith beirniaid teledu a'u tebyg i alarnadu hyd yn oed heddiwr na ddaeth neb i lawn lenwi ei esgidiau.
Ond mae yna fwy na galarnadu yng nghofiant Rhydderch Jones y mae yna werthfawrogi, edmygu a threiddio hefyd mewn teyrnged sy'n gytbwys, sensitif a difyr.
Ac y mae yma gyfoeth o luniau - er ei bod yn drueni na ddewisodd y wasg ddalennau o faint a fyddai wedi gwneud mwy o chwarae teg a'r holl gyfoeth hwnnw o luniau 'personol' a phroffesiynol.
Canolbwyntio ar yrfa Gwir mai ar yrfa'r diddanwr y canolbwyntiodd a phrin yw'r sôn am y person preifat y tu ôl i fasg y clown a'r comic. Ond y mae ambell i ddyfyniad awgrymog fel Ryan ei hun yn dweud: "Diolch i'r nefoedd, pan ddof oddi ar y llwyfan, gallaf anghofio'n sydyn fy mod wedi bod arno. Byddai ceisio byw gyda'r Ryan sydd ar y llwyfan, coeliwch fi, yn annioddefol. Allwch chi ddychmygu bod yn briod am 24 awr - i glown? Amhosibl. Dim ond dyn yn gwneud ei waith ydw i wedi'r cyfan."
Tebyg y byddai'r gyfrol wedi elwa ar ei diweddaru neu hyd yn oed lunio cyfrol newydd gyda theyrnged Rhydderch Jones yn gnewyllyn iddi. Glyn Evans.
Mae'r adolygiad hwn yn ymhelaethiad o adolygiad a gyhoeddwyd ar wefan Gwales, Cyngor Llyfrau Cymru.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|