
 |  | Deddf electronig
Deddf newydd er mwyn ychwanegu at gasgliadau llyfrgell
Chwefror 2003
| Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gwylio gyda diddordeb hynt Mesur Preifat a gyflwynir yn y Senedd yn Llundain fis Mawrth.
Os yn llwyddiannus, bydd y Mesur gan Chris Mole yn galluogi'r Llyfrgell i hawlio copiaui'r Llyfrgell o unrhyw ddefnyddiau electronig a gyhoeddir yng Nghymru, Prydain ac Iwerddonl.
Print yn unig Dan ddedf gwlad fel ag y mae yn awr ni all y Llyfrgell ond hawlio copiau o ddefnyddiau printiedig. Nid oedd y fath beth a chyhoeddi electronig yn bod pan basiwyd y ddeddf sy'n awr mewn grym yn 1911..
Gyda'r bwlch hwn yn y Ddeddf mae peryg i sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol a'r Llyfrgell Brydeinig golli moroedd o wybodaeth bwysig a fydd ond ar gael yn electronig.
Rhagwelir cynnydd rhyfeddol mewn cyhoeddi o'r fath rhwng hyn a 2005 - o 52,000 o gyhoeddiadau i 193,000.
Mae Mesur Mr Mole am sicrhau fod gan y Llyfrgell Genedlaethol, y Llyfrgell Brydeinig a phedair llyfrgell arall yr hawl i gopi o bob peth cyhoeddiedig ar bapur ac yn electronig.
Brwd iawn "Yr ydym yn frwd iawn ynglyn â'r Mesur," meddai Non Jenkins, pennaeth yr adran sy'n derbyn y cyhoeddiadau hyn yn y Llyfrgell.
Ond ychwanegodd y byddai'r newid yn ychwanegu at waith yr adran a chreu'r angen am fwy o adnoddau i ddelio a'r holl ddefnyddiau newydd a fyddai'n dod i law.
Eglurodd fod defnyddiau electronig yn amrywio o bethau fel CDs i gylchgronnau arlein a dalennau gwe.
Canmolodd gyhoeddwyr yng Nghymru am eu cydweithrediad hwy hyd yn oed cyn iddynt ddod dan orfodaeth deddf gwlad.
Oesoedd tywyll Wrth bwysleisio pwysigrwydd ei fesur dywedodd Mr Mole sy'n cynrychioli Ipswich: "Yr ydym angen deddfwriaeth yn awr i ddiogelu rhan allweddol o dreftadaeth gyhoeddedig y genedl.
"Rhaid inni sicrhau na fydd yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei hadnabod yn y dyfodol fel yr oesoedd tywyll gyda chofnodion a data arwyddocaol ar goll oherwydd nad oedd rhai ffurfiau yn cael eu casglu a'u diogelu."
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, fod y Deyrnas Gyfunol yn llusgo ar ôl rhai gwledydd eraill yn barod a bod pawb sydd â diddordeb yn y maes yn cefnogi'r hyn sydd y tu ôl i fesur Mr Mole.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|