
 |  | Nofel Ronseal!
Gwneud be sy'n cael i ddweud ar y clawr!
Chwefror 2003
| Hen Friwiau gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch £6.50
Adolygiad gan Elin Meredith Meddai'r broliant ar glawr y llyfr yma: "Mae'r awdur yn sylwgar ac yn deall y natur ddynol, ac nid oes amheuaeth ei fod yn medru ysgrifennu naratif cyffrous a deialog dda."
Ond, peidiwch â gadael i'r sylw athro-ysgol yma beri ichi droi eich trwyn ar Hen Friwiau.
Er ei bod hi'n frawddeg wir bob gair, dydi hi ddim yn gwneud cyfiawnder o gwbl â gwead a rhediad tyn y nofel dditectif yma.
Stori dda Mae Hen Friwiau yn dweud stori, a honno'n stori dda wedi ei dweud yn gelfydd a Dyfed Edwards wedi llwyddo i osgoi'r fagl o ysgrifennu er mwyn dangos clyfrwch geiriol neu syniadol ac wedi ysgrifennu nofel 'Ronseal' gan wneud yn union be mae'n ei ddweud ar y clawr sef dweud stori, dim mwy, dim llai.
A dyna'r math anoddaf o ysgrifennu i'w wneud yn dda medde nhw.
Llofruddiaeth merch ifanc Newyddiadurwraig o'r enw Aleksa Jones ydy'r 'ditectif' yn y nofel yma. Cymeriad sy'n benderfynol o fynd at wraidd llofruddiaeth merch ifanc dros chwarter canrif ynghynt.
Wrth dyrchu i mewn i hen hanes, mae Aleksa'n codi sawl crachen ac yn siglo rhai o bileri'r gymdeithas wrth ddod yn anghyfforddus o agos at y gwir.
Yn Aleksa Jones mae'r awdur wedi creu prif gymeriad sy'n fodern, yn fyw ac yn gwbl greadadwy. Yn debyg iawn i dditectifs benywaidd cyfresi teledu fel Prime Suspect mae hi'n perthyn yn naturiol i'n cyfnod a'n cymdeithas ni, yn rhywun y gallwn i ei hadnabod fel merch sy'n byw yng Nghymru yn fy oes i - profiad prin iawn mewn llenyddiaeth Gymraeg.
Mae hi'n braf gweld y rhyw deg yn brif gymeriad positif mewn llenyddiaeth Gymraeg am unwaith.
Mae yna ymgais i wau'r stori dditectif efo edau bywyd personol Aleksa drwy geisio rhoi rheswm am ei dycnwch wrth geisio canfod beth ddigwyddodd i'r ferch ifanc a laddwyd - sef bod Aleksa wedi cael erthyliad.
Mae'n ymgais i greu is-blot a'i gwneud hi'n fwy byw, ond dydw i ddim yn siwr os mai dyma'r ddyfais fwyaf effeithiol. Nid yw cymharu marwolaeth merch ifanc yn ei harddegau a babi nad yw erioed wedi bod yn taro deuddeg rhywsut.
Mynd dan groen Er hynny mae ei pherthynas efo'i chyn gariad, a rhan ei chyfaill, Ffion, yn y stori, yn help i'w gwneud yn gymeriad mwy crwn.
Ond mae'n glod i Dyfed Edwards ei fod wedi llwyddo i fynd dan groen y cymeriad benywaidd cystal ac ysgrifennu deialog llyfn, naturiol nad yw'n tynnu sylw ato'i hun.
Yn newyddiadurwr ei hun ers 13 o flynyddoedd mae wedi tynnu ar ei brofiadau ei hun a'i adnabyddiaeth o lefydd a phobl i greu sefyllfaoedd credadwy, hyd yn oed mewn plot sydd ar brydiau'n anghredadwy.
Cymeriadau hunllefus Er bod yr awdur yn ymhyfrydu mewn datgelu'r stori inni wrth ei bwysau a chreu'r potensial i sawl tro yn y gynffon, roedd gen i ofn i ddiwedd y nofel droi yn ychydig o ffars yn arddull y League of Gentlemen.
Daw trigolion y dref o fewn trwch blewyn i ymddangos fel cymeriadau hunllefus o bentref dychmygol Royston Vasey, ond caiff hynny ei osgoi jyst mewn pryd.
Un o brif fanteision Aleksa Jones ydy ei bod hi'n ymddangos yn ddi-wreiddiau. Does dim sôn am deulu a chartref i dynnu oddi ar y stori ac mae hynny'n rhoi elfen o ddirgelwch iddi hefyd.
Mae yma ddigonedd o sgôp i'w datblygu mewn nofel ddilynol felly ac mi fyddwn i yn bendant yn awyddus i ddarllen am ei hanturiaethau eto.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|