
 |  | Sgwrsio difyr
Beti George yn holi, tywys a chornelu
Chwefror 2003
| Beti a'i Phobol - 1. Addasiad llyfr o'r sgyrsiau radio. Golygydd, Ioan Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.
Un peth a'm synnai i byth a hefyd tra'n newyddiadura oedd parodrwydd pobl cwbl ddieithr i rannu cynnwys eu ciarpad bag â chwi.
O fewn munudau, weithiau, yn barod i rannu cyfrinachau personol efo person na welson nhw mohono erioed o'r blaen nes iddo gnocio ar eu drws y diwrnod hwnnw.
Er nad ydw i fy hun felly o gwbl cefais achos i ddiolch fwy nag unwaith mai felly y mae cymaint o bobl.
Un arall sy'n siwr o fod yn ddiolchgar am y gynneddf ryfeddol hon mewn pobl ydi Beti George.
Digon o'r difyr Tyfodd ei chyfres radio hi, Beti a'i Phobol, yn rhyw fath o sefydliad cenedlaethol erbyn hyn ac y mae'n gyfres a all ymffrostio yn y ffaith i'r sgyrsiau difyr fod yn llawer iawn mwy niferus na'r rhai - wel ddwedwn ni ddim anniddorol ond cyffredin.
Dros y blynyddoedd bu rhai sgyrsiau mor ddadlennol nes bod yn ysgytwol ac ni ellir ond rhyfeddu at barodrwydd pobl i ymgymryd â'r math yma o ysgarthiad cyhoeddus.
Ni ellir anwybyddu rhan yr holwraig yn yr alcemi hwn ac yn y gyfrol hon mae hamdden i sylwi cyn lleied y mae Beti George ei hun yn ei ddweud yn ystod y sgyrsiau. Gan amlaf, porthwraig ydi hi yn hytrach na holwraig gyda dawn ddihafal i hudo'r gwrthrych i ddatgelu'r peth yma a'r peth arall.
Â'r gyfres yn mynd ers cymaint o flynyddoedd mae'n rhywfaint o syndod na fyddai cyfrol fel hon wedi ei chyhoeddi cyn hyn.
Dewis deg Y deg sy'n cael yr anrhydedd o gychwyn yr hyn a fydd, does bosib, yn gyfres, yw: Clive Rowlands y dyn rygbi; Mel Williams, dyn camera a oedd yn dyst i Fedi 11; Eldra Jarman, sipsi; R. S. Thomas, y bardd, offeiriad a chenedlaetholwr; Wynford Jones, dyfarnwr bocsio a cherddor; Mel Fôn, swyddog gyda'r Urdd; Orig Williams, reslar; Meima Morse, gweinidog; Ali Yassine, actor a T. Llew Jones y bardd a'r llenor.
Ymgomwyr difyr Wrth gwrs byddai rhywun yn disgwyl i rai fel Orig a T. Llew fod yn ymgomwyr difyr ond y mae gan y lleill eu straeon hefyd.
Clive Rowlands wedi brwydro yn erbyn canser, Wynford Jones nid yn unig yn gallu cyfuno y cain a'r hyn sy'n ymddangos yn ffyrnigrwydd gyda'i gariad angerddol tuag at gerddoriaeth a bocsio ond yn asio'r ddau.
Ni allai rhywun a oedd yn Efrog Newydd ar y Medi'r unfedarddeg ofnadwy yna ond bod a rhywbeth diddorol i'w ddweud ond yr un mor ddiddorol yw profiad Mel Fôn a fu ar riniog ei farwolaeth ei hun yn dilyn damwain car ddifrifol.
Allan o'i gorff Mae ei sgwrs yn gymysgedd o'r iasol, yr ysgytwol a'r rhyfeddol wrth iddo edrych yn ôl a chofio'r teimlad o fod wedi colli'r frwydr am ei fywyd ei hun.
"Dwi'n cofio meddwl amdanaf fi'n codi o 'nghorff ac o'n i tua ugain i dri deg troedfedd uwchben y fan yn sbïo'n ôl i lawr, yn sbïo ar siacedi melyn y paramedics yn gweithio arnaf fi. Cofio gweld y dail yn wyrdd ac yn llachar, llachar, ac yn gweld fod yr awyr yn las, las,las . . ."
Gwaith hela O bosib mai'r mwyaf gwahanol os nad anoddaf o'r holedig rai yw R. S. Thomas gyda Beti yn gorfod gwneud mwy i gwrso a chornelu yn wyneb atebion sy'n ymylu weithiau ar fod yn unsill.
Yma, nid yn unig mae digon i fyfyrio drosto a chymeriad digon gwahanol a chymhleth i'w ddadansoddi ond hefyd mae'r broses o'i hela yn un ddiddorol ynddi'i hun.
Pleser peltan Ni ellid cael mwy o wrthgyferbyniad o safbwynt parodrwydd i siarad a mynd i hwyl ac ysbryd yr achlysur nag Orig Williams gyda'i ddawn ddihafal i dynnu ac i bryfocio a dweud pethau mawr.
"Ydach chi 'di cael y teimlad rioed o roid peltan go iawn i rywun ar 'i drwyn?" medda fogan fynd rhagddo i ymhelaethu am y gwir bleser y mae hynny'n ei roi;
"Mae o'n deimlad da, Beti . . . cerwch chi allan ar y stryd a rhowch chi gelpan iawn i rywun ar 'i drwyn, fyddwch chi wrth eich bodd . . . Saff o fod," meddai.
Gan ychwanegu: "Dos gin i'm llawar o ymennydd fy hun, wedyn dydio'm yn effeithio dim arna' i wrth gael peltan yn ôl."
A does yna'r un pwnc nad oes ganddo farn arno:
"Pwrpas llyfr ydi neud o'n ddealladwy. A ’ma pobol y Celfyddydau 'ma a phobol yr Eisteddfod, ma nhw fatha Moses yn dod i lawr hefo'r Deg Gorchymyn o fynydd Sinai. Roedd Moses yn bwysig yr amser honno, oedd y gyfraith gynno fo, yn cael i darlledu yn fyd-eang. Oedd hi'n iawn i Moses fod yn bwysig, ond ma'r rhain i gyd mor bwysig ag oedd Moses." Beti: Ie ond ma’n rhaid cael'l pobol fel hyn hefyd does e? "I be? I be ma' nhw'n da?"
Labelu pobol Y mae'r sgwrs gydag Ali Yassin yn mynd â ni i dir arall eto ac yn un sydd mor berthnasol heddiw a phan ddarlledwyd y sgwrs yn Ebrill 1993.
Wedi ei eni yng Nghaerdydd mae Ali Yassin yn Gymro ond a'i wreiddiau yn sicr yn "ddwfwn yn yr Aifft a Somalia".
Gall ef edrych ar leiafrif diwylliannol mewn ffordd wahanol i'r rhelyw ohonom.
Mae'n ymwybodol iawn o'r labelu sy'n bod ar bobl:
"Faswn i byth yn deud bod John Major (y prif weinidog ar y pryd) er enghraifft yn cynrychioli y Cristnogion ym Mhrydain. Wel, mae'n od iawn i weld rhywun fel Gaddahafi ar y newyddion, y peth cyntaf ti'n clywed yw i fod e'n Foslem . . . a Saddam Hussein hefyd."
Na, mae'r duedd barod i bardduo rhai yn ôl eu crefydd yn un sinistr a dweud y lleiaf.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|