
 |  | Confa Lescent, cariad ac ambell i jôc
Ond yr hen asbri wedi mynd o fywyd Tomos a Marged
Dydd Iau, Ionawr 9, 2003
| Tomos, Neli Ann a Marged gan Wasg Gomer. £5.95.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Yr wyf wedi bod yn edmygwr mawr o'r ddau hen gymeriad Tomos a Marged, creadigaethau gwledig a doniol W. J. Gruffydd.
Mewn papur newydd Cymeriadau a ddaeth yn gyfarwydd i drigolion de Ceredigion a gogledd Penfro drwy gyfrwng colofnau'r pTeifi Seid, papur wythnosol yr ardal.
Roedd W. J. yn weinidog yn Y Glôg bryd hynny.
Ymddangosodd y casgliad cyntaf o'r straeon yn 1965 a daeth dwy gyfrol arall yn yr wyth mlynedd wedyn ond bu saib o bron i ugain mlynedd nes i'r cyfrolau hwyliog ail-gychwyn eto, ddeng mlynedd yn ôl.
Cyfrolau a ddangosodd fod W. J. Gruffydd yn haeddu lle uchel ymhlith sgrifennwyr y stori ddigri Gymraeg - nid fod storiwyr Cymraeg digri yn or-niferus yn awr nac yn y gorffennol.
Sy'n gwneud imi feddwl; onid yw'n bryd i rywun fynd ati i gasglu cyfrol o straeon digri Cymraeg - fe gawn gasgliadau a blodeugerddi diddiwedd o farddoniaeth.
Wedi dweud hynny, fedra i ddim mynd ar fy llw y buaswn yn cynnwys yn y fath gasgliad yr un dim o gyfrol ddiweddaraf W. J. Gruffydd, Tomos, Neli Ann a Marged.
Canmolais y gyfrol flaenorol, Chwedlau Nant Gors Ddu, a gyhoeddwyd y llynedd i'r cymylau ond rwy'n poeni fod yr hen gymeriadau o fynydd-dir corsiog Ffair Rhos wedi chwythu'u plwc erbyn hyn.
Confa Lesio! Nofel fach yn hytrach na chasgliad o straeon yw Tomos, Neli Ann a Marged.
Mae Tomos wedi bod yn yr ysbyty am lawdriniaeth a mynd i Awelfor "Confa Lescent" am adferiad llawn. Yno, mae rhyw weddw fach heger o'r enw Neli Ann yn cymryd ffansi ato a'i arwain ar gyfeiliorn - ychydig bach o "ar gyfeiliorn" dim byd rhy ddifrifol; pictiwrs, ty bwyta Chineaidd, y math yna o beth.
Wrth gwrs, mae'r hanes yn mynd ar amrantiad at Marged diolch i rai o drigolion siaradus y bryniau. Heb son am ymyrraeth dau dynnwr coes y "Confa Lescent", Stalin a Loffti.
Ymhlith y gemau o ddoniolwch mae Stalin a Loffti yn rhoi gwers hanes i Tomos.
"Ro'wn i'n meddwl mai yn y Batl o Waterlw yn y Boer War o'dd Napoleon yn ymladd, a'i fod wedi ca'l 'i dransporto i'r Eil o' Man."
"Nage. Yn Llunden o'dd Batl Waterlw. Ro'dd rownd l'ath gyda brawd mam ar bwys steshon Waterlw, a fe fuodd e'n gerthu lla'th sgim i'r sowldiwrs o'dd yn y Batl ...[a] rhoi digon o ddwr ar ben y sgim ..."
Pan fo nhw'n trafod y llun o'r cyrnol sydd yn y Confa Lescent mae Stalin yn dweud i'r cyrnol golli darn o'i glust yn Waterlw a Tomos yn cofio fel y bu bron iddo yntau golli ei glust wrth hogi'r bladur ar ei ysgwydd slawer dydd.
Jôc dda yw honno am Constipation Hill. Er 'mod i'n ddigon cyfarwydd ag Aberystwyth, chlywais i mohoni o'r blaen!
Mae Ianto'r Hewl fel hwrdd yn y hydref (hwrdd ar viagra dd'wedwn i) eisie priodi Hannah Jên a chael saith o blant. Er ei fod e mewn oed bod yn gallach.
Dim gast felen Falle 'mod i'n gweld eisiau'r ast felen a gladdwyd yn y gyfrol ddiwetha wedi oes o erlid hyrddod strae o gaeau ei pherchennog.
Falle 'mod i'n fwy cysurus yng nghwmni Tomos pan fo yn ei gynefin nag yn Confa Lescent. Beth bynnag, chefais i ddim mo'r un hwyl gyda'r gyfrol hon.
Rwy'n gobeithio na fydd W. J. - sydd ddim yn credu mewn adolygiadau beth bynnag - yn cymryd ato os digwydd iddo ddarllen hyn ond, gwell hwyl tro nesaf.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|