
 |  | Hen gyfaredd - ac R S Thomas yn chwarae coets!
Profiadau awdur a ddychwelodd i fro ei dadau
Dydd Iau, Ionawr 9, 2003
| Llain yn Llyn gan Arfon Huws. Gwasg carreg gwalch. £4.95.
Adolygiad gan Ioan Mai Evans
Llais pensaer wedi ymddeol i Fwlchtocyn ar benrhyn Llyn, cynefin ei hynafiaid sydd yma. Llais a'm sgytwodd o ddarllen un o'i sonedau, Llyn 2050, lle mae'n proffwydo
estron gyn yn sgythru ar lechen las The last to speak Welsh dwelt in this house Pa ryfedd fod yr halen ar fy moch Wrth loetran ym Mhen Cei yn Abersoch
Llinellau a roddodd imi hergwd ymhell yn ôl i Gernyw lle gweir bedd yr olaf i siarad y Gernyweg. Fy atgoffa hefyd o ddarllen Y Wers Ola gan Daudet a'r pnawn y rhois fy nhroed ar Ynys Clare yn ne Iwerddon a chael fy nghyfri'n estron nes iddynt synhwyro mai Cymro oeddwn.
Dychwelyd i dir ei dadau Er i'r awdur, Arfon Huws, gael ei eni yn Lerpwl a graddio gydag anrhydedd mewn Pensaerniaeth yng Nghaerdydd, rhoes ei fryd ar ddychwelyd i wlad ei dadau yn Llyn.
Ymddeolodd yn 1988. Trodd at farddoni ac ysgrifennu ac hefyd ymdaflu i waith fel ysgrifennydd Cyfeillion Llyn, aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a hefyd o lys a chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac o Orsedd y Beirdd.
Does ryfedd felly fod ei gyfrol yn cynnwys cant o gyfansoddiadau yn amrywio o englynion i limrigau a rhyddiaith.
Teimla, weithiau, ei fod yn alltud yn ei wlad ei hun: Er hynny, ar fyr ennyd Af yn ôl i'r fan o hyd oedd ei ddeisyfiad.
Dro arall teimlwn ei fod, fel Saunders Lewis, yn galw ei gyfeillion - y Prifardd o Gilan, Alan Llwyd, a'i ddwyster o golli cenedlaetholwr fel Herbert Thomas, Ficer Llannor, Gladys Williams, Riffli O wirfodd, ei hoes hirfaith - a dreuliodd Yn drylwyr i'w mamiaith,
neu gofio Anita Griffith yn estyn ei dwyster dros weundir Rhoshirwaun hyd niwlen Anelog
a sawl un arall.
Di-dderbyn wyneb Cawn ambell deitl fel Eto Fyth yn ddadlennol a di-dderbyn wyneb: Yn Abersoch bu rhyw sôn - am rinwedd Marina i Saeson Gwyliwn swyn y cynllwynion I elwa'n yr hafan hon.
Mor annwyl fydd Marina - i'r rhai Sy'n rhydd i segura Daw anobaith diweithdra Ar y dôl ar ôl yr ha.
Llwyddodd dro arall i fod yn ddigon digrif wrth stwffio pedair C i un limrig:
Dwy LL yn Llanelli - dim trafferth, Dwy A yn Y Bala - dim penbleth Dwy S yn Caersws Ond o'r ffasiwn ffws I ganfod sawl C sydd yn Cricccieth.
Seigiau o ryddiaith Trowch at y seigiau o ryddiaith sydd yn y gyfrol. A oedd y bardd R. S. Thomas, yn deithiwr mor aflonydd â'r brenin Arthur? Feddyliais i erioed am y peth nes darllen y darn Chwarae Coets lle mae sôn am Goeten Arthur nid nepell o gartre'r bardd ar un adeg, islaw llethrau Mynydd y Rhiw.
Ond beth a symbylodd RS i gychwyn Cynghrair Chwarae Coets yn Llyn?
Dyma agwedd cwbl newydd ar fywyd R. S. Thomas a chof da gan yr awdur am y noson yn chwarae coets ar gae ysgol yn Llyn.
"I sicrwydd bu RS yn taflu coets cyn y noson ond ni chawsom wybod ymhle na pha bryd.
"Cododd fymryn ar ei ên a chyffyrddodd awel ysgafn ei wallt am eiliad. Cadwodd ei fraich yn syth ac fe ysgythrwyd yr eiliad ar fy nghof am byth.
"Nid ydyw darlun olew Thomas Jones, Pencerrig, sy'n crogi ar fur yr Amgueddfa Genedlaethol yn gwneud cyfiawnder o gwbl â'r ddelwedd o'r bardd Cymreig. Yno, ar gae chwarae'r ysgol ym Mhen Llyn y gwelwyd hwnnw," meddai.
Cyfrol ddiffuant Dyma gyfrol ddiffuant na allaf i ond ategu cyflwyniad y diweddar Gruffudd Parry iddi:
"Mae'n gweld arwyddocâd ehangach y cynefin cyffredin ac yn, a thrwy'r cyfan, yn crisialu ei Gymreictod a'i Fyw, yn sicr ei grefft ac yn glir ei welediad.
"Cyn hyn doedd Sgubor Ddegwm yn ddim ond enw ar gartref y teulu ym Mwlchtocyn. Bellach, mae holl bryderon ac ofnau y bygythiad am ddifodiant cenedl ynddo. A dyna gamp celfyddyd. " Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|