
 |  | Ar drywydd llofrudd
Awdur yn hudo darllenydd ar drywydd ffug
Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
| Tewach na Dwr gan Dylan Jones. Addasiad Rhiain Dafydd. Gwasg Gomer £6.95
 Adolygiad gan Catrin Jones
Nofel lofruddiaeth ag iddi dro annisgwyl yn ei chynffon yw Tewach Na Dwr. Hi oedd nofel y mis yn Nhachwedd.
Dylan Jones, llawfeddyg o Landeilo yw’r awdur a does dim rhyfedd felly mai meddyg yw prif gymeriad y nofel.
Meddyg yn dychwelyd i Gymru i ail afael yn ei waith wedi marwolaeth ei wraig yw Sam. Wedi iddo dreulio cyfnod yn Awstralia gyda’i chwaer mae’n barod i ail afael yn ei fywyd, ymgartrefu yn ei hen gartref a gwneud ei orau i anghofio llofruddiaeth erchyll ei wraig, Jo.
Atgof poenus Ond nid yw hynny’n dasg hawdd yn arbennig gan fod Debbie, gefaill Jo, yn atgof poenus o’r gorffennol.
Ond yn fwy na hynny mae rhywun â’i gyllell yn Sam ac am wneud yn siwr na fydd yn anghofio am farwolaeth ei wraig gan wneud ei fywyd yn uffern.
Ond mae Sam yn benderfynol o ddarganfod pwy yw llofrudd creulon ei wraig a phwy sy’n ei wylio yntau.
Sawl pennod gyffrous Nofel ddirgelwch yw hon felly ac mae yma sawl pennod gyffrous wrth i ni geisio darganfod pwy yw’r llofrudd gyda Sam.
Mae’n nofel hawdd i’w darllen ac mae popeth yn symud yn gyflym. Mae’n rhaid i mi ddweud na theimlais i fod y llyfr yn araf na diflas ar unrhyw adeg ac roedd yma ddigon yn digwydd i gynnal diddordeb y darllenydd.
Mewn rhai nofelau mae’n hawdd rhagweld erbyn y diwedd pwy yw’r llofrudd ond nid nofel felly ydyTewach na Dwr.
Roeddwn i bron yn sicr erbyn i mi gyrraedd y penodau olaf fy mod i wedi datrys y dirgelwch ac yn gwybod pwy laddodd Jo.
Ond yn union wedi i mi sicrhau fy hun mai’r cymeriad hwnnw oedd yn gyfrifol cafodd fy namcaniaeth ei chwalu’n llwyr wrth i’r awdur fynd â mi ar drywydd cwbwl wahanol.
Cynllunio gofalus Mae’r nofel wedi ei chynllunio’n ofalus ac rydym ni’r darllenwyr yn cael ein tynnu i bob cyfeiriad gan yr awdur.
Mae’n nofel seicolegol a dim ond wrth blymio i feddyliau dyrys y cymeriadau yr ydym ni’n dod i ddeall digwyddiadau’r nofel hon mewn gwirionedd.
Dyma gymeriadau lliwgar. Mae Sam y prif gymeriad yn llwyddo i ennyn ein cydymdeimlad yn syth wrth iddo wneud ei orau i ail afael yn ei fywyd.
Mae’r cymeriadau eraill yn rhai annwyl a dymunol hefyd – Debbie gefaill Jo a’i gwr Paul sy’n gwneud eu gorau i warchod Sam; Chloe hen ffrind i Jo wedyn sy’n llwyddo i ennill calon Sam a chyfeillion Sam yn y feddygfa ar wahân i Ned Weelan, meddyg digon surbwch a blin.
Hefyd mae’n rhaid cofio am Phipps, cymeriad gwallgof sydd yn glaf mewn ysbyty meddwl ac wedi bod yn dyst i lofruddiaeth Jo ond wedi anghofio pwy yw’r llofrudd.
Pwy felly fyddai wedi gallu cyflawni llofruddiaeth o’r fath? A fyddai un o’r cymeriadau hyn yn ddigon dieflig i gyflawni’r weithred erchyll?
Wna i ddim datgelu hynny, mi fydd rhaid i chi fynd ati i ddarllen y nofel.
Braidd yn anghredadwy Ond er fy mod i’n mwynhau’r ffaith fod yr awdur yn ein tywys ar sawl trywydd gwahanol wrth chwilio am y llofrudd gan greu nofel hynod o gyffrous, mae’n rhaid i mi ddweud mai siomedig oeddwn i wedi darllen y tudalennau olaf.
Erbyn hynny roeddwn i’n teimlo fod y digwyddiadau braidd yn anghredadwy yn arbennig o ystyried digwyddiadau blaenorol y nofel ac yn teimlo nad oedd rhai pethau’n taro deuddeg.
Ond efallai mai bod yn orfeirniadol ydw i yma ac efallai mod i wedi ymddiried gormod yn rhai o’r cymeriadau wrth ddarllen ac wedi cael gormod o sioc yn y tudalennau olaf. Yn sicr fe lwyddodd yr awdur i daflu llwch i’m llygaid.
Ydi mae hon yn nofel gwerth ei darllen os ydych chi’n hoff o nofelau dirgelwch a llofruddiaeth ac efallai y cewch i well hwyl na fi ar ddyfalu pwy yw’r llofrudd.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|