
 |  | Gaby'n sgorio dros lyfrau
Dangos fod darllen yn gêm werth chweil
Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
| Mae'r pyndit chwaraeon o fri, Gaby Logan, wedi rhoi ei henw ar lyfrau tîm Cyngor Llyfrau Cymru - a hynny am y ffi leiaf erioed yn hanes pêl-droed – dim.
Ei thasg fydd hyrwyddo Diwrnod y Llyfr, Cymru sy'n cael ei gynnal ar Fawrth 6.
Merch Terry Yorath yw’r seren ddiweddaraf i ymuno â’r tîm a fydd yn hyrwyddo'r Diwrnod gyda'r nod o gael pobl o bob oed i ailddarganfod y mwynhad a geir o ddarllen.
Mae Gaby i’w gweld ar y posteri diweddaraf "Bacha Lyfr!" a fydd yn ymddangos ledled Cymru tua diwedd Ionawr ac ar dudalennau gwe arbennig i hyrwyddo Diwrnod y Llyfr ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru – www.cllc.org.uk – lle bydd yn rhoi neges ddwyieithog i gefnogi’r ymgyrch.
Yn ei neges at ddarpar ddarllenwyr, mae Gaby’n dweud: "Mae darllen mor gyffrous. Does dim yn well gennyf nag ymgolli mewn llyfr sy’n hoelio’ch sylw – rhowch gynnig arni, byddwch wrth eich bodd." "Mae Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn syniad ardderchog ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi’r achlysur a fydd, gobeithio, yn annog pobl o bob oed i godi llyfr a darllen," meddai. Dywedodd Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Gaby wedi dod i’r maes i gefnogi Diwrnod y Llyfr, Cymru – gobeithio bod hyn yn profi y gall cefnogwyr pêl-droed hefyd fwynhau darllen ac y gall darllen llyfrau apelio at bawb, beth bynnag eu hoed a’u diddordebau."
Bydd dathliadau Diwrnod y Llyfr yn dechrau ymhell cyn y Diwrnod ei hun gyda cannoedd o ddigwyddiadau mewn ysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau.
Bydd sefydliadau fel yr Academi, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trefnu gweithgareddau hefyd.
"Rydyn ni’n gobeithio ailadrodd y llwyddiant a gafwyd y llynedd pan fu miloedd o bobl ym mhob rhan o Gymru'n cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn gobeithio rhwydo hyd yn oed fwy o gefnogwyr eleni er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r llyfr," meddai Delyth.
Un llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n siwr o fod o ddiddordeb arbennig i Gaby yw, Mae'r Byd yn Grwn gan Dylan Llewelyn sydd yn ateb Holiadur Llais Llên
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|