
 |  | Merch y Titanic
Dyddiadur teimladwy merch fach a hwyliodd ar y Titanic
Mai 2003
| Mordaith ar y Titanic. Dyddiadur Margaret Anne Brady. Addaswyd gan Eigra Lewis Roberts. Cyfres Fy Hanes i. Gomer. £4.95.
Dydi Mordaith ar y Titanic ddim yn sgubo rhywun fel y gwnaeth y ffilm diweddar na'r ffilm arall am yr un digwyddiad, A Night to Remember.
Ond mae'n cyffwrdd wrth sôn am y drychineb mewn ffordd llawer tawelach - ac y mae hynny yn rhan o'i hapêl mewn gwirionedd.
Digon o fodd Dyddiadur merch dair ar ddeg oed a gafodd ei gadael yn amddifad ydi'r cynnwys gyda'r stori yn cychwyn dipyn cyn iddi gael ei phenodi yn gydymaith i wraig ariannog gyda digon o fodd i dalu am gaban ar fordaith gyntaf llong hynotaf y byd ar y pryd.
Yn ogystal â hanes a braw y fordaith ei hun yr ydym yn cael hefyd olwg bersonol ar gymdeithas a ffordd o fyw ddechrau'r ganrif gyda Margaret Anne Brady yn cael ei gadael yng nghartref St Abernathy i ferched amddifad yn Whitechapel, Llundain.
Ei dihangfa o'r cartref fel petai yw cael ei chyflogi gan Mrs Carstairs yn forwyn fach iddi ar y Titanic.
"Dyma'r llong deithio fwyaf ysblennydd yn y byd . . . a'r fwyaf i gael ei hadeiladu erioed," meddai wrth edrych ymlaen at yr antur - ac i ferch o'i chefndir hi yr oedd hi yn antur!
Wynebu'r daith Ond pa mor enbyd bynnag y fenter mae'n barod amdani. Yn ferch sy'n sgrifennu yn hynach na'i blynyddoedd dywed, "Ond pa beth bynnag sy'n fy wynebu i ar y daith, fydd hynny'n ddim o'i gymharu â'r dyddiau erchyll wedi marw mam, pan oedd William (ei brawd) a minnau ar ein pennau ein hunain," meddai gan gofio sut y cawsant aros am gyfnod gyda theulu arall yr oedd y plant yn mynychu'r un Ysgol y Tlodion.
"Gan fod ystafelloedd bychain y McDougals yn orlawn, roedd yn rhaid i William a minnau gysgu mewn sachau ar y llawr ar bwys y stôf goed. Roedd bwyd yn brin . . ." meddai.
Roedd y Titanic yn fyd arall, wrth gwrs, i'r ferch fach o dlodi Llundain ac y mae'n rhyfeddu at yr ysblander y mae'n cael ei bwrw iddo gan gymharu'r byd o ffrogiau sidan, esgidiau sglein a danteithion dirifedi yn ddiddorol iawn.
Rhwng dwy stol Dydi hi ddim yn sefyllfa hawdd, "Alla i ddim peidio teimlo fel pe bawn i wedi cael fy ngadael allan o bethau - yn rhy hen i chwarae efo'r plant, ac yn rhy ifanc a dibrofiad i allu cymysgu efo'r rhai hyn. Rydw i'n cael fy ystyried yn un ohonyn nhw yn fy nillad ffansi ond, i mi, mae'r gwahaniaeth cefndir a dosbarth yn ymddangos yn rhy fawr i allu ei oresgyn."
Yn ystod y fordaith y mae hi a stiward o'r enw Robert yn syrthio mewn cariad ond daeth hyd yn oed hynny a mwy o dristwch i'w rhan gan y bu'n rhaid iddo ef aros ar y llong gan achosi pangfeydd o euogrwydd i Margaret am iddi hi gael ei harbed a'i hachub.
Telynegaidd Mae yma gyferbyniadau celfydd - telynegaidd yn wir - yn y naratif.
"Curodd Robert ar ddrws f'ystafell yn gynnar y bore 'ma, a daeth â the, sgons, marmaled a chlwstwr bach perffaith o rawnwin i mi," meddai mewn un cofnod.
Yn nes ymlaen ar y noson dyngedfennol , fodd bynnag, " . . . daeth cnoc sydyn ar y drws. Robert oedd yno. Er ei fod yn gwenu, roedd golwg daer yn ei lygaid."
Mae'r disgrifiadau o'r dianc oddi ar y Titanic i ddiogelwch cymharol y badau er yn llai stormus a cyffrous na'r hyn a welwyd gennym ar ffilmiau yn enghraifft o sgrifennu taer, llawn pryder ac emosiwn ac yn ddarlun arbennig o deimladwy.
Mae'r llyfr yn cloi gydag epilog a nodiadau hanesyddol. Mae nifer o luniau a chawn wybod hefyd be fu hynt Margaret Anne Brady wedi'r profiad ysgytwol hwn.
Digon yw dweud yma iddi dreulio'i bywyd yn teithio'n gyson ond na roddodd ei throed ar na llong na chwch byth wedyn!
|  | 
|