
 |  | Cofio ffrae steddfod
Helynt y bardd gafodd gam!
Gorffennaf 2003
| Achosodd cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl gryn ddadlau yn 1953 - nid oherwydd y gerdd fuddugol ond oherwydd beirniadaeth Saunders Lewis a dynnodd yn groes a'i ddau gyd-feirniad.
Dyfnallt Morgan oedd y bardd yr oedd Saunders eisiau ei goroni a hynny am bryddest sy'n cael ei hysytied yn un o gerddi mwyaf nodedig ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Mae'r gerdd yn awr, yn ganolog i gyfrol newydd gan Wasg Gomer a gyhoeddir yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.
Rhywbeth i'w ddweud Yng ngeiriau Saunders Lewis Y Llen, oedd yr unig un â gweledigaeth a "rhywbeth i'w ddweud" yn y gystadleuaeth.
Y geiriau hynny sy'n rhoi teitl i'r gyfrol newydd, Rhywbeth i'w Ddweud: Detholiad o Waith Dyfnallt Morgan wedi'i golygu gan ei fab, Tomos Morgan.
"Hanner can mlynedd yn ôl cythruddwyd sawl un gan arddull lafar y gerdd, ei defnydd o fratiaith a'i defnydd o eiriau Saesneg," meddai llefarydd o Wasg Gomer..
"Ond mae thema'r gerdd, 'tranc gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli' chwedl Saunders Lewis, yn dal i fod yn berthnasol heddiw."
Yn y diwedd, i Dilys Cadwaladr yr aeth y Goron ac fel Bardd Y Llen y bu Dyfnallt Morgan yn cael ei adnabod gan lawer ers hynny.
Agweddau eraill Mae Rhywbeth i'w Ddweud fodd bynnag yn rhoi sylw i agweddau eraill o'r gwr o Ddowlais.
Gan nad aeth Dyfnallt Morgan ati i lunio'i hunangofiant erioed dyma'r tro cyntaf y cyhoeddwyd rhywfaint o'i hanes cynnar yn ei eiriau ei hun.
"Dysgwn am ei fagwraeth yn Nowlais; a'r cyfnod anodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd yn wrthwynebydd cydwybodol. Wedi i'r rhyfel ddod i ben, bu am gyfnodau yn Ewrop ac yn China gydag Uned Ambiwlans y Crynwyr, cyn dychwelyd i Gymru a dechrau ar ei yrfa gyda'r BBC.
"Yn ogystal â'r pytiau difyr am fywyf cynnar Dyfnallt, casglodd Tomos Morgan doreth o waith llenyddol ei dad ynghyd - cerddi, cyfieithiadau o libretti, adolygiadau, ysgrifau a darlithoedd."
Bydd Rhywbeth i'w Ddweud: Detholiad o Waith Dyfnallt Morgan (£14.99) yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol yn y Pagoda ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, ddydd Mercher am 1.15 yng nghwmni'r golygydd a John Gwilym Jones.
Gwefan yr Eisteddfod |  | 
|