
 |  | Ennill mil efo stori
Awdur tro cyntaf yn cipio gwobr stori fer, 'Briallu'
Gorffennaf 2003
|
Cliciwch er mwyn darllen y stori yn awr
Gwrandewchar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn
Beirniadaeth y pedair stori orau
Y feirniadaeth gyflawn
Athrawes o ardal Aberhonddu yw enillydd cystadleuaeth Stori Fer rhaglen Y Celfyddydau ar BBC Radio Cymru.
Bydd Sian Reeves yn derbyn gwobr gyntaf o £1,000 ac mae ei gwaithi'w weld ar y wefan hon.
Dyma'r tro cyntaf i Sian, 39, sy'n wreiddiol o Gaerdydd ond nawr yn byw yn mhentref Cradoc ger Aberhonddu, gystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu, er ei bod yn cadw dyddiadur ers blynyddoedd maith.
"Dwi wedi sgrifennu i mi fy hun erioed," meddai. "Fe wnaeth Aled Islwyn ddweud yn y feirniadaeth fy mod i'n sgwennu mewn ffordd reddfol, a dwi'n meddwl bod hyn yn wir. Dwi'n sgwennu pan dwi'n teimlo fel gwneud... Ond doeddwn i erioed wedi ystyried sgwennu ar gyfer cael ei ddarllen gan bobol eraill - doeddwn i byth yn meddwl mod i'n ddigon da!"
Daeth Siân i'r brig mewn cystadleuaeth neilltuol o uchel ei safon, gydag Aled Islwyn, Robin Llywelyn ac Angharad Price yn pennu beirniadaeth ar yr 110 o storïau byrion a ddaeth i lawr.
"Dwi wrth fy modd wrth gwrs gyda'r wobr. Gyda dau o blant, fydd hi ddim yn anodd o gwbl i wario'r arian! Y cynnig callaf hyd yma ydi prynu cwt i'r ardd - cwt sgrifennu. Mae Dafydd y mab wrth ei fodd yn sgrifennu tipyn hefyd, felly fe fydd o'n gwt sgwennu teuluol mae'n siwr."
Yn ogystal a bod yn wraig ty mae Siân yn athrawes Gymraeg rhan amser yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, lle mae'i gwr Tony yn Bennaeth yr Adran Ffiseg.
Meddai'r beirniaid Does dim byd syfrdanol o wreiddiol yn y stori fel stori. Roedd creu gwrthgyferbyniad rhwng y Gymru gyfoes a'r Gymru wledig, draddodiadol yn un o'r themâu a frigodd i'r wyneb yn gyson yn y gystadleuaeth.
Ond y mae yma awdur greddfol sy'n gallu defnyddio ei grebwyll creadigol cryf i ennyn ymateb. Perthyn y stori hon i'r ganrif hon - yn wir, fe berthyn i eleni. Hyd yn oed wrth drafod sefyllfaoedd pur gyffredin fel teulu ar wyliau, rhoddir iddynt arwyddocâd annisgwyl o gyfoes a ffres.
Y gystadleuaeth Lansiwyd Cystadleuaeth y Stori Fer ym mis Chwefror eleni yn ystod cyfres 'Y Celfyddydau' ar Radio Cymru gyda gwobr o £1000.
Y tri beirniad oedd Angharad Price, Robin Llywelyn ac Aled Islwyn
Darllen y stori
Gwrando ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn
Beirniadaeth y pedair stori orau
Y feirniadaeth gyflawn |  | 
|