bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan Gwanas
Pennod
i'w phrofi

Pennod i'w phrofi o Gwrach y Gwyllt, nofel newydd Bethan Gwanas


Mai 2003

Pennod i'w phrofi o Gwrach y Gwyllt
gan Bethan Gwanas

News image







Pennod 2

Bythefnos wedi ymweliad Dewi Jones â Garth Wyllt, daeth merch dal, drawiadol i mewn i'w swyddfa.

'Chi ydi Dewi Jones?' gofynnodd.

'Ia.'

'Siwsi Owen,' meddai hi wedyn, gan estyn ei llaw.

'Siwsi? O! Chi ydi S. Owen, perchennog newydd Garth Wyllt, ia?' meddai Dewi, gan ryfeddu at lyfnder cledr ei llaw, ac yna at gryfder ei hewinedd. 'Ym...ia, diolch am y siec, aeth bob dim drwadd yn rhyfeddol o sydyn yn do?'

'Os dach chi wirioneddol isio rwbath, mae modd symud mynyddoedd, dach chi'm yn cytuno?' meddai hi gan wenu.

'O, yn bendant, yndw. Ym...isio'r goriad ydach chi yndê, mae o gen i fan'ma'n rwla...'

Chwiliodd yn swnllyd yn ei ddrôr nes dod o hyd i'r goriad, gan obeithio na fyddai hi'n aros yn rhy hir, ac y byddai rhywun neu rywbeth yn ei achub rhag gorfod sôn gair am ddodrefn.

'Dyma chi,' meddai, 'ym...dach chi'n gwbod sut i fynd yno?'

'O, yndw.' Roedd ganddi wên anhygoel, a dannedd perffaith, oedd yn gwneud iddo fo deimlo hyd yn oed yn fwy nerfus.

'Dach chi wedi bod yna o'r blaen, felly?'

'Do, flynyddoedd yn ôl, ond go brin fod y ffordd wedi newid llawer ers hynny.'

'Ha ha. Ia. Wel, gobeithio y byddwch chi'n hapus iawn yno.'

'Mi fydda i fel plentyn efo tegan newydd,' atebodd hithau gan edrych i fyw ei lygaid, a dal yr edrychiad nes i Dewi orfod troi i ffwrdd yn chwys diferol.

'Popeth yn iawn?' gofynnodd iddo.

'Be? O, yndi, champion. Neis eich cyfarfod chi...ym...Mrs Owen.'

'Miss. Ond galwch fi'n Siwsi. 'Dan ni'n siwr o weld dipyn o'n gilydd mewn tre fechan fel hon, tydan.'

'Clawr y gyfrolO, yndan siwr.' Anadlodd yn ddwfn wedi iddi gau y drws ar ei hôl. Damia, roedd hi'n iawn, roedd o wedi bod y tu hwnt o wirion, a bob tro y byddai o'n ei gweld, byddai ton o euogrwydd yn llifo drosto. Ond eto, meddyliodd, wrth dynnu'n ddwfn ar sigarét, doedd dim rheswm iddo deimlo fel hyn chwaith.

Wyddai hi ddim oll am y cwpwrdd, siwr dduw, a doedd 'na'r un dodrefnyn penodol wedi ei enwi yn llythyr y cyfreithiwr. Ac mi allai o wadu du yn las pe bai raid. Roedd o'n giamstar ar hynny erioed. Gwenodd wrth gofio'r holl droeon y llwyddodd i osgoi cansen yn yr ysgol. Do, bu'n rhaid i hogia eraill (diniwed) ddiodde yn ei le, ond arnyn nhw oedd y bai am fethu protestio cystal.

Dechreuodd ymlacio eto, a phenderfynodd fod heddiw'n mynd i fod yn ddiwrnod da wedi'r cwbwl. Ac roedd ei gefn o'n teimlo'n well yn barod.

Cerddodd Siwsi at ei char, gan wenu iddi hi ei hun. Roedd goriad Garth Wyllt yn ei llaw o'r diwedd, wedi'r holl flynyddoedd o ddisgwyl. Dechreuodd chwerthin.

Roedd hi yn ei byd bach ei hun, felly sylwodd hi ddim ar yr effaith roedd hi'n ei chael ar bobl wrth eu pasio yn y stryd. Dynion, er gwaethaf presenoldeb eu gwragedd wrth eu hochrau, yn troi eu pennau i rythu arni gydag awch. Merched yn troi mewn edmygedd a chenfigen, yn dibynnu ar eu natur.

'Pwy 'di hi?' gofynnai un.

'Dim clem. Dal, tydi?'

'Rhy dal. A duw a ?yr pryd welodd y gwallt 'na frwsh ddwytha.'

'Ond mae o'n lliw neis. Fatha'r goeden 'acer' 'na sy gen ti'n dy ardd.'

'Allan o botel, garantîd. A sgen y gryduras ddim fashion sense o gwbwl, sbia. Sgert fatha hipi a thop fel hogan bymtheg oed-a dim bra! Pwy mae hi'n feddwl ydi hi?'

'Ia, ond mae'n 'i siwtio hi. 'Swn i'n licio tasa gen i'r gyts i wisgo lliwia fel'na...'

Dringodd Siwsi i mewn i hen Volvo Estate oedd yn llawn i'r ymylon â dodrefn, bagiau a bocsys. Heb edrych unwaith yn ei drych ôl, bagiodd Siwsi i ganol y sgwâr, gan achosi i fan wen frêcio'n swnllyd y tu ôl iddi.

Cododd ei llaw yn siriol ar y gyrrwr wynepgoch, a gyrru'n hamddenol yn ei blaen. Doedd rheolau bach pitw'r ffordd fawr ddim yn ei phoeni. Doedd hi'n poeni run iot chwaith am y ffaith ei bod wedi arfer gyrru ar yr ochr dde o'r ffordd. Buan y deuai i arfer efo bod ar yr ochr anghywir, yn union fel y deuai i arfer siarad Cymraeg eto, hyd yn oed os oedd pawb arall yn siarad Cymraeg rhyfedd iawn bellach. Roedd hi'n lwcus bod ei Saesneg hi cystal.

Roedd hi wedi bod yn paratoi'n drylwyr ar gyfer dychwelyd i fro ei mebyd, yn darllen Golwg a'r Cymro ac yn gwrando ar Radio Cymru'n gyson-nes iddi daflu'r set drwy'r ffenest ryw fore. Roedd llais y boi yn mynd dan ei chroen hi yn un peth, ond sut yn y byd oedd pobol yn gallu diodde gwrando ar y fath falu?

Ond roedd hi'n bnawn rwan, a phwysodd fotwm y radio. Grêt-un o ganeuon Dafydd Iwan. Cyd-ganodd ag o: 'Fe fûm i'n chwarae unwaith gyda'm ffrindie, ond fe'u gwelais nhw yn mynd o un i un...' Addas iawn, meddyliodd yn chwerw, a phan ddaeth y gytgan, bloeddiodd ar dop ei llais gyda Dafydd: '...O, pam na chaf i hefyd, pam na chaf i hefyd, pam na chaf i hefyd hawl i fyw?

' 'Yn hollol, Dafydd 'ngwashi,' meddai'n uchel.

Gadawodd Siwsi y dref a gyrru ymlaen i gyfeiriad Garth Wyllt. Roedd y ffordd osgoi yn newydd, ond roedd yr hen ffordd yr un fath yn union. Wel, ar wahân i'r tarmac sgleiniog, newydd sbon. Dacw'r tro am Lanfachreth, dyma'r gornel ddrwg, a dacw'r tro roedd hi'n chwilio amdano.

Brêciodd yn sydyn, heb drafferthu i ddefnyddio'r indicator, gan achosi effaith domino o frêcs swnllyd y tu ôl iddi eto, cyn dringo'n araf tuag at ei chartref newydd. Roedd ei hanadl yn dechrau cyflymu, a theimlai ei gwaed yn pwmpio'n gyflymach drwy ei gwythiennau. Chymerodd hi ddim sylw o waelodion y car yn crafu yn erbyn y cerrig oddi tano.

O'r diwedd, daeth dros y bryncyn olaf a syllodd gyda phleser pur ar yr adeilad o'i blaen: Garth Wyllt. 'Ti'm 'di newid dim!' meddai'n uchel, gan stopio'r car yn stond a brysio allan i syllu a rhyfeddu ar y t?.

Edrychai'n harddach nag erioed efo'r holl dyfiant gwyllt o'i gwmpas. Rhoddodd y goriad yn y twll clo. Agorodd hwnnw'n ddidrafferth a chamodd i mewn. Anadlodd yn ddwfn. Oedd, roedd 'na arogl tamp ofnadwy yno, ond roedd yr hen arogl arbennig yno o hyd, ac roedd bob dim bron yn union fel ag yr oedd o'r blaen.

Ar wahân...i'r gegin. Doedd y cwpwrdd ddim yno. Be goblyn...? Lle ar y ddaear oedd o? Brysiodd o un stafell i'r llall yn wyllt, i lawr i'r selar hyd yn oed ond, wrth gwrs, doedd dim sôn amdano.

Aeth yn ôl i'r gegin a wynebu'r wal lle dylai'r cwpwrdd fod. Caeodd ei llygaid a gwthio'i hewinedd yn ddwfn i gledrau ei dwylo. Roedd hi wedi gwylltio rwan, wedi gwylltio go iawn. Roedd pob dim wedi gweithio fel wats, popeth yn berffaith, a rwan roedd 'na ryw sinach, ryw aflwydd, wedi difetha'r cwbl. Rhegodd yn uchel, a sgrechian nes bod y ffenestri'n ysgwyd.

Dechreuodd rwygo'i bysedd drwy ei gwallt mewn niwl fflamgoch. Ond sylweddolodd yn sydyn - doedd wiw iddi adael iddi ei hun golli rheolaeth mor sydyn.

Ceisiodd ymbwyllo, ond haws dweud na gwneud. Roedd ei gwaed yn berwi, yn rasio drwy ei gwythiennau. Pwysodd ei bysedd yn galed yn erbyn ei haeliau. Cerddodd yn ôl a 'mlaen yn araf, o un pen yr ystafell i'r llall, yn ceisio rhesymu efo hi ei hun.

'Callia Siws, anadla...ia, 'na chdi, anadla'n ddwfn, ac yn araf. Mae synnwyr cyffredin yn deud bod 'na ateb syml i hyn. Mi gei di'r cwpwrdd yn ôl, paid â phoeni, o cei, anadla...amynedd pia hi, does na'm pwynt gwylltio...ddim rwan, ddim eto. Mi gân nhw dalu, ond pwyll pia hi am rwan...tyd Siws...'na fo...' Ac yn raddol, gallai deimlo'i gwaed yn arafu a'i gwylltineb yn cilio rhywfaint.

Aeth allan at y car a dechrau ei ddadbacio.

Cliciwch i ddarllen am Bethan.

Holi Bethan Gwanas


Gwasg Gomer




Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy