
 |  | Achub y werin datws
Arbenigwr yn trafod arferion bwyta'r Cymry mewn llyfr newydd
Gorffennaf 2003
| Doedd medd ddim yn un o ddiodydd cyffredin y werin Gymreig meddai awdur cyfrol newydd ar faeth a bwyd - ond fe fu tatws yn waredigaeth i'r genedl!
Gyda chymaint o gyfeiriadau at fedd yn ein barddoniaeth, ystyriwyd medd yn ddiod gynhenid Gymreig bwysig ond yn ôl Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes, ymddengys mai prin iawn oedd yr yfed ar fedd ymhlith trwch poblogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd.
Uchelwyr yn unig "Dim ond gan yr Uchelwyr yn y llysoedd yr oedd medd a mêl mewn bri - mae'n anodd credu fod medd erioed wedi bod yn ddiod gyffredin ymhlith y werin Gymreig," meddai.
Ond dywed fod meddyglyn, sef medd gyda pherlysiau, yn ddiod a yfid yn aml am resymau meddyginiaethol yng Nghymru.
Esbonir hefyd yn y llyfr bwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi ei felysu gyda mêl, a diod griafol i hanes maeth y Cymry.
"O bosib mai diod griafol, a ddisgrifiwyd, oedd y ddiod fwyaf Cymreig a mwyaf diddorol yn ein hanes," yn ôl yr awdur.
Astudiaeth fanwl Dywed y Lolfa mai Dysgl Bren a Dysgl Arian yw'r astudiaeth fwyaf manwl a chynhwysfawr erioed am hanes maeth ac arferion bwyta'r Cymry yn cynnwys dros 300 tudalen o ffeithiau, ystadegau a dadansoddi am arferion bwyta'r Cymry.
Mae pennod gyfan ar lyfrau coginio Cymraeg a phenodau ar fwydydd neilltuol Gymreig, cynhaliaeth o fyd natur, arferion bwyta ac yfed y Cymry, yn ogystal â hanes y Sgyrfi yng Nghymru.
"Clefyd a gododd ei ben yn aml oherwydd undonedd y ddiet Cymreg a diffyg fitamin C."
Diolch am datws "Oni bai am ddyfodiad tatws rhwng 1750-1900 mae'n bur amheus pa nifer ohonom fyddai ar ôl i drafod y materion hyn!" meddai R. Elwyn Hughes a fu'n Ysgolor yn y gwyddorau naturiol yng Nghaergrawnt.
Daliodd swyddi biocemeg ym mhrifysgol Caergrawnt a phrifysgol Cymru ac mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau ar hanes maetheg a gwyddoniaeth.
Mae'n byw ym Mhentyrch. Dysgl Bren a Dysgl Arian : Nodiadau ar Hanes Bwyd yng Nghymru gan R Elwyn Hughes. £14. |  | 
|