
 |  | Amrywiaeth athrylith Iolo
Cynhadledd yn chwilio pac Iolo Morganwg
Gorffennaf 2003
| A fu unrhyw Gymro a ysgogodd gymaint o drafod a dadlau a dicter - yn arbennig ymysg y Cymry-Cymraeg - a Iolo Morganwg?
Tua dwy flynedd yn ôl cychwynnodd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar y gwaith enfawr o archwilio dogfennau a phapurau'r rhyfedd Edward Williams - y saer maen, hynafiaethydd, dyn busnes, amaethwr, athrylith a ffugiwr o Forgannwg.
Prawf o'r diddordeb sydd yn Iolo yw fod ystafell Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn llawn ddydd Sadwrn, Gorffennaf 5, 2003, ar gyfer cynhadledd undydd amdano.
Yr un diwrnod ag yr oedd Gorsedd y Beirdd yn cynnal seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2004 yng Nghasnewydd daeth pobl ynghyd o bob rhan o Gymru i Aberystwyth hefyd wrando ar saith o ddarlithoedd difyr a diddorol am y gwr a greodd ddefodau'r Orsedd.
Ardderchog bod y Ganolfan yn trefnu'r ysgol undydd hon, sydd, fe ymddengys, yn ddigwyddiad blynyddol bellach.
Cysylltiadau a gelynion Darlith gyntaf y dydd oedd un Dr David Ceri Jones ar gysylltiadau a phrofiadau Iolo yn Llundain - cyfnod cynnar yn ei hanes. Gwnaeth gysylltiadau - a gelynion - yno. Yn eu plith Gwallter Mechain, a'r Bwrdd Amaeth, a pheri iddo wneud ei astudiaeth gynhwysfawr o'i hoff Forgannwg.
Cafwyd ymdriniaeth o Weledigaeth Farddol Iolo - Y Gogledd 'Barbaraidd' a'r De 'Gwâr gan Dr Cathryn Charnell-White.
Cymaint oedd athrylith Iolo, canfyddodd debygrwydd rhwng y canu cynganeddol Cymreig a mesurau traddodiadol barddoniaeth skaldig ac eddig yr hen Nors - neu Islandeg.
A chysylltu'r ddau draddodiad drwy Gruffydd ap Cynan, yr hanner Viking!
Gwelodd Iolo gysylltiad arall yn ôl Charnell-White, sef bod y Norsmyn a'r gogleddwyr weithiau'n ysbaddu dynion! Unrhyw beth i enllibio'r Gogs!
Y cyntaf i weld Mwy gwâr a mwynach oedd dylanwad Trwbadwriaid De Ffrainc ar ganu Dafydd ap Gwilym yng ngolwg Iolo ac mae'n debyg mai Iolo oedd y cyntaf i weld y tebygrwydd hwn.
Ond iddo honni mai drwy Normaniaid Bro Morgannwg y bu'r croes ffrwythlonni a hynny braidd yn anodd i'w dderbyn oherwydd natur storïol y traddodiad Normanaidd - cymharer â Chaucer oedd yn cydoesi'n agos â Dafydd a Gwilym, ond ei waith yn llawer nes at y Normaniaid o ran natur.
Enghraifft, hwyrach, o Iolo'n gweld y cysylltiad ond yn creu llinyn i'w bwrpas ei hun.
Weithiau'n gyfeillgar weithiau'n stormus Mewn darlith afieithus gan Glenda Carr cafwyd darlun o berthynas, weithiau'n gyfeillgar, dro arall yn stormus, Iolo, William Owen Pughe ac Owain Myfyr.
Y tri rhyngddynt yn achub llwythi o lawysgrifau Cymraeg hen lyfrgelloedd y plastai oedd ar fin mynd rhwng y cwn a'r brain.
Cafwyd stori ddifyr a chyffrous Achos Llys Tomos Glyn Cothi, y Gweinidog Undodaidd a garcharwyd am ddwy flynedd am geisio ysgogi terfysg drwy ganu cân mewn achlysur "Cwrw Bach".
Y gân, yn ôl pob tebyg, oedd cyfieithiad Cymraeg Iolo o'r Marseillaise.
Barddoniaeth Saesneg Iolo Bu dwy ddarlith ar farddoniaeth Saesneg Iolo, Poems, Lyrical and Pastoral, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn ystod y cyfnod a dreuliodd yn wr ifanc yn Llundain.
Fe'u gosodwyd yn nhraddodiad a chyd-destun beirdd y dosbarth gweithiol gan Dr Tim Burke, St Mary's College, Strawberry Hill, Llundain, ochr yn ochr a beirdd fel yr Albanwr Robert Burns, y Sais John Clare ac Ann Yearsley.
Fel y nododd Burke, ystryw yn aml, i hybu gwerthiant, oedd cyfleu'r syniad fod rhyw fardd neu'i gilydd yn ddi-ddysg acyn athrylith naturiol a dyfodd o'r tir a cheisiodd Iolo odro'r fuwch honno drwy ddangos ei fod yn perthyn i'r , yntau, dosbarth gweithiol er mwyn denu nawdd a/neu danysgrifwyr i'w gyfrol arfaethedig.
Nodiadau ymfflamychol Mwy diddorol fyth oedd darlith Dr Mary-Ann Constantine o'r Ganolfan Uwchefrydiau a gymharodd yn gampus ragair tanllyd y Poems, Lyric and Pastoral - "un o'r cyflwyniadau mwyaf cwerylgar a sgriofennwyd erioed i gyfrol o farddoniaeth" - gyda'r niferus droed nodiadau ymfflamychol i gerddi yr oedd llawer ohonyn nhw yn ddof a di-awen.
Da o beth fu iddo gefnu ar iaith ei fam ddi-Gymraeg a chanolbwyntio ar iaith ei dad hyd yn oed os bu iddo beri poen a thrallod i ysgolheigion am ddwy ganrif ar ôl hynny.
Gwnaeth Dr Constantine imi feddwl gymaint ragorai ei ryddiaith ar ei gerddi.
Mab ei dad Yn narlith Dr Brinley F. Roberts, Taliesin ab Iolo: Mwy na mab ei dad, cafwyd hanes y mab a gafodd ei drwytho gan y tad, ddaeth yn ysgolfeistr cydwybodol ac uchel ei barch ym Merthyr.
Gwr oedd yn troi yng nghylchoedd Arglwyddes Llanofer, Charlotte Guest, Carnhuanawc a Maria Jane Williams.
Y dyn a ddiogelodd lawysgrifau Iolo ac oni bai amdano ef ni fuasai dim i weithwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru gael eu dannedd ynddynt.
Gallesid son am rai o'i ddisgyblion diddorol. Un oedd William Thomas Lewis, diwydiannwr a gomisiynodd ffenestr liw hardd sydd i'w gweld yn Eglwys Cathryn ym Mhontypridd, darlun o Garadog yn garcharor yn Rhufain.
Wedi marw W. T. Lewis comisynodd ei deulu ddwy ffenestr sydd i'w gweld yn Eglwys Gadeiriol Llandâf - un yn darlunio'r saint a'r llall y brenhinoedd Cymreig, gan gynnwys Arthur!
Yn ddi-ddadl mae ôl llaw ei gyn-athro, Taliesin ab Iolo, heb son am Iolo ei hun, yn amlwg yma.
Disgybl arall iddo, yn ddiau, oedd ei fab Edward Williams, ddaeth yn rheolwr gwaith haearn yn Nowlais, sylfaenydd Cymdeithas Peirianwyr De Cymru (South Wales Institute of Engineers), ac ar ôl hynny rheolwr un o weithiau dur mwyaf Prydain, yn Middlesborough.
Edward Williams y tadcu (sef Iolo) yn sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain; ei wyr, o'r un enw, yn sefydlu Cymdeithas y Peirianwyr. Mae'r maes yn ddi-derfyn.
Gwefan berthnasol: Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd |  | 
|