
 |  | Dihangfa mewn syrcas
Nofel gyntaf yn creu awydd am fwy
Awst 2003
|
Hogyn Syrcas, gan Mary Annes Payne, Gwasg Gomer, 2003, 82 tt. £4.95. Adolygiad gan Grahame Davies.
Mae rhywbeth anfarwol am atgofion plentyndod. Yn aml iawn, nid y pethau arwyddocaol a gofir ond, yn hytrach, y manylion ymddangosiadol ddibwys - blas, arogl, swn.
Camp Mary Annes Payne yn Hogyn Syrcas yw iddi gyplysu ymwybyddiaeth plentyn gyda chrebwyll a dirnadaeth oedolyn wrth iddi ddarlunio plentyndod digon garw ei phrif gymeriad.
Nid yw broliant y clawr, na chwaith dudalen agoriadol y gyfrol, yn gadael ichi gredu mai rhyw fagwraeth Enid Blytonaidd y mae Geraint yn ei chael: "Y bastad bach" yw o i'w rieni.
Ac yntau'n blentyn cyfreithlon iddyn nhw! Dyn a wyr beth fyddan nhw wedi ei alw pe bai'n blentyn llwyn a pherth go iawn.
Alcoholig a breuddwydiwr Mae mam Geraint yn alcoholig a'i dad yn freuddwydiwr mawr ei gynlluniau ond bach ei lwyddiant. Ac ar ben hynny, mae'r teulu i gyd yn cael eu hystyried yn garidyms gan weddill trigolion parchus Llwyn Berth, sy'n bentref dychmygol rhywle yng ngogledd orllewin Cymru, rywbryd, mi dybiaf, yn y chwedegau.
Darlunir profiadau Geraint yn gynnil iawn: "Be dw i'n gofio? Ogla saim chips a huddug, y fflamau'n dawnsio yn y grât, fel fi'n dawnsio wrth beltan fy mam."
Caiff Geraint druan sawl peltan, yn llythrennol ac yn ffigurol, wrth i'r naratif symud yn ei flaen
. A rhaid yw canmol crefft yr awdures, sydd yn llwyddo i osgoi sentimentaleiddiwch a gormodedd ill dau wrth iddi lynu at bersbectif y plentyn yn effeithiol ac yn awgrymog o gryno drwy gydol troeon ei stori.
Celfydd ac argyhoeddiadol iawn hefyd yw ei defnydd o'r iaith lafar.
Gobaith mewn adfyd Yr hyn a rydd obaith i Geraint yn ei adfyd yw'r syrcas a ddaw i'w gymuned bob hyn a hyn gyda sbloet o liw a rhamant, ac a ddaw'n symbol o ddihangfa ac o ryddid iddo.
Yr hyn a amharodd ryw ychydig ar fy mwynhad o'r nofel fach hon oedd y diweddglo, oedd, ar yr un pryd, braidd yn frysiog ei ddigwyddiadau ac yn rhy amhendant ei gynnwys emosiynol.
Gobeithio gweld mwy Nofel gynta Mary Annes Payne yw hon, ac un a ddaeth yn agos at y brig yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Nhyddewi yn 2003.
Rwy'n mawr obeithio y gwelwn fwy ganddi. Does dim dwywaith am ei chynildeb a sicrwydd ei gafael ar yr iaith lafar ac ar y grefft o ddarlunio awyrgylch, cymeriad a golygfa.
Wedi'r rhagflas hwn, edrychwn ymlaen at weld gwaith mwy estynedig a mwy uchelgeisiol fyth.
Cyfle i chi drafod llyfrau ebostiwch |  | 
|