
 |  | Yma o hud
Bethan Gwanas yn rhoi stêm ar sbectol Harry Potter!
Gorffennaf 2003
| Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Gwasg Gomer. £6.99. Adolygiad gan Ian Edwards.
MAE'N hawdd gweld sut bydd nofel ddiweddara un o awduron cyfoes mwya' poblogaidd Cymru yn apelio at ei llu o ddarllenwyr ffyddlon.
Ond mae Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas gyda'r potensial hefyd o ddenu cynulleidfa nad yw erioed wedi taro llygaid dros nofel Cymraeg - drwy gyfuno testun atyniadol ac arddull a iaith sy'n hawdd i'w darllen.
Dychwelyd i'w hardal Arwres Gwrach y Gwyllt yw Siwsi Owen, gwrach o'r 1600au sy'n dychwelyd y dyddiau hyn i'w hardal enedigol ger Dolgellau i ddial ar berthnasau pell ei herlidiwr o'r oes a fu ac i achub rhai o'i chyd-wrachod rhag melltith hen elyn.
Er gwathaf ei hoed mae Siwsi yn dal i allu defnyddio'i hud a chyn bo hir mae dynion, a merched, yr ardal yn gaeth i'w swynion.
Ond rhaid i Siwsi wynebu rhai ysbrydion o'r gorffennol er mwyn ennill cyfiawnder wedi ei chanrifoedd o alltudiaeth.
Mae'r nofel hon yn delio gyda llawer mwy na'r byd goruwchnaturiol a'r awch i ddial.
Mewnfudwyr modern Mewn sawl golygfa mae Siwsi (a Bethan Gwanas ei hun, yn siwr) yn cael ei siomi gyda'r ffordd mae'r Saesneg wedi treiddio i Gymraeg lafar pobol yr ardal.
Drwy hyn mae'r awdur yn gwneud sylw ar un o effeithiau y mewnlifiad ar yr ardal.
Ond wedi dweud hynny mae'r ffaith fod iaith y nofel yn adlewyrchu'n realistig sut mae pobl Cymru yn defnyddio'r Gymraeg heddiw yn cyfrannu elfen o'r cyffredin i stori hollol anghyffredin.
Gwryw a benyw Mae pob un o'r cymeriadau benywaidd yn y nofel yn fyw ar y ddalen ac yn ennyn cydymdeimlad.
Ond yn ôl Ms Gwanas ma pob dyn - yn y llyfr yma o leia' - yn wan, yn frwnt, yn gachgi slei ac yn cael ei reoli gan ei nwydau rhywiol.
Er efallai fod yna elfen o wir yn hyn mae'r maniffesto 'Girl Power' yma yn creu cymeriadau gwrywaidd arwynebol iawn.
Hefyd, rhaid dweud fod darllen rhai o'r golygfeydd 'rhywiol' yn cael yr un effaith a gwrando ar eich mam yn sôn am be fyddai hi'n lecio'i wneud i'r dyn llefrith!
Dros y degawdau diwethaf sicrhaodd llwyddiant aruthrol rhaglenni teledu fel The X Files, Buffy the Vampire Slayer a Twin Peaks fod y goruwchnaturiol mewn bri ymysg y cyhoedd.
A thrwy ychwanegu i'r crochen ddigon o ryw i godi stêm ar sbectol Harry Potter llwydda Bethan Gwanas i gonsurio nofel sy'n cydio yn dynn ac yn hoelio sylw darllenwr o'r ddalen gyntaf un bron gan garlamu'n gyffrous at y bennod olaf!
Mwy am Gwrach y Gwyllt
|  | 
|