
 |  | Pobl T Llew
Asbri a dyneiddiwch hen ffordd o fyw
Ebrill 2003
| Fy Mhobl I gan T. Llew Jones. Gomer. £5.95
Prin yw'r llyfrau Cymraeg hynny sy'n mynd i ail argraffiad ond mae'n rhywbeth y mae T. Llew Jones wedi hen arfer ag ef.
Wele, o fewn ychydig fisoedd o gael ei gyhoeddi mae ei lyfr diwethaf - ac olaf, medda fo - yn ôl yn y siartiau llyfrau yn dilyn ei ailargraffu.
Digwyddiad trist ar y teledu ychydig yn ôl oedd clywed yr arch-storiwr plant hwn yn datgan na fyddai'n sgrifennu eto gan fod ffynnon yr awen wedi sychu meddai.
Atgofion Cyfrol o atgofion hunangofiannol, Fy Mhobol I, a ddewisodd i gau pen mwdwl o lafur rhyfeddolac mae'n gyfrol sy'n adlewyrchu holl afiaeth a holl ddyneiddiaeth y llenor a bardd tra chynhyrchiol hwn.
Hyd yn oed os gwireddir ei ddarogan na ddaw llyfr arall o'i law bu ei gynhaeaf yn un toreithiog odiaeth a hynny dros gyfnod pan fu'n rhaid iddo gyflawni swmp o'i lenydda yn ystod ei amser hamdden.
Dros y blynyddoedd cyhoeddodd ymhell dros hanner cant o lyfrau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn llyfrau plant yn amrwyio o gyfrolau barddoniaeth i nofelau antur.
Sgrifennodd ar gyfer oedolion hefyd ac enillodd gadair y Genedlaethol ddwywaith a chael ei gydnabod yn un o'n pennaf meistri canu caeth.
Teulu, cydnabod, cynefin Mae Fy Mhobol I yn gyfrol hyfryd sy'n rhoi cyfle iddo hel atgofion nid yn unig am ei fywyd ei hun ond am ei deulu, ei gyfoedion, ei gydnabod a'i hen gynefin..
Mae'r llun ohono ar y clawr a dynnwyd yn sgubor y Cilie gydag eneidiau eraill hoff gytun yn cyfleu i'r dim afiaith a llawenydd y gyfrol hon.
Er bod yr atgofion yn ymddangos fel pe byddent yn mynd a dod fel gloynnod byw drwy'r gyfrol y mae ffurf a chynllun i bob ysgrif gyda chymysgedd o'r dwys a'r digrif o lawenydd ac o siom.
Newid ddaeth Cychwyn gydag atgofion melys am aelwyd ei blentyndod.
"Dyw'r bwthyn ddim yn bod bellach, wrth gwrs. Fe'i tynnwyd i lawr i wneud lle i fyngalo newydd, crand, i ryw Sais na wn i mo'i enw," meddai mewn ychydig eiriau sy'n cyfleu cyfrolau.
Disgrifia ef a briod yn ymweld â'r hen gartref:
"Unwaith, flynyddoedd maith yn ôl fe euthum â'r wraig i Iet Wen i ddangos iddi'r cartre oedd gen i . . . fe ges i syndod i weld nad oedd yr hen le wedi newid rhyw lawer yn ystod y deugain mlynedd a mwy ers imi fyw yno'n blentyn.
"Pwysais ar y latsh - roedd y drws ynghlo fel y disgwyliwn. Ond pan oedden ni ar fin cerdded ymaith, dyma ni'n clywed rhyw swn, rhyw gyffro tu fewn.
"Euthum at y ffenest wedyn . . . Cefais dipyn o sioc wrth weld yr olygfa tu fewn. Yno, ar lawr ein parlwr ni gynt, gorweddai hwch fagu fawr, yn ei hyd, a thorraid o foch bach yn ei sugno. Roedd y peth yn ddigon naturiol wrth gwrs. Roedd ffermwr cyfagos, gan wybod fod yr hen dy yn wâg ac yn dadfeilio wedi manteisio ar y cyfle i roi hwch fagu a'i pherchyll i mewn yno.
"Wrth edrych ar yr olygfa drwy'r ffenest y diwrnod hwnnw, ni allwn lai na chofio Mam a'i gofal fod popeth yn lân ac yn ei le yn y parlwr gynt. A dyma ei pharlwr hi wedi mynd yn dwlc mochyn."
Ni all rhywun beidio a meddwl bod yma ddameg o Gymru . . . Ymhlith Sipsiwn Down i adnabod llu o gymeriadau - diflanedig erbyn hyn - cefn gwlad yn y gyfrol ac o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Tân ar y Comin y mae ei bennod am Sipsiwn a bod dau o gymeriadau'r nofel honno wedi eu sylfaenu ar bobl go iawn.
". . . roedd yna ffin ddiadlam rhyngddom," meddai er gwaethaf pob ymwneud.
"Pobl wahanol oeddem. Pobl tai oedden ni, a Romani oedden nhw. A nhw, yn bennaf, fyddai'n cadw'r ffin. Er y byddai merched y sipsiwn yn dod i ddrysau'r tai i ymgreinio ac i fegian, doedd yna rywsut, ddim colli urddas yn y peth.
"Cefais yr argraff droeon eu bod yn eu cyfri eu hunain yn bobl o waed purach - gwaed y Romani," meddai am y Sipsiwn.
Yn y bennod hon, hefyd, y mae ymdeimlad o gymdeithas a ddarfu - gyda darn arall lliwgar o "dapestri prydferth ein cymdeithas bentrefol ni" yn diflannu a'r tapestri o'r herwydd yn salach peth.
Tinc galar Mae tinc galar yn ei eiriau: "Fy mhobol i! Maen nhw wedi mynd i gyd bron - Cymry oedden nhw bob un - 'fy mhobl i' - a'r Gymraeg ar eu gwefusau. Ac o ystyried y dirywiad cyson yn ansawdd yr iaith yn yr oes sydd ohoni, mae'n siwr gen i fod tipyn o'r miwsig hwnnw wedi darfod gyda nhw - a hynny am byth."
Ie, os yw rhywun yn ymwybodol o unrhyw beth wrth ddarllen y gyfrol hon bod yn ymwybodol o'r effeithiau difaol hynny ar y gymdeithas Gymraeg ydyw.
"Heddiw , yn ein hysgolion Cymraeg iaith gyntaf ni, mae'r plant o aelwydydd Cymraeg yn y lleiafrif llethol. Dyna i chi mor bell mae'r gorlifo wedi cerdded. Ac rwyf i wedi byw yn ddigon hen i weld y peth yn digwydd," meddai.
Boneddigion yr Eisteddfod Ond er yn galaru am y newid nid truth cwynfanllyd, pruddglwyfus mo'r gyfrol hon gan ei bod yn rhwydo afiaith ac asbri y dyddiau gwell, fel yn y bennod lle mae'n sôn am y tro ar fyd a ddaeth yn hanes cystadleuwyr Eisteddfodol:
"A ydych wedi sylwi fel y mae eisteddfodwyr a chystadleuwyr mewn eisteddfodau wedi mynd yn greaduriaid rhyfedd o ddof a pharchus. Y dyddiau hyn?" hola.
"Go brin y clywn am neb yn gwrthdystio'n gyhoeddus nac yn dringo'n herfeiddiol i'r llwyfan i brotestio, neu ymosod yn gorfforol ar y beirniad. Yn wir, go anaml y clywn am neb 'wedi cael cam' bellach. Mae rhyw foneddigeiddrwydd a rhyw oddefgarwch anniddorol wedi disgyn dros holl faes cystadlu eisteddfodol," meddai gan fynd rhagddo i sôn am ambell i ffrae a fflamiodd ar ddalennau ein papurau cenedlaethol.
Hoff o ddarllen Hawdd gweld o'r gyfrol hon sut y daeth T. Llew yn gymaint storiwr gan ei fod yn ddarllenwr mawr ei hun.
"Darllen a darllen a darllen degau a channoedd o lyfrau - Saesneg yn bennaf - trwy flynyddoedd fy iengfyd a'm llencyndod, a hynny, rwy'n meddwl, yn fy ngalluogi yn ddiweddarach i sgrifennu llyfrau fy hunan."
Gwrthodwyd iddo, fodd bynnag, fynediad i Goleg y Drindod - er i'r Coleg hwnnw gallio drigain mlynedd yn ddiweddarach a'i ddyrchafu'n Gymrawd.
Wedi ei wrthod, fe'i derbyniwyd yn pupil teacher mewn ysgol. Bu wedyn yn gweithio gyda giang o nafis, yn gwympwr coed, yn weithiwr swyddfa ac yn ddyn siwrin cyn dod maes o law wedi cyfnod yn y Dwyrain Canol adeg y rhyfel yn brifathro ysgol.
A go brin y gellid dadlau i'r profiadau hynny fod yn well coleg nag unrhyw sefydliad addysgol swyddogol iddo!
|  | 
|