
 |  | Llyfrau'n cydio
Ysgol yn dathlu Diwrnod y Llyfr
Mawrth 2003
| Yr oedd y disgyblion hyn o Ysgol Gynradd Llanrug ger Caernarfon ymhlith miloedd ar hyd a lled Cymru a fu'n dathlu Diwrnod y Llyfr, Mawrth 6.
Yn yr ysgol crewyd grwpiau trafod a darllen rhwng disgyblion oedd yn ymddiddori yn yr un diddordebau.
"Yn naturiol roedd y criw Harry Potter wrth eu boddau!" meddai'r prifathro gan ychwanegu fod yna hen ddisgwyl yn Llanrug am y gyfrol Harry Potter gyntaf yn y Gymraeg.
Sut gwnaethoch chi ddathlu Diwrnod y Llyfr? Anfonwch i ddweud


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|