
 |  | Cewri i'r dysgwyr
Detholiad o farddoniaeth yr ugeinfed ganrif
Ebrill 2003 |
Cerddi'r Cewri. Golygydd, Islwyn Edwards. Cyfres Cam at y Cewri. Gwasg Gomer. £7.95 .Casgliad o gerddi wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer dysgwyr ydi hwn - er mwyn iddyn nhw gael blas ar rai o gerddi gorau'r ugeinfed ganrif yn y Gymraeg.
Er bod yma nifer o gewri diamheuol barddoniaeth Gymraeg yn bresennol - R. Williams Parry T. H. Parry-Williams, T Gwynn Jones, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd a Gwyn Thomas er enghraifft - ni ellir peidio a holi a yw pob un o'r beirdd y cynhwysir eu gwaith yn haeddu'r disgrifiad hwnnw.
Nid dysgwyr yn unig Ond a rhoi o'r neilltu deitl braidd yn ymhongar y gyfrol y mae hon yn flodeugerdd ddefnyddiol ddigon at iws ty - nid yn unig ar gyfer y dysgwyr y'i bwriadwyd ar eu cyfer ond ddarllenwyr Cymraeg eraill hefyd.
Mae yma gerddi fel Hon, T. H. Parry-Williams, Daffodil, I. D. Hooson, Y Llwynog, R. Williams Parry, Dysgub y Dail, Crwys a Fy Ngwlad (Wylit, wylit, Lywelyn) Gerallt Lloyd Owen y byddai'n anodd eu hepgor o unrhyw gasgliad cynrychioliadol o farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Darllen a thrafod "Pwrpas y gyfrol hon," meddai'r golygydd yn ei ragair, "yw cyflwyno rhai o gerddi gorau Cymru'r ugeinfed ganrif i bobl sydd wedi dysgu Cymraeg.
"Maen nhw i gyd yn addas i'w darllen gan unigolion . . . ond dewiswyd llawer ohonynt yn fwriadol er mwyn ysgogi trafodaeth mewn grwp neu ddosbarth hefyd."
Nid yn unig y mae amrwyiaeth o feirdd - Waldo, Gwenallt, Cynan, Steve Eaves, Twm Morys, Sarnicol, Myrddin ap Dafydd, Geraint Jarman, John Roderick Rees, Nesta Wyn Jones, Einir Jones, Sonia Edwards, Mererid Puw Davies, Sheelagh Thomas, Elin Llwyd Morgan a Mererid Hopwood - ond y mae amrwyiaeth o wahanol fathau o gerddi.
Braf gweld cwpledi epigramatig Sarnicol, er enghraifft, Angau yw'r un peth sicr yn y byd Er hyn pan ddaw, ein synnu a gawn i gyd. yn cydwelya a thelynegion mirain fel Melin Tref-fin, Crwys ac Aberdaron, Cynan.
Dewis o englynion Da gweld hefyd na chafodd y golygydd ei demtio i hepgor englynion a cherddi eraill yn y mesurau caeth gan dybio y byddent yn 'rhy anodd' i ddysgwyr.
Mae yma nifer o englynion sy'n dangos y grefft ar ei gorau fel Y Goeden Nadolig gan T. Arfon Williams, Yn enw cariad, paid â'i gadael yn hagr I wgu'n y gornel; Dwy owns neu lai o dinsel Wna'r wrach ddu'n briodferch ddel.
Ac englyn ysgytwol Alan Llwyd, Cenedl: Ei charu, ond â chwerwedd; - ei serchus Warchod ag eiddigedd, Ac â'r bâl agor ei bedd Er dyheu na ddaw'r diwedd.
A da gweld fod Gorwel Dewi Emrys yn parhau'n Hen derfyn nad yw'n darfod mewn casgliadau fel hyn!
Cwbl amserol
Mae nifer o'r cerddi yn ysol o amserol fel Y Trydydd Byd gan Myrddin ap Dafydd: Cawn eu reis at ein heisiau cawn yd, cawn eu mêl a'u cnau, cawn eu ffrwythau gorau i gyd, hufen eu daear hefyd; ni, lydan ein waledi - byd noeth sy'n ein bwydo ni.
Gwelwn eu plant yn swnian, y bol gwag a'r ymbil gwan, isio bwyd ar fymryn sbâr; gwelwn lygaid eu galar a thrwy logau banciau byd, gwelwn holl aur eu golud.
Rhown geiniog prynu gwenith, i'w gwlad, powlennaid o'n gwlith, a llwch dyngarol ein llaeth a gwên hael yn gynhaliaeth; ni, lawn o bob haelioni - byd noeth sy'n ein bwydo ni.
Gwerth dysgu Er y gallai rhywun yn dadlau ynglyn â defnyddio'r gair cawr i ddisgrifio pob un o'r beirdd yma y mae digon o gerddi cawraidd i gyfiawnhau y teitl a digon i wneud i ddysgwr deimlo iddi fod yn werth chweil dysgu'r Gymraeg.
Ac i'r rhai sy'n dal yn ansicr eu cerddediad ieithyddol y mae yma faglau ar ffurf geirfa ac eglurhad ar waelod pob dalen. |  | 
|