
 |  | Canu fel caneris
Cynnyrch plant a'u bardd
Mehefin 2003
| Caneri Pinc ar Dywod Euraid gan Menna Elfyn. Cerddi Bardd Plant Cymru 2002-3 a Beirdd Ifanc Cymru. Darluniau gan Sarah Berry, Catrin Meirion Jones a Siôn Morris. Hughes. £4.99.
Adolygiad gan Lowri Johnston Llyfr sy'n cynnwys cerddi gan Fardd Plant Cymru 2002-03, Menna Elfyn, a rhai o'r plant y bu hi'n gweithio gyda nhw dros y flwyddyn yw hwn.
Teithiodd Menna Elfyn i sawl ysgol yng Nghymru yn cynnal gweithdai barddoni gyda'r plant a'u hannog i ysgrifennu.
Llawn dychymyg Gwelwn o ffrwyth eu llafur i'r plant fwynhau eu hunain yn fawr iawn - mae'n gasgliad hyfryd o gerddi creadigol ac yn llawn dychymyg.
Mae 59 o gerddi yn y gyfrol hon; deg gan Menna Elfyn a 49 gan blant.
Mae cerddi Menna Elfyn yn rhai reit hoffus a gellir dweud bod dylanwad y plant arni yn reit amlwg yma. Mae'n adrodd chwedl y pinwydd a'r caneri a Spike, cimwch 65 oed o Galiffornia, a llawer mwy, wrth gwrs.
Rhoi hyder Ac wedyn down at gerddi'r beirdd ifanc. Yn sicr, mae'r gyfrol yn rhoi hyder inni fod yna lu o feirdd ifanc dawnus yng Nghymru - rhai, efallai, na fyddai byth wedi meddwl ysgrifennu cerdd ond wedi llwyddo'n wych.
Cawn gipolwg ar feddyliau blant Cymru a beth maen nhw'n poeni amdano. Diddorol oedd gweld elfen o fyd natur yn ymddangos sawl gwaith yn y cerddi megis, Y Goedwig Law, Llyn Padarn a Hydref.
Mae yna hefyd lawer o gerddi am anifeiliaid er enghraifft, Pilipala, Y Robin Goch, Dafad, Alarch, Y Wiwer.
Yn sicr mae'n amlwg bod byd natur yn bwysig iawn i'r plant.
Gwelwn hefyd beth sy'n poeni'r plant; Anobaith, Bachgen Bach Unig a Pam Bywyd?
Ysgrifennodd Thomas Coombe a Katie Skuse o Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Abercarn ynBachgen Bach Unig; Bachgen yn eistedd ar y wal. Meddwl am gi - heb ffrind A phawb yn chwerthin am ei ben. Coes yn brifo. Eisiau Mam a Dad.
Cysglyd, breuddwydiol ac unig.
Cerdd drist ac eithaf personol yw hon ac mi oeddwn i yn ei hoffi gan ei fod yn dangos teimladau'r plant a'r hyn y maent yn poeni amdano. Mae'r plant yn agor eu calonnau ac yn dangos beth sy'n mynd ymlaen yn eu meddyliau.
Ychwanegu lliw Mae'r lluniau yn y gyfrol hefyd yn ychwanegu ychydig o liw i'r llyfr ac yn dod â'r cerddi yn fyw i ni.
Un gerdd hoffais yn fawr oedd Pwy sy' na?gan Siôn Edwards o Ysgol Cynddelw, Wrecsam. Cerdd yw hi am y wê ac mae'n gorffen gyda'r linell; A dyna wers fawr i chi - Peidio trystio neb ar y wê.
Mae'n debyg fod y plant wedi dysgu sut i gyflythrennu ac i gymharu gan fod y rhan fwyaf o'r cerddi yn llawn o rhain, gan eu gwneud yn hwylus i ddarllen.
Felly, cyfrol hwylus a diddorol, sydd bendant werth ei ddarllen. Mae'n addas i bawb - o bob oedran. Ac rwy'n siwr mae nid dyma'r tro olaf y byddwn ni'n clywed gan y beirdd ifanc - gobeithio eu bod wedi cael eu hysbrydoli i ysgrifennu mwy i'r dyfodol.
Cyhoeddi'r llyfr yn Eisteddfod yr Urdd
|  | 
|