
 |  | Llyfr doniol - yn codi'r felan
Druan o ffermwyr - druan o ddarllenwyr
Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002
| ‘Sna’m llonydd i’ ga’l! (2 gan Margiad Roberts Gwasg Carreg Gwalch £4.50
 Adolygiad gan Dafydd Meirion
Does dim cof gen i imi agor llyfr doniol o’r blaen ac imi deimlo’n drist wrth ei ddarllen. Ond dyna wnaeth ‘Sna’m llonydd i’ ga’l.
Yn wir, mi gododd o’r felan arna i. Os ydych chi â’ch bryd ar fynd i fynd yn ffarmwr, peidiwch â’i ddarllen o, neu ewch chi byth!
A dwn i ddim a ddylwn ei argymell i rywun sy’n ffermio'n barod; byddai o neu hi’n teimlo’n well wedi ei ddarllen o allu cydymdeimlo efo Ifor a Marian ynteu a fyddai o’n fwy tebyg o roi’r ffidil yn y to?
Yn erbyn y byd Mae pawb a phopeth yn erbyn Ifor Corsydd Mawr - y tywydd, yr anifeilaidi ac, yn bennaf, y Ministri a’i rheolau, ei rheoladau, ei thagiau a’i ffurflenni.
A dylai’r awdur wybod cystal â neb. Dydy Margiad Roberts yn wraig fferm ei hun.
O dan y doniol, wedi’i lledaenu’n drwchus, mae neges - yn wi,r cri o blaid y ffermwyr. Ond a dydy’r neges yn mynd yn fwrn ar brydiau?
A fyddai’n well fod wedi cael Ifor allan o’i fferm a’i drafferthion am dipyn? Ond fel fysa Ifor yn ei ddweud, does ganddo ddim amser. Mae hi’n frwydr o fore tan nos, o un pen i’r flwyddyn i’r llall.
Rwy'n cofio cael yr un teimladau o ddarllen Grapes of Wrath gan John Steinbeck. Y ffarmwr bach yn erbyn y byd.
Y trogod ar ei warthaf Mae’r ‘trogod’ neu’r biwrocratiaid ar ei ôl, yn ei orfodi i wneud hyn ac yn ei orfodi i beidio gwneud y llall.
"Roedd pob tag mawr melyn yn costio pumpunt yr un a phob un yn fawr ac yn felyn er mwyn i’r dynion o’r Ministri fedru darllen y rhifa o bell er nad oedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gwbod y gwahaniath rhwng buwch a hwch."
A phobol felly sy’n poeni Ifor, bobol wnaeth erioed ‘ddiwrnod go iawn o waith’.
"Doedd yr un o’r holl fiwrocratiaid a ddaeth yno i’w cynghori hi wedi dangos unrhyw awydd na bwriad o gwbwl i sefydlu ei fusnas ei hun," meddai Marian wrth iddi geisio sefydlu busnes Te Bach i ddod ag arian ychwanegol i’r fferm.
Mae Ifor yn rhestru faint o waith sydd yna efo anifeiliaid a hynny er mwyn ceisio gwneud elw bychan - hynny yw, os na wnaiff y Ministri atal ei sybsidi.
"’Da ni wedi bwydo, bugeilio, dipio, cneifio, marcio, doshio, injectio, trin traed, tendio, lapio gwlân ... porthi, bugeilio ... nes ’da ni’n dau ar ’n glinia. A ’da chi’n dwad yma un pnawn yn ych dillad glân a’ch dwylo meddal ac yn deud ’n bod ni’n twyllo hefo’r cyfri am nad yda chi’n fodlon derbyn mai heddiw farwodd y ddafad ’na."
O un trafferth i'r llall Mae Ifor o un trafferth i’r llall, ac yn rhedeg drwy’r stori mai’r ffaith ei fod wedi cael cic gan fuwch yn ei benglin ac na all wneud yr amser i fynd i weld y meddyg.
Heb yr hiwmor, dwi’n siwr y byswn i wedi rhoi’r llyfr i lawr cyn cyrraedd ei hanner.
Ond dwi’n credu y dylai pawb ei ddarllen. Mi rydan ni i gyd yn bwyta cynnyrch y ffermwr ac efallai rhoith y llyfr yma rhyw syniad na nid allan o baced a thun y daw pob dim, ac efallai - ni bobol y dwylo meddal a’r job naw tan bump - y bydd gennyn ni rhywfaint o gydymdeimlad â phobol y pridd.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|