
 |  | Dod a'r Llyfr Du i'r golau
Llyfr hynaf Cymru ar y We
Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002
| Cysylltir Abertawe’nUn o ddigwyddiadau mwyaf diddorol y flwyddyn hon oedd gosod Llyfr Du caerfyrddin ar y we gan y llyfrgell genedlaethol.
Go brin fod angen ysgolhaig i ddweud wrthyf i'r llyfr hanesyddol hwn gael ei enwi oherwydd lliw ei rwymiad - ond rhaid troi at yr arbenigwyr a gwefan y Llyfrgell am fwy o'i hanes.
Eu barn hwy yw fod iddo gysylltiad â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, Caerfyrddin ac yn waith un copïydd a luniodd y gyfrol ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd.
Un o'r rhai cynharaf Yr oedd hyn o gwmpas y flwyddyn 1250 sy'n golygu fod y Llyfr Du yn un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf sydd ar gael.
Daeth y llawysgrif i feddiant Syr John Price, Aberhonddu yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Yr oedd o'n ddyn gyda diddordebau llenyddol a hynafiaethol a benodwyd yn brif gofrestrydd y goron mewn materion eglwysig, ac yn rhinwedd y swydd honno fe aeth ati i archwilio'r mynachlogydd a ddiddymwyd gan Harri'r VIII.
Daeth o hyd i'r Llyfr Du, yn ôl yr hanes, ym meddiant trysorydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a dywedid ar y pryd fod y llawysgrif wedi dod o Briordy Caerfyrddin.
Ychydig a wyr yr arbenigwyr hyd yn oed am hanes y gyfrol ar ôl iddi gael ei hachub gan Syr John hyd yr ail ganrif ar bymtheg pan ddaeth i feddiant hynafiaethydd o'r enw Robert Vaughan a fu farw yn 1666).
Llyfrgell helaeth Mi gasglodd o lyfrgell helaeth o lyfrau a llawysgrifau o'r pwysigrwydd mwyaf yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, yn ei gartref, Hengwrt, ger Dolgellau, Meirionnydd.
"Fodd bynnag, ar gyfnod cynharach, ymddengys i'r llawysgrif fod ym meddiant ysgolhaig a chasglwr llyfrau arall, sef Jasper Gryffyth (bu farw 1614), warden Ysbyty Rhuthun, a ysgrifennodd ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn y Llyfr Du yn ogystal â llunio nodyn ar y cynnwys," meddaai gwefan y Llyfrgell genedlaethol.
Ysgrifennodd William Salesbury (c. 1520-1584?), cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg, nodyn ar waelod un o'r tudalennau hefyd.
Yn ôl Robert Vaughan bu'r bardd Siôn Tudur a fu farw yn 1602 yn berchen ar y llawysgrif ar un adeg.
Mynd i Beniarth Pan fu farw gor-gor-gor-gor-wyr Robert Vaughan, Syr Robert Williames Vaughan, yn 1859, pasiodd llyfrau a llawysgrifau Hengwrt trwy gymynrodd i'w gyfaill William Watkin Edward Wynne (1801-80) o Beniarth ger Tywyn, Meirionnydd.
Tra yr oeddent ym Mheniarth, fe gatalogwyd y llawysgrifau Cymraeg gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer ei Report on Manuscripts in the Welsh Language, a gyhoeddwyd yn 1899.
Rhoddodd Gwenogvryn Evans amlygrwydd i'r Llyfr Du drwy ei glustnodi yn llawysgrif Peniarth 1.
Mae Llyfr Du Caerfyrddin ynghyd â gweddill casgliad llawysgrifau Peniarth bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Pum mil a hanner Talodd Syr John Williams, barwnig (1840-1926) a meddyg i Dduges Caerefrog £5,500 am y casgliad, gyda Llyfr Du Caerfyrddin wedi ei brisio am £400 er mwyn ei gael i'r Llyfrgell.
Lluniwyd y llawysgrif o wyth cydiad o femrwn cryf wedi eu gwnïo ynghyd i ffurfio cyfrol o 108 tudalen.
Ond dydi'r gyfrol ddim yn gyfan.
Newid ei sgrifen "Yr hyn sy'n taro llygad darllennydd fwyaf yw diffyg cysondeb y llaw a'i hysgrifennodd, yn y ffordd y tynnwyd y llinellau ar bob tudalen cyn ysgrifennu ac yn y llawysgrifen ei hunan lle ceir anghysondebau na cheir fel arfer mewn llawysgrifau a luniwyd gan gopïwyr proffesiynol o'r cyfnod hwn," meddir ar wefan y Llyfrgell.
"Mae hyn i gyd yn ategu'r farn fod y copïydd yn gweithio ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd. Hwyrach y bwriadai lunio mwy nag un gyfrol, ond yn lle hynny daethpwyd â'r cydiadau memrwn gwahanol at ei gilydd ar ryw adeg a'u rhwymo ynghyd ar ffurf y gyfrol a adwaenwn ni yn Llyfr Du Caerfyrddin."
Ar wahân i drioedd sy'n cyfeirio at geffylau chwedlonol yr arwyr Cymreig barddoniaeth ydi'r cynnwys.
" Ceir cerddi gyda phynciau crefyddol fel yr 'Ymddiddan rhwng y Corff a'r Enaid', ac awdlau moliant a marwnad fel 'Marwnad Madog ap Maredudd' (bu farw 1160), sy'n ddienw yn y Llyfr Du ond, yn ôl llawysgrif arall, a luniwyd gan y bardd llys, Cynddelw Brydydd Mawr (bl. 1155-1200).
"Ond hwyrach mai'r cerddi mwyaf trawiadol yw'r rheiny sy'n cynnwys storïau yn ymwneud o ran thema ag arwyr Prydain yn yr Oesoedd Tywyll, ac yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â chwedl Myrddin," meddir
Siarad gyda choeden Mewn dwy gerdd mae dyn dienw sy'n byw ar ei ben ei hun yn y goedwig yn cyfarch coeden afalau a mochyn gan broffwydo llwyddiant neu fethiant y Cymry yn y brwydrau sydd i ddod yn erbyn y Normaniaid yn Ne Cymru.
"Mae'n amlwg bod y llinellau sy'n cynnwys y proffwydoliaethau hyn wedi eu cyfansoddi ar ôl y digwyddiadau y maent yn honni eu rhagweld," meddir!
Ymhlith y cerddi chwedlonol yn y Llyfr Du y mae cerdd am borthor o'r enw Glewlwyd Gafaelfawr yn gwrthwynebu'r Brenin Arthur a'i gydymaith Cai gydag Arthur yn cael ei ddarlunio "yn fwy o arwr chwedlonol nag o ymerawdwr brenhinol mawr yn null Sieffre o Fynwy."
Y Llyfr Du ar Wefan Y Llyfrgell Genedlaethol
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|